Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Cyfaddefiadau Darllenydd Proflen

Posted by Dan (Sub-Editor) from Cardiff - Published on 16/08/2010 at 09:52
0 comments » - Tagged as Creative Writing

  • proofr
  • macyd
  • proofr
  • proofr

English version // Yn Saesneg

Rhybudd: Efallai byddaf yn rhefru lot

Sgwintiodd y rheolwr yn fy nghyfeiriad.

“Felly beth yn union ydy’r broblem, syr?”

“Y botwm collnod,” dywedais eto, yn fwy cadarn y tro hwn.

“Wedi torri?” gofynnodd.

“Dyw o ddim yna.”

Syllodd gyda bwriad ar y ffôn, gyda golwg dryslyd ar ei wyneb, Ar ôl ychydig funudau o archwiliad ofalus trodd ei lygaid yn ôl ataf, yn nerfus.

“Er mwyn cadarnhau, syr, pam rydych chi’n dweud collnod rydych yn golygu?”

Gydag ochenaid fach codais fy llaw.

“Y peth coma bach yna sy’n hedfan, manylais, yn ei amlinellu yn yr awyr gyda fy mynegfys. Ymlaciodd y rheolwr ychydig, yn ffôl iawn yn meddwl fod y ddau ohonom yn deall ein gilydd nawr.

“O, does ddim rhaid i chi boeni amdanynt ddim mwy; hwn ydy’r model newydd. Llawer haws i’w ddefnyddio. Clicia ar ‘symbolau’ ac mae’n dod a rhestr o’r wahanol wynebau i fyny i gyd”

Roedd o wedi fy ngholli yn gyfan gwbl.

“Wynebau?”

“Ia, 'da chi’n gwybod 'emoticons'.”

Fel y dywedodd y gair diwethaf, roedd ei fawd a’i fysedd allanol mewn pelen tra roedd gweddill ei fysedd yn ffurfio'r marciau dyfyniad animeiddgar yna sydd yn gwneud i rywun grinjo, a dechreuais dybio fod fy arddangosfa gynharach wedi gwneud iddo feddwl fod rhaid actio allan pob atalnod er mwyn rhoi pwyslais cryfach arno.

Daliodd y ffôn i fyny i ddangos. Roedd y sgrin yn cynnwys amalgam datgymalog o gromfachau, atalnodau a chysylltnodau oedd os oeddet ti’n straenio dy ben yn y cyfeiriad cywir ac yn cau o leiaf un llygad roedd yn debyg, mewn ffordd go wan, i set o wynebau.

Felly, ti’n gweld, meddai yn hyderus, “does dim byd yn bod efo fo; maen nhw wedi cael gwared â’r collnod yn araf am fod y wynebau yn awr yn dod wedi’u cydosod yn barod. Gallwch gael wynebau wedi’i animeiddio, sain a negeseuo lluniau.”

“Ydych chi yn dweud mai’r unig ffordd i roi collnod ar y ffôn hwn ydy drwy roi wyneb hapus i mewn ynddo ac yna dileu’r geg a’r llygaid?”

“Wel,” atebodd y dyn, yn methu deall pam fy mod i mor benderfynol ar y mater hwn, “neu drwyn a cheg. Mae’n dibynnu os yw’n wincio.”

Distawrwydd hir.

“Yn anffodus dwi angen ffôn sydd yn gadael i mi ddefnyddio collnodau am fwy na gwneud llun o wynebau hapus.”

“Ond”

Paratois fy hun am y geiriau roeddwn i rywsut yn eu disgwyl.

"...pam arall fydda chi angen un?”

*

Felly dyma fi ti’n gweld: cennad o’r collnod gorthrymedig; Natsi Gramadeg, ffŵl pedantig. Fi ydy’r boi yna sydd yn gwneud i ti ddisgwyl yn y ciw am fy mod yn teimlo’r angen i ddweud wrth y ferch ar y ddesg talu fod, yn dechnegol, yr arwydd ar y lôn gyflym yn fod i ddarllen ‘Ten items or fewer’. Y diawl bach rhagaeddfed sydd yn beirniadu ti am ddeud ‘could of’ yn lle ‘could have’ neu ddim yn gallu cadw’n ddistaw pam mae’n gweld ‘i’ llythyren is neu gysylltnod pam maen amlwg mai llinell doriad dylai fod. Fy swydd ddelfrydol fyddai teithio ar draws gyfandiroedd gyda beiro coch, yn gwrthwynebu anghyfiawnderau ieithyddol ble bynnag y maent, boed ar fyrddau biliau neu is-deitlau. Dwi’n gosod gallu ieithyddol dros bob peth arall rwyf yn chwilio am yn fy nghymar, a byddwn i ddim ystyried am funud fynd allan gyda merch sydd ddim yn darllen neu ddim yn gallu sillafu’n gywir. A tra mae’n ymddangos fel hyn, nid yw’n benderfyniad masochistiaeth i wneud i bobl o fy nghwmpas gasáu fi; mae’n orfodaeth sydd wedi cael gafael arna i ers y diwrnod dysgais i ddarllen, ac nid yw wedi dangos dim gobaith o lacio’r gafael ers hynny.

