Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Cyfweliad Ysgrifennwr Ffantasi

Posted by archifCLICarchive from National - Published on 04/03/2011 at 22:14
0 comments » - Tagged as Art, Culture, People

  • Dead Star

English version

Jaque Thay ydy awdur Jaque’s Magic Beans a Twictions ac mae yma ynghyd David Heyman o Dead Star Publishing yn Arddangosfa Gomig Caerdydd ar ddydd Sadwrn 26ain Chwefror 2011 yng Ngwesty’r Mercure. Yn gyntaf, fedri di ddweud ychydig wrthym am Dead Star Publishing?

Mae Dead Star Publishing yn nhŷ cyhoeddi bach sydd yn arbenigo mewn ffuglen wyddonol, arswyd a ffantasi. Hyd yn hyn rydym wedi cael rhai straeon byw, casgliad o syniadau nofelau graffig, rhai posteri ac rydym yn edrych ar gymryd o leiaf un o’r comigs [yn y confensiwn heddiw].

A pa lyfrau wyt ti wedi  cyhoeddi drwy Dead Star?

Mae Jaque’s Magic Beans yn llyfr o ugain stori fer, yn manylu siwrneiau a syniadau ac ymddangosiadau ac yn cael ei ddweud drwy amryw wahanol genre stori. Felly mae yna ychydig o ffuglen wyddonol, ychydig o ffantasi, ychydig o arswyd gydag ychydig o ffuglen gyffredinol ynddo hefyd. Yna mae Twictions, sef yr un rwyf fwyaf adnabyddus amdano: dwi’n ysgrifennu stori fer bob dydd ar Twitter sydd yn union 140 cymeriad ac Twictions ydy casgliad o’r goreuon.

Sut ddoes di’n ymglymedig Dead Star Publishing?

Dwi wedi adnabod David sydd yn berchen y cwmni am amser hir a dechreuom siarad un nos a hanes yw’r gweddill.

Beth fydda ti’n ddweud ydy’r rhan anoddaf o wneud llyfrau dy hunain?

Yr arian. Dod o hyd iddo.

Beth ydy’r rhan fwyaf gwobrwyol?

Pobl yn dod yn l atat ac yn dweud “Dwi’n licio hwn!”

Oes gen ti unrhyw gyngor i bobl sydd eisiau dod yn ymglymedig ysgrifennu neu llyfrau comig?

Os wyt ti eisiau ysgrifennu dim ond un gair o gyngor sydd gennyf: Cychwynna ysgrifennu!

Cyn i mi symud ymlaen i siarad David, ble gall pobl ddisgwyl prynu copi o Twictions neu Jaque’s Magic Beans?

Gall brynu llyfrau Deaf Star ar Amazon, Waterstone’s, WH Smith gall hefyd eu prynu ar wefan Dead Star.

Rydym nawr yn siarad gyda David Heyman, Pennaeth marchnata Dead Star. Pa mor hir ydych chi wedi bod yn mynd?

Yn dechnegol cychwynnom fis Awst diwethaf ar l y confensiwn ym Mryste, Roedd Danny Weston [prif artist a chynghorwr creadigol] a finnau yn gwneud ychydig o waith comig beth bynnag. Edrychom o gwmpas a chychwyn siarad gyda phobl a darganfod mai’r ffordd hawsaf o hyrwyddo dy hun yn y byd comig ydy i gyhoeddi dy hun Ac roedd gennym ddigon o ffrindiau oedd yn olygyddion, artistiaid ac ysgrifenwyr cyffredinol felly dyma ni’n penderfynu dylai cychwyn cwmni ein hunain. Felly ymchwiliom i mewn iddo a darganfod ei fod yn eithaf hawdd ac felly dyma ni.

Sut mae pethau’n mynd hyd yn hyn?

Yn dda iawn i ddweud y gwir. Mae gwerthiant yn eithaf cyson, mae gennym lawer o ddosbarthwyr  sydd yn gwneud gwerthu yn llawer haws ac mae llawer o adborth positif gan bobl sydd yn gweithio gyda ni ac yn prynu gennym ni.

