Cynhadledd CLIC Cyntaf Erioed
Mae’r gynhadledd CLIC cyntaf erioed am ddim ac yn gadael i bobl o bob oedran drio gwahanol weithdai gan gynnwys ffilm, cerddoriaeth, ysgrifennu a chelf.
Bydd yn cael ei gynnal yn Institiwt Glyn Ebwy, Church Street, Glyn Ebwy, NP23 6BE o 9:45 tan 15:30 ar ddydd Llun 18 Hydref.
Os wyt ti rhwng 11 a 25 oed yna gall ymweld ’r stondinau gwybodaeth a siarad am deithio, gwaith, diwydiant a bywyd.
Mae’r gynhadledd yn gyfle gwych i gyfarfod pobl ifanc o’r un tuedd.
Gall gymryd rhan yn natblygiad CLIC a chael cyfle i gynyddu dy sgiliau ac ymuno gyda gr?p golygyddol lleol yn dy ardal.
I unrhyw un dros 25, mae’r digwyddiad ar gyfer pobl broffesiynol hefyd i gynyddu dealltwriaeth o CLIC, yn ogystal bod yn gyfle i roi adnoddau CLIC yn dy waith dy hun.
Mae’r gynhadledd hefyd yn le i archwilio a chysylltu efo stondinau gwybodaeth. Mae am ddim ac yn cael ei hwyluso gan bobl ifanc yn galluogi ei datblygiad personol a chymdeithasol trwy greadigaeth a datblygiad.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfa’r Comisiynydd Plant a’r Dirprwy Weinidog Huw Lewis AC yn cefnogi’r digwyddiad, ac mae wedi’i ddylunio i gysylltu ac annog pobl ifanc i gyfrannu at CLIC drwy greu a llwytho cynnwys i’r wefan.
Bydd Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler, a’r Dirprwy Weinidog I Blant, Huw Lewis AC, yn mynychu’r gweithdai sydd yn cael eu cyflwyno gan bobl ifanc yn yr institiwt.
Am wybodaeth bellach cysyllta :
Claire Gardner
Ffn: 01495 708028
E-bost: claire@cliconline.co.uk
Sarah Parfitt
Ffn: 01495 708028/07554236041
E-bost: sarah.parfitt@cliconline.co.uk