Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Cynghorwyr NSPCC ChildLine Yma I Helpu

Posted by Kathryn ProMo from Cardiff - Published on 16/08/2010 at 11:19
0 comments » - Tagged as Health, People, School Holiday Activities

English version

Mae’r gwasanaeth NSPCC ChildLine yn annog pobl ifanc sydd yn cael trafferth efo unrhyw broblemau dros y gwyliau haf i gysylltu a rhannu mewn cyfrinachedd. Fe ddylai gwyliau'r haf fod yn amser cyffrous a hwyl ond i rai pobl ifanc mae materion fel camdriniaeth, problemau perthynas teuluol, bwlio ac unigrwydd yn parhau i fodoli tu allan i’r tymor ysgol.

Dywedodd Julie Crossan, is-gyfarwyddwr ChildLine yng Nghymru: “Mae gwyliau’r haf yn golygu chwarae gyda ffrindiau, mynd ar wyliau teulu a diwrnodau allan i nifer o blant. Ond i rai pobl ifanc mae’r gwyliau ysgol yn gallu bod yn amser anodd iawn.”

Ychwanegodd: “Bwlio a phroblemau perthynas teuluol ydy dau o’r prif resymau pam fod pobl ifanc wedi galw ChildLine yng Nghymru llynedd.

Dydy’r problemau yma ddim yn stopio am fod ysgol wedi ac efallai bod rhai pobl ifanc dros Gymru yn cael trafferth ymdopi trwy’r gwyliau. Rydym yn annog pobl ifanc i rannu eu problemau a siarad chynghorwr ChildLine yn gyfrinachol.”

Gall siarad gyda cynghorydd yn uniongyrchol drwy ffonio 0800 1111 neu drwy ymweld www.childline.org.uk neu gyrra e-bost i ChildLine neu ysgrifenna ar eu byrddau negeseuon. Gall hefyd ddarganfod llawer o gyngor a gwybodaeth ar eu gwefan yn ogystal gemau hwyl ac offer creadigol.

Os wyt ti angen rhywun i siarad drosot yna gall hefyd cysylltu MEIC, lle mae eiriolwyr llinell gymorth yn gallu darparu gwybodaeth a chyngor i ti a gweithredu ar dy ran mewn sefyllfaoedd lle ti’n teimlo na allet ymdopi nhw.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.