Cystadleuaeth: Ennill Skylanders Giants Calan Gaeaf
Paratoa am hanner tymor arswydus gyda chymeriad Skylanders Giants newydd – mae Halloween Eye-Brawl yn gymeriad newydd sydd ar gael yn Sainsbury's yn unig.
Os wyt ti'n hoff o'r gêm lwyddiannus Skylanders Giants neu efo brodyr neu chwiorydd iau sydd wrth eu boddau â'r gêm, yna byddi di'n hapus i glywed bod cymeriad newydd, cynhyrchiad cyfyngedig casgladwy yn cael ei ryddhau ar gyfer mis Hydref – Halloween Eye-Brawl!
Mae SWAP force yn adeiladu ar lwyddiant chwarae gêm y fasnachfraint gyda 'gallu ffeirio' newydd sydd yn rhoi'r dewis i ti gyfnewid hanner top a gwaelod y teganau i greu cymeriad dy hun, fel bod posib cymysgu'r pwerau a symudiadau'r cymeriadau, ac yna dod â nhw'n fyw yn y gêm! Mae'r gêm newydd yma ar gael dros lwyth o blatfformau chwarae ac yn gwerthu am £49.99.
Mae'r cymeriad newydd Halloween Eye-Brawl ar gael yn Sainsbury's yn unig, yn y siop ac ar-lein, am £14.99.
Felly, os wyt ti eisiau'r ffigwr Skylanders Giants cyfyngedig newydd yma, dyma dy gyfle i ennill un i ti dy hun (neu dy frawd neu chwaer fach)!
I ennill, yr unig beth sydd yn rhaid gwneud ydy gadael sylwad ar yr erthygl yma cyn 4yp ar ddydd Calan Gaeaf (dydd Iau 31 Hydref 2013), felly teipia a phob lwc!
Digwyddiadau – Cyfarfod Grŵp Golygyddol Sprout Hydref 2013
Erthyglau – Categorïau – Technoleg
Ar y We – Gwybodaeth Diogelwch
Erthygl Berthnasol: Game Guide: Skylanders
Cofia, fel gyda phopeth ar theSprout.co.uk, rydym yn edrych ar bob sylwad cyn iddo fynd yn fyw, felly nid fydd yn ymddangos ar y dudalen yma'n syth. Hefyd dim ond un cais i bob person.