Cyfle I Ennill £40 O Docynnau Cerddoriaeth
Mae prosiect cyffroes newydd mewn datblygiad fydd o fudd i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd dros Gymru.
Mae’r llinell gymorth sydd yn cael ei beilotio yn wasanaeth cyfrinachol, rhad ac am ddim ac i rywun ddefnyddio.
Bydd cyngor a gwybodaeth ar gael am unrhyw beth a phopeth. Gall gael cymorth ar faterion eang o ddarganfod lleoliad gwaith i sut i ddelio efo bwlio.
Bydd arwyddo, eiriolaeth a chyngor uniongyrchol ar gael ar gyfer pob mater.
Mae nifer o ffyrdd i gael mynediad i’r llinell gymorth, fydd yn cael ei staffio gan gynghorwyr profiadol, a hyn i gyd yn rhad ac am ddim:
- Ffonio o dy ffn symudol neu ffn cyffredin.
- E-bostio
- Tecstio
- Negeseuo Cyflym (IM)
- Ffonio o giosg ffn
Rydym yn awyddus i gael dy farn gan mai gwasanaeth i ti fydd hwn. Mae holiadur byr ar gael ar y rhyngrwyd ac, unwaith byddet wedi ei lenwi, byddet yn cael cyfle i ennill gwerth £40 o docynnau cerddoriaeth i unai siop ar y stryd fawr neu ar-lein.
Mae’r holiadur ar gael ar y dudalen yma: Rydym Angen Eich Adborth.
Gall hefyd gael copi caled neu PDF o’r holiadur drwy e-bostio neu ffonio Gavin Thomas: gavin@promo-cymru.org / 029 2046 2222.