Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Cystadleuaeth DVD Free Style

Posted by National Editor from National - Published on 22/04/2010 at 15:42
0 comments » - Tagged as Movies, Yn Gymraeg

English version

Os yw’r enw Corbin Bleu yn golygu rhywbeth i chi, mae’n debyg eich bod yn ffan o High School Musical.

Mae’n fwy adnabyddus fel Chad, un o’r bobl ifanc hynny sydd wedi ei fowldio yn berffaith o’r fasnachfraint honno, ond mae’n anelu at fynd ymlaen ar ei ben ei hun ym myd ffilm.

Canlyniad hynny yw Free Style, ffilm newydd lle mae Bleu yn chwarae Cale Bryant, un sy’n gobeithio gwneud enw ym myd motocross sy’n anelu at ennill teitl mawr yn y gamp honno.

Ar ei daith i’r brig fe’i cefnogir gan deulu, ffrindiau a’r ferch newydd sydd o’i gwmpas, Alex, ond mae tipyn o anlwc a thrafferthion teuluol yn bygwth ei gadw rhag cyrraedd ei nod.

Ydy hyn yn rhywbeth a fyddai’n apelio atoch chi? Wel, efallai y byddech yn ennill un o’r tri chopi o’r DVD sydd i fod i ymddangos ar 26 Ebrill, os gallwch ddefnyddio eich dychymyg a dweud wrthym:

C: Pe baent yn gwneud ffilm newydd o High School Musical wedi ei lleoli yng Nghymru, beth fyddai’n enw mwy addas ar y ffilm?

Rydym yn chwilio am chwarae doniol ar eiriau, defnyddio enwau lleoedd a synnwyr digrifwch drygionus. I roi cynnig arni, ychwanegwch enwau teitl y ffilm fel sylwadau o dan yr erthygl hon. Cyhoeddir y tri enillydd ar ddyddiad rhyddhau’r ffilm: Dydd Llun 26 Ebrill, a hwn hefyd yw’r dyddiad cau.

Pob lwc!

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.