Cyflwyniad Ysgrifennu Creadigol
Mae CLIC yn gweithio gyda Choleg Cymuned yr YMCA i achredu'r ysgrifennu creadigol rwyt ti'n cyflwyno i wefannau cymunedau CLIC.
Golygai hyn gallet ennill credydau sydd yn cael eu hadnabod yn genedlaethol a gall ychwanegu atynt ac adeiladu arnynt wrth i ti barhau i ddysgu.
Mae hyn i gyd yn dda ar gyfer dy CV pan rwyt ti'n ceisio am swydd, ac yn gyfle gwych i ddatblygu dy sgiliau ysgrifennu stori.
Bu rhai o dm staff Wicid yn cymryd rhan yn yr hyfforddiant ym Meddau wythnos yma, felly eistedda, ymlacia a mwynha rhai o'r straeon. Mae'r mwyafrif ohonynt heb eu gorffen, ond gobeithio gallwn ddarllen y fersiynau cyflawn yma yn fuan!
Bywyd Yn Nyddiau Lily Maude gan WICID Giggler
Roedd merch ifanc o'r enw Lily Maude, ddaeth o bentref bach mwyngloddio o'r enw Tynetown yn Rhondda Cynon Taf. Roedd pentref Tynetown yn deulu bach agos. Roedd hi'n ddynes eithaf mawr, gyda gwallt gwyn a llygaid glas. Pan siaradodd roedd plant y pentref i gyd yn ei hofni. Roedd hi wrth ei bodd yn treulio llawer o amser gyda'i theulu oed yn cynnwys merch, mab yng nghyfraith, dau ?yr, wyres a chi o'r enw Trixie.
Byddai'n ffarwelio ei gwr i'r gwaith yn fuan yn y bore. Roedd Sam yn gweithio ym mhwll glo Penrhiwceibr fel glwr, dyn oedd yn gweithio'n galed ac yn gorfod gweithio am oriau i ddarparu i'w deulu i roi bwyd a d?r ar y bwrdd.
Roedd Lily yn meddwl mai rl y dyn oedd bod yn y gwaith yn darparu ar gyfer y teulu tra roedd hi'n aros gartref yn coginio, glanhau, ymolchi a smwddio. Bob diwrnod byddai pawb oedd yn byw yn y t? efo gwaith eu hunain i wneud. Byddai Lily yn coginio gan fod hi wrth ei bodd yn gwneud popeth o'r newydd. Byddai ei merch Susie yn golchi'r dillad, ei wyrion Steve a Jason yn rhoi'r sbwriel allan ac yn glanhau eu llofft a'i wyres Josie yn gorfod golchi llestri a gwneud yn si?r bod ei llofft wedi'i lanhau.
Byddant yn cael eu harchwilio a byddai'n gweiddi i fyny'r grisiau, "Wyt ti wedi glanhau dy lofft eto?" a byddet yn clywed y plant yn gweiddi, "Do Nain dewch i weld." Os nad oedd Lily yn hapus efo'r gwaith yna byddai'r plant ddim yn cael mynd allan i chwarae nes roeddent yn lan ac yn dwt a bod Lily yn hapus.
Roedd hi wrth ei bodd yn treulio amser gyda'i theulu a byddai'n eistedd ar stepen y drws ac yn gwylio'r plant i gyd yn chwarae ac yn gwneud yn sicr eu bod yn ddiogel, ond unwaith byddai'n gweiddi, "Mae'ch te chi'n barod," roeddech yn gwybod bod rhaid rhedeg neu byddech mewn trafferth fawr. Roedd hi hefyd yn treulio llawer o amser efo'i chymydog, roeddent yn agos iawn, ac yn ymweld 'i gilydd os hyd at bedwar i bum gwaith y dydd, byddai'n mynd yno am sgwrs a siarad yn gyffredinol am aelodau eraill y gymuned.
Roedd hi'n helpu allan yng nghaffi'r gymuned ble roedd y cwsmeriaid i gyd wrth eu boddau hi ac yn ymweld yn aml er mwyn cael sgwrs gyda hi. Byddai'n paratoi prydau cartref ac roedd y cwsmeriaid rheolaidd wrth eu boddau. Byddent yn galw draw i'r caffi dim ond er mwyn cael paned o de a sgwrs efo hi
--------------------------------------------------
Y Cymysgedd gan Kaz
"Gwranda cariad – ti ddim angen siarad efo fi fel yna", meddai'r gyrrwr tacsi, "dim ond yn gyrru ti ydw i. Fedra i ddim penderfynu beth fydd y traffig yn ei wneud", Mae'r tacsi coch yn llawn awyrgylch drwg i gyd gan Tamara. "Ti'n gwybod sut le ydy Chiswick cariad, ddylai ti wedi codi o dy wely ynghynt".