Gad i mi ddweud wrthyt ti sut y cychwynnodd hyn.

Hyd yn oed fel plentyn roeddwn yn feddyliwr dwys, a chymerais at iaith yn ifanc iawn. Dwi ddim yn cofio yn union pa bryd datblygodd y cystudd, ond mae’n dybiaeth saff i ddweud nad oedd yn hir wedi i mi ddysgu dweud y gwahaniaeth rhwng llythrennau a bwyd. Un o fy nghof cynharaf ydy bod yn wyth oed ac yn gweld arwydd yn ein canolfan hamdden oedd yn darllen:

THE  MANAGEMENT CANNOT EXCEPT RESPONSIBILITY FOR LOST OR DAMAGED PROPERTY

Roedd yn arwydd mawr gyda llythrennau bras, wedi hongian uwchben set o ddrysau dwbl llydan. Am ryw reswm sylwais arno, ac yn ddigon sydyn roeddwn gyda mwy o ddiddordeb yn y testun nag yn yr offer chwarae. Doeddwn i brin digon tal i weld yr arwydd, a dwi’n cofio symud fy mhen yn ôl a syllu arno yn fwriadus. Roedd y geiriau yn syllu yn ôl. Daeth teimlad rhyfedd drosof, ac roeddwn yn teimlo fod rhywbeth o’i le. Darllenais o nifer o weithiau ac roedd o yn fy nrysu bob tro. Tybed pam nad oedd y rheolwyr yn eithrio (except) cyfrifioldeb am eitemau ar goll? Mae’n rhaid bod hynny yn golygu fod pob eiddo oedd wedi’i golli a’i ddifrodi yn gyfrifioldeb y rheolwyr, heb eithriad? Mae'n rhaid eu bod yn gwmni eithaf hael i, nid yn unig goddef y fethodoleg hon, ond i hysbysebu’r peth. Ond yn sicr, meddyliais, dull mwy cyffredin fyddai i ddim derbyn (accept) cyfrifioldeb am y fath ddigwyddiadau? Dywedais hyn wrth fy ffrindiau chwarae ond am ryw reswm nid oedd diddordeb ganddynt.  Meddyliais am funud fod y bobl oedd mewn gofal y lle wedi gwneud camgymeriad, ond pasiodd hynny yn sydyn gan ei fod yn ymweld yn afresymegol.: wedi’r cwbl, rhesymais, roedd yr arwydd hwn wedi’i hongian yn uchel gyda’r pwrpas o gael ei weld gan bawb yn y ganolfan hamdden, wrth gwrs byddai rhywun wedi edrych ar y geiriad. Wedi’r cwbl, sut y gallwn i, bachgen wyth oed prin wedi cael addysg, fedru sylwi rhywbeth mae’r gwneuthurwyr (yn ôl pob tebyg oedolion) o’r arwydd anferth hwn wedi ei fethu? Doedd o ddim i'w weld yn bosib, roedd rhaid i mi fod yn anghywir. Pan gyrhaeddais adref esboniais yr enigma hwn i mam, a ddywedodd yn ddifraw, “Ti’n iawn; ‘derbyn’ dylai wedi bod arno.” Agorodd hyn fy llygaid i fyd o wallau dynol, ac nid wyf wedi gallu eu cau ers hynny.

Wrth i fy nealltwriaeth o’r iaith Saesneg ehangu, tyfodd y gallu i gythruddo pobl oedd ddim yn ei siarad mor dda â finnau. Roeddwn yn dwrdio fy nghyfoed yn aml am ddefnyddio geiriau fel ‘sumfink’, am ynganu eu L’s fel W’s ac, wrth gwrs, am y pechod cardinal o ddweud negatif dwbl. Ar adegau roeddwn i’n cael fy ngheryddu: roeddwn yn gwrthod ymuno mewn gwasanaethau yn yr ysgol am fod un o’r caneuon efo ‘ain’t’ yn y teitl, a chefais fy nal amryw dro yn cywiro sillafu’r graffiti ar giât yr ysgol. Ond doedd dim anghymell arnaf i oddi wrth fy ngalwedigaeth. I ddweud y gwir, y mwy roedd pobl yn digalonni gyda fi, roeddwn yn chwilio am gamgymeriadau oedd yn lladd ein hiaith i gywiro.