Beth oedd y rhan fwyaf heriol o gychwyn cyhoeddwyr dy hun?

Y rhan fwyaf anodd mae’n debyg ydy dewis beth i gyhoeddi. Rydym yn cael llawer o gyflwyniadau bob wythnos, mae yna lawer i ddarllen drwyddo ac rydym yn hoffi ymateb i bawb, hyd yn oed os yw i ddweud “Dim diolch”. Ond mae’n darganfod y pethau iawn i ffitio’r farchnad rydym yn ceisio llenwi. Dyna’r peth anoddaf amdano.

Beth wyt ti’n meddwl ydy’r peth ti’n mwynhau fwyaf am y broses?

Confensiynau i ddweud y gwir. Yn clywed fod pawb yn hoffi beth ti’n wneud ac yn siarad am beth ti’n ysgrifennu a chyhoeddi.

Pa fath o bethau ydych chi’n cyhoeddi ar y funud?

Mae’n flwyddyn eithaf prysur i ni. Yn hwyrach heddiw rydym yn edrych i arwyddo contract gyda The Pride a Stiffs felly byddem yn gwneud hynny flwyddyn yma. Mae gennym gwpl o nofelau ffantasi yn dod allan, mae gennym Flwyddlyfr ‘Rising Stars’ arall yn cael ei ryddhau hwyrach yn y flwyddyn a chwpl o gasgliadau straeon byr. Rydym yn ceisio gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol; rydym yn ceisio cyfuno casgliad straeon byr gyda gwaith comig felly yn hytrach na chael rhywbeth ar wahn, rydym am gyfuno’r ddau arddull efo’i gilydd. Felly fe ddylai fod yn ddiddorol.

Mae’n neis clywed am gyhoeddwyr llyfrau comig Cymraeg. Pa gyngor fyddet ti’n rhoi i unrhyw bobl ifanc yng Nghymru eisiau cael i mewn i’r diwydiant llyfrau comig?

Nid oes llawer yn mynd ymlaen yng Nghymru, dyma’r Arddangosfa Gomig cyntaf yng Nghaerdydd. Yr un agosaf o’r blaen oedd ym Mryste, sydd ddim yn rhy bell ond mae’n eithaf lletchwith. Byddwn yn bendant yn dweud i siarad gyda chymaint o bobl a gallet. Mae pawb sydd yn ymglymedig yn gyfeillgar iawn ac yn gynorthwyol iawn. Dwi ddim wedi siarad efo neb sydd wedi dweud wrthyf lle i fynd. Byddwn i hefyd yn dweud os wyt ti eisiau cychwyn cwmni dy hun, edrycha ar bobl fel y Prince’s Trust, gan eu bod nhw yn ddefnyddiol i bobl sydd yn cychwyn busnes bach.

Beth ydy dy obaith am y cyhoeddwyr yn y dyfodol?

Is gallem barhau i dyfu ar beth sydd gennym yn barod yna byddai hynny yn wych. Rydym yn edrych ar gychwyn cystadlu yn y farchnad gyda chyhoeddwyr cyfryngau, yn dechnegol gwasg bach ydym ar hyn o bryd ond ar l eleni rydym yn gobeithio cychwyn cystadlu.

Beth ydy’r confensiwn nesaf i chi?

Bryste ac yna ar l hynny rydym yn bendant yn gwneud y Thought Bubble eto eleni ac efallai byddem ym Mirmingham hefyd.

Ar hyn o bryd mae Dead Star Publishing yn cymryd cyflwyniadau am Artistiaid, Ysgrifenwyr yn ogystal Thimau Artist ac Ysgrifenwyr. Pls gwelir y Canllawiau Cyflwyniadau ar eu gwefan am wybodaeth bellach.

Gall ddarllen ‘Twictions’ Jaque Thay drwy ddilyn ef ar Twitter neu drwy brynu’r llyfr o’r linc uchod.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.