Does neb yn siarad gyda Tamara fel hyn, wedi'r cwbl mae hi'n ddynes busnes craff, deniadol gyda choesau hir a gwallt coch llachar cyrliog.
O'r diwedd mae hi'n cyrraedd Sianel 7SX ar gyfer cyfweliad fel golygydd sioe sgwrs 'merched'. Wrth iddi fynd i mewn i'r lifft mae hi'n mwmian, "Dwi am gael y swydd yma, fi ydy'r gorau, mae pawb yn caru fi".
Mae hi'n mynd i mewn i'r swyddfa lle mae chwech o bobl yn eistedd tu l i fwrdd mawr. Mae'r swyddfa yn blwsh iawn, a'r unig beth gall Tamara weld ydy'r eitemau casglwr gwych ar y waliau a'r cabinet. "Wow", meddyliai, "dyma le dwi eisiau bod".
Mae'r cyfweliad yn mynd yn dda ac wrth gwrs mae Tamara bellach yn olygydd newydd y sioe, Y Cymysgedd.
Ar y diwrnod cyntaf yn y stiwdio, mae Tamara yn cael ei chyflwyno i'r bobl ar y sioe.
Jody, yn ei 50au, doniol iawn, gwallt golau (wedi'i liwio), byr iawn, ddim yn fach iawn! Mae Jody wedi priodi, pedwar o blant, person cartrefol iawn, treuliai holl amser ffwrdd o'r gwaith gyda'i gwr a'i phlant.
"Bore da Jody, Tamara ydw i, dwi'n meddwl byddwn ninnau yn dod ymlaen yn dda iawn".
"Helo," meddai Jody, "Dwi wedi bod yn edrych ymlaen at gyfarfod gyda chi, dwi wedi clywed cymaint am eich syniadau gwych i'r sioe".
Mae Christie yn cerdded ar draws lawr y stiwdio, ble ymddangosai fod y cadeiriau wedi atgenhedlu yn ystof y nos, lle gallet weld llwch drwy ddisgleirdeb y golau siarp iawn. Dyw Tamara ddim yn sicr sut i deimlo am Christie cyn iddi ei chyfarfod hyd yn oed, oherwydd ei gwallt hir, syth sydd yn frown. Mae Christie yn ddynes graff iawn, gyda dillad drud iawn. Bydd Tamara ddim yn hapus gyda hyn!
"Mae'n rhaid mai Tamara wyt ti?" Diwedd y sgwrs gan Christie.
Gallai Tamara ddim stopio syllu arni, ei llygaid gwyrdd gloyw, amrannau hir a lipstig coch, coch – yr esgidiau yna, sut gallai hi fforddio nhw?
Mae Tamara yn edrych o'i chwmpas ac yn meddwl ble mae Siobhian a Bob. Mae hi'n clywed s?n ac yn troi rownd i weld dau o bobl yn giglan gyda dynion camera o'u cwmpas. "Mae'n rhaid mai Siobhian a Bob ydynt", teimlai. Sut maen nhw mor gyfeillgar gyda nhw?
--------------------------------------------------
Penwythnos Wicid Fry gan Gordon5
Cysidrir Stephen Fry fel un o gymeriadau mwyaf adnabyddus Prydain. Adnabwyd am nifer o bethau gwahanol, o gyflwynydd teledu i awdur. Mae mor boblogaidd mewn cymaint ffyrdd gwahanol, oherwydd ei ffordd foneddigaidd a'i hiwmor ffraeth sych. Fo ydy'r seleb sydd yn cael ei ddilyn fwyaf ar Twitter yn fwy na Cheryl Cole a David Cameron.
Roedd Stephen i fod i gymryd rhan mewn drama yn y West End Llundain, oedd eto yn llawn gyda'i oleuadau llachar, tacsis du, a'r bont newydd Mileniwm, er nid oedd wedi'i adfer ar l yr ymosodiadau terfysg erchyll 7/7 oedd yn parhau i fod ar feddyliau pawb. Gelwir y sioe yn The Meaning oedd am gr?p o fechgyn ifanc yn cael anturiaethau yn Nyffrynnoedd Swydd Efrog, ac roedd disgwyliad mawr o fewn cyfryngau Prydain a'i gefnogwyr tanbaid. Ond roedd si fod ei gyflwr iselder manig / deubegwn wedi dychwelyd, rhywbeth roedd yn dioddef ohono yn y gorffennol.
