Cystadleuaeth: Sut Wyt Ti Am Oroesi'r Zombies?
"Yn y dyddiau cynnar, yn syth ar ôl i'r trychineb ddigwydd, a cyn iddo ddeall y peryglon, roedd Deke wedi crwydro'r strydoedd mewn hyfrydwch – yn torri, llosgi, malu – prin yn gallu credu nad oedd neb o gwmpas i'w stopio a gallai wneud beth bynnag yr oedd eisiau.
Cafodd y rhyddid gwallgof, llawen ei dorri'n fyr pan ddarganfuwyd nad oedd yr holl oedolion wedi marw. A byddai'r rhai oedd wedi byw yn dy drin di'n llawer gwaeth nag unrhyw riant, athro neu blismon os byddant yn dy ddal di. Efallai byddai rhiant yn stopio di rhag mynd allan, athro yn dy gadw di ar ôl ysgol a'r heddlu wedi dy arestio di, ond byddai'r un ohonynt wedi ceisio bwyta ti fel yr oedolion oedd yn crwydro'r strydoedd y dyddiau hyn."
- cyfieithiad o ddyfyniad o The Enemy, Charlie Higson [darllen y dyfyniad llawn]
Mae'r gyfres The Enemy gan Charlie Higson yn dilyn stori Llundain ôl-apocalyptaidd ar ôl i firws, sydd yn effeithio pobl dros 14 oed yn unig, chwalu gwareiddiad a gadael plant a phobl ifanc yn ymdopi ar ben eu hunain mewn byd newydd ble mae oedolion wedi cael eu newid i mewn i angenfilod difeddwl sy'n bwyta cnawd.
Os oeddet ti wedi mwynhau darllen Lord of the Flies neu yn hoff o ffuglen apocalyps zombie yna byddi di wrth dy fodd efo'r gyfres yma. Mae'r digwyddiadau yn The Fallen yn digwydd ar yr un pryd a'r digwyddiadau yn y llyfr cynt, The Sacrifice, ac yn syth ar ôl diwedd y llyfr cyntaf yn y gyfres, The Enemy. Mae The Fallen yn datgelu cliwiau pellach am yr afiechyd sydd wedi taro Llundain ac yn cyflwyno brîd newydd o blant fydd efallai yn dal y gyfrinach am ble mae'r salwch wedi dod a sut mae'n gweithio.
Ennill Copi
Rydym wedi cael gafael ar bum copi ac eisiau rhoi'r rhain yn wobr i ffans arswyd ifanc teilwng. Wrth gwrs, nid oes pwrpas mewn rhoi llyfr mor anhygoel i ti os nad ydym yn credu medri di ymdopi gyda'r pwnc, felly rydym wedi creu cystadleuaeth:
Yn y sylwadau isod, dweud wrthym ni beth ydy dy gynllun goroesi'r apocalyps zombie di.
Gallai fod yn fyr neu'n fanwl dros ben, mae hynny yn ddewis i ti (er pwyntiau bonws mawr os wyt ti'n datblygu'r syniad i mewn i erthygl neu fideo).
Beth fydda ti'n gwneud os bydda ti'n agor y drws ffrynt yfory i weld zombies yn cnoi'r dyn post? Fydda ti wedi dychryn am dy fywyd neu wedi cyffroi ychydig nad fydd rhaid mynd yn ôl i'r ysgol/coleg/gwaith yn y dyfodol cyfagos? Fydda ti'n herwgipio bws ysgol, yn tapio picffyrch iddo ac yn gyrru o gwmpas yn achub dy ffrindiau? Fydda ti'n dianc i gefn gwlad, yn cuddio mewn pabell ac yn gobeithio na fyddent yn dod o hyd i ti? Neu bydda ti'n mynd am y ddinas – i gael cyflenwadau neu am y cyffro yn unig?
Gad cymaint o sylwadau ag yr wyt ti eisiau ac mae croeso i ti drafod cynlluniau gydag eraill; byddwn yn gwobrwyo'r 5 arbenigwr goroesi zombies gorau ac efallai bod gwaith tîm yn ffordd dda o gael ychydig o bwyntiau.
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 13eg Medi
Erthyglau Perthnasol:
- Creu Ffilm Zombie!
- Hoffi Zombies? Darllena The Sacrifice!
- Adolygiad: The Sacrifice
- March's Reading Power Book Club: The Enemy (o theSprout)
Gwybodaeth Ddefnyddiol:
Delwedd: Juliana Coutinho trwy Compfight cc