Cyfle Diwethaf I Gystadlu: Rhyddid I Fod Yn Fi Fy Hun
English version
Dim ond ychydig ddyddiau sydd ar l i gofrestru am y gystadleuaeth hon, felly os hoffet gofrestru gwna’n siŵr fod dy ymgais yn dod i mewn cyn 1sf Tachwedd.
Cystadleuaeth Rhyddid I Fod Yn Fi Fy Hun
Beth mae ‘Rhyddid I Fod Yn Fi Fy Hun’ yn feddwl i ti?
Gwrando ar gerddoriaeth ti’n gwybod nad yw eraill yn hoffi? Gwisgo dillad sydd yn gwneud i ti sefyll allan? Steil gwallt gwahanol? Neu yn syml gallu mynegi beth wyt ti’n feddwl neu deimlo?
Mae Caerdydd Yn Erbyn Bwlio yn lansio darpariaethau ar gyfer wythnos gwrth-fwlio 2010, sydd yn rhedeg o 15 19 Tachwedd 2010. Thema Caerdydd eleni ydy ‘Rhyddid I Fod Yn Fi Fy Hun’.
Rydym yn chwilio am ysgrifenwyr ac arlunwyr ifanc i archwilio syniadau o gwmpas y thema hon. Rydym eisiau i bobl glywed eich llais!
Mae yna wobrwyon i’r enillwyr a bydd ymgeision yn cael ei chyhoeddi ar theSprout. Mae’r person sydd yn ysgrifennu’r gerdd neu eiriau gorau yn cael y cyfle i droi ei syniadau i mewn i record bydd wedyn yn cael ei recordio ar gyfer podcast theSprout.
Bydd lluniau buddugol yn cael eu harddangos yn Neuadd y Ddinas am y Gwobrau Ysbrydoli a Caerdydd Yn Stopio Bwlio ar 17 Tachwedd.
Sut I Gofrestru Mewn Pump Cam Hawdd
- I gychwyn, ysgrifenna gerdd, cn neu tynna lun o gwmpas y thema ‘Rhyddid I Fod Yn Fi Fy Hun’.
- Yna, cofrestra gyda gwefan theSprout drwy glicio yma, Dim ond munud mae’n cymryd a byddi di’n derbyn e-bost i dy gyfrif e-bost a bydd rhaid clicio arno i gwblhau’r cofrestru.
- Unwaith ti wedi cofrestru, mewngofnodi a chlicio ar y botwm Cyflwyno Newyddion i gofrestru. Gall ychwanegu cerdd neu gan yn y bocs Stori Newyddion neu sgrolia i lawr ac atodi dy lun i’r adran lluniau.
- Yn olaf, ychwanega dy enw, oed, ysgol a rhif ffn yn y bocs testun fel gallwn gysylltu gyda thi os wyt ti’n ennill1
- Bydd dy waith yn cael ei gyhoeddi ar wefan theSprout o fewn ychydig ddyddiau. Felly cofia ddod yn l i weld dy waith yn fyw!
Dyddiad cau ymgeision ydy 1af Tachwedd 2010.
Unrhyw broblemau e-bostia info@theSprout.co.uk
Noder: mae’n rhaid i ti fyw yng Nghaerdydd a bod rhwng 11 a 25 i ymgeisio.
Ymgeision hyd yn hyn
White Skinny Jeans gan Stormer007