Nid yw wedi'i weld gan neb am dipyn ac roedd si na fyddai'n ymddangos ar gyfer y sioe yma oedd disgwyliadau mawr. Nid oedd Stephen yn ateb ei ffn symudol, ffn t? na'i gloch drws, ac roedd hyn yn canu larwm. Ni ddaeth i noson gyntaf o'u sioe, er siom mawr ei gefnogwyr. Dechreuodd pawb boeni o ddifrif pan ddywedodd ei bartner nad oedd wedi clywed ganddo, oedd yn od iawn i Stephen, er roedd ei orffennol ar feddwl pawb.
Gyda'i ddiflaniad roedd Stephen yn mynd ar goll wedi gwneud y newyddion a holl bapurau newydd Prydain. Yn anffodus, cafodd y sioe ei ganslo, er mawr siom pawb, er y prif bryder oedd diogelwch Stephen, gan nad oedd neb wedi clywed ganddo.
Roedd cefnogwyr yn drist iawn am fod y sioe wedi'i ganslo, ond roeddent yn ffyddlon iawn iddo.
--------------------------------------------------
Cychwyn Newydd gan YAWgirl
Cychwynnodd gyda thwrw mawr. B?m! "Helo allan yna, dwi'n barod pan rydych chi".
"O na, dim nawr".
"Ia dwi'n ofni ein bod wedi disgwyl digon hir Mam",
O'r holl ddyddiau gallai hyn fod wedi digwydd penderfynodd fod yr union ddiwrnod roedd Rebecca efo llawer o bethau i'w wneud. Ei chynllun am y dydd oedd glanhau pob ffenestr yn y t? ac i drefnu'r garej rhag ofn fod rhywun angen mynd allan yno. Roedd Richard, dyweddad Rebecca, yn meddwl fod hyn yn ddoniol iawn gan fod neb yn mynd i'r garej os nad oeddent eisiau gwe pry cop yn eu hwyneb neu os oeddent angen carped sbr mewn bryd ar gyfer eu llawr newydd ei staenio. Am ryw reswm od roedd casglu hen bethau yn dod yn bwynt trafod llawer o bartis a Richard oedd wastad ar fai er bod Rebecca yn mynnu archebu darnau mwy 'rhag ofn'.
--------------------------------------------------
Salwch Mam gan WICID Giggler
Yn cael yn barod am waith ac mae'r ffn yn canu: 'ring ring', 'ring ring'. Pigo'r ffn i fyny dim ond i glywed dad ar ochr arall y ffn. Yn eithaf hysterig dywedodd, "Mae dy fam yn sl, tyrd i lawr cyn gynted phosib". Unwaith cyrhaeddais roedd Mam yn gorwedd ar y gadair gyffyrddus gyda'i thraed i fyny ac yn wedi ymledu allan. Roedd hi'n llwyd ei lliw ac yn cael anhawster anadlu. Yn sydyn dywedais wrth Dad, "Ffonia'r doctor."
Dywedodd Dad, "Dyw hi ddim yn gadael i mi ffonio'r doctor". Heb amheuaeth ffoniais y doctor teulu a chyrhaeddodd tuag awr wedyn.
Yn edrych ar mam, rhoddodd archwiliad trylwyr iddi a gofyn iddi beth oedd y broblem. Unwaith roedd wedi cael golwg drosti rhoddodd bresgripsiwn iddi a dweud wrthym gadw llygaid arni ac os byddai'n gwaethygu mewn unrhyw ffordd i alw ef yn syth. Roedd hi'n gwrthod yfed dim a ddim yn gallu wynebu dim o'r bwyd rhoesant iddi. Roeddem yn gwybod ei bod yn sl gan nad oedd hi'n gallu ysmygu pan mae hi wir yn mwynhau ysmygu.
Aeth dad at y doctor y diwrnod canlynol a chafodd mam ei chyfeirio at arbenigwr, cafodd brofion ond gan fod y rhain yn cymryd mor hir i ddod yn l, talodd Dad iddi fynd yn breifat i weld arbenigwr. Daeth y canlyniadau yn l o'r diwedd a dywed wrth mam fod ganddi guriad calon afreolaidd, a diolch byth roeddem i gyd yn hapus efo hyn. Mae hi bellach ar feddyginiaethau am weddill ei bywyd ond mae'r salwch yn un gall ei reoli.
--------------------------------------------------
Gwyliau'r Genod I Tenerife gan Kaz
Mae cyrraedd pen y daith bob tro ychydig yn ofnus, sut le ydyw, ydy'r fflat am fod yn neis, yn gobeithio nad yw'n rhy bell o'r traeth, tafarndai a'r tai bwyta. Grt, mae'r fflatiau yn grt, ac rydym wedi'n lleoli drws nesaf i'n gilydd. Dau yn un fflat, tri yn y llall. Dwi bob tro'n rhannu gyda fy mhartner, dwi'n meddwl am ein bod yn cael ymlaen yn dda, ac yn adnabod ein gilydd mor dda, rydym yn wastad yn teimlo'n gyffyrddus o gwmpas ein gilydd, ac, yn fwy na dim, nid oes diwedd ar y chwerthin.
Traeth, ddim rhy bell i gerdded, tywod ychydig yn ddu ond ddim mor ddrwg rhai traethau yn Tenerife. Mae'r mr yn garw iawn heddiw, ddim eisiau mynd i mewn yno nes iddo dawelu ychydig. Haul ar ein hwynebau, dychwelyd am gawodydd a newid ac allan. T? bwyta Eidaleg hyfryd (ein ffefryn), bwyd gwych, nawr i daro'r tafarndai a darganfod karaoke.
Mae karaoke yn rhywbeth hanfodol i'r pump ohonom ni enethod. Mae pedwar allan o bump bob tro'n canu. Y noson yma, roedd y gwin wedi taro fi ychydig fwy na nosweithiau eraill (dyma ydy fy esgus a dwi'n bendant yn cadw iddo!). My Song, Pearl's A Singer. Maen nhw'n wastad yn dweud fy mod i'n dda yn canu'r un yma. Roedd yn hunllef, ofnadwy. Penderfynodd un o'r genethod ei ffilmio. Ond mae amseroedd yn newid. Ers cyrraedd yn l o'r gwyliau mae'r fideo wedi cael ei roi ar YouTube!
--------------------------------------------------
T? Newydd Sarah gan Gordon5
Symudodd Sarah i mewn i'w chartref newydd yng Nghwmbach, Aberdr, yn ddiweddar, o Abercynon, Aberpennar, lle mae hi wedi byw trwy'i hoes. Roedd ganddi deimladau cymysg am symud i mewn i d? newydd gan y byddai yn gadael ei theulu agos am y tro cyntaf a hefyd yn poeni am dalu ei morgais. Ar ochr arall y geiniog roedd hi'n gwybod mai dyma oedd y peth gorau i'w wneud, ac i symud ymlaen, i symud i Aberdr, sydd yn lle llawer brafiach na Abercynon. Mae hi'n dweud mai dyma'r peth gorau mae hi wedi'i wneud erioed er gallai hi ddim fforddio mynd ar wyliau eleni ond yn deall ac yn gwerthfawrogi pam. Mae hi nawr yn gobeithio priodi ai chariad annwyl yn y dyfodol. Maen nhw'n byw gyda'u ci Izzy, ac yn gobeithio cychwyn teulu yn fuan, ac yna cael ?yr ac wyresau.
--------------------------------------------------
Gwyliau Adam I Thailand gan Gordon5
Daeth y gwyliau mewn disgwyliad gan fy mod wedi archebu'r gwyliau flwyddyn ddiwethaf ond cafodd ei ganslo oherwydd perthynas yn torri i fyny. Roedd y gwyliau wedi'i archebu yn fis Medi 2010. Ond, nid oedd popeth yn rhwydd wrth i Brydain gael yr eira gwaethaf mewn dros 146 mlynedd, a dyma oedd prif stori'r papurau newydd a'r newyddion ar y teledu i gyd. Datgan sawl terfynfa oedd wedi cau oedd yn boen i mi, fyddwn i'n colli fy arian ayb, oedd yr yswiriant yn cyfri hyn? Diolch byth roeddwn yn gallu cyrraedd Heathrow ar l sawl trafodaeth a phoeni, a gad i mi ddweud, cefais amser da!
Eisiau cymryd rhan yn y cwrs Ysgrifennu Creadigol CLIC? E-bostia Rachel@cliconline.co.uk neu galwa 029 2946 2222. Gall lawr lwytho deunydd y cwrs ac eraill ar www.promo-cymru.org.