Erbyn ysgol uwchradd, sylwais fod fy ngallu i weld geiriau oedd allan o le ddim yn adloniant cyffredin, ac roedd rhannu fy niddordeb gydag eraill yn aml yn cynhyrchu canlyniadau annymunol. Byddwn yn tynnu sylw ac yn cywiro athrawon oedd yn gwneud camgymeriadau ar y bwrdd du, yn y gobaith o greu argraff, ond yn cael fy nghadw’n ôl fel cosb (ac roeddwn yn mwynhau gan ei fod yn golygu ysgrifennu llinellau: rhywbeth roeddwn i yn ei weld fel cyfle i wella fy llawysgrifen ac i greu argraff bellach ar yr athrawon).

Sylwais nad oeddwn yn gallu helpu ond gweld pethau yn llythrennol pan ddaw i eiriau. Wrth gael fy nghyflwyno gyda beth ydyw a beth yn glir dylai fod, mae gen i ddiffyg dychymyg i weld yr olaf. Dwi’n gweld trosiadau yn ymdrech, ac roedd gen i atgas at farddoniaeth yn syth: roeddwn yn cael hunllefau yn meddwl am fwydion anweledig yn hedfan trwy’r nos. Datblygais beth all ond cael ei ddisgrifio fel ‘llygaid golygydd’: tra roedd pobl eraill yn gweld stori, plot a chymeriadau, roeddwn i’n gweld gramadeg, atalnodi a sillafiad. O ganlyniad, roedd unrhyw lyfr gyda’r anlwc o ddod i’m dwylo yn cael ei adael yn diferu gydag inc coch. Tra bod y rhan fwyaf o bobl ifanc llythrennog yn gorwedd eu nofelau ar y bwrdd wrth ochr y gwely a mynd i gysgu gyda syniadau rhamantus o Cathy a Heathcliff, roeddwn i yn gorwedd yn effro yn meddwl am swyddogaeth atalnodau yn strwythur brawddegau Emily Brontë.

Erbyn prifysgol roedd y peth wedi llenwi fy mywyd. Wedi’n hegnioli efo’r nifer o fyfyrwyr Saesneg yno oedd ddim yn gallu (neu ddim yn trafferthu) sillafu’n gywir, chwiliais a dysgais bob rheol arddull a strwythur gallwn ddarganfod, yn benderfynol o beidio dod yn un ohonynt. Cefais waith fel golygydd a darllenydd proflen, lle gallais faethu’r gallu hwn tan i rywbeth oedd unwaith yng nghwirc ecsentrig ddod yn obsesiwn gorfodol. Ni fedraf gerdded pasio gwall ddim mwy heb ei gywiro, Dwi’n fandaleiddio arwyddion siop wedi’i atalnodi’n wael yn ymladd dros achos gramadeg, yn gwrthwynebu collnodau anghywir yn gwrtais ble bynnag y maent. Dydy tynnu fy sbectol ddim yn helpu: dwi’n sylwi ar amlinelliad y llythrennu a dwi’n gwybod fod y collnod anghywir yno yn disgwyl.

Ond dydy hynny yn ei hun ddim yn broblem. Mae cael fy nghythruddo wrth weld arwydd sy’n dweud ‘SMILE: YOUR ON CAMERA’ yn golygu fy mod yn graff ac wedi cael addysg dda, yn tydi? (Os nad wyt ti’n gweld beth sy’n bod efo’r frawddeg yna, gweddïa nad ydw i byth yn dy gyfarfod.) Dyw'r peth ddim ond yn broblem pam ti’n cysidro faint mae’n rheoli fy mywyd. Mae bod yn bedantig yn un peth, a bod yn llidus hefyd, ond gwell ddiffiniad ohono i ydy ‘niwrotig peryglus’ pan mae’n dod i sylwi ar wallau. Unwaith dwi’n gweld un ni allaf ganolbwyntio ar ddim arall tra rydw i yn ei bresenoldeb, ond mae hefyd yn gadael marc dwfn yn fy mhenglog am byth. Mae rhywbeth sydd yn gallu cael ei faddau yn atgas i mi. Pam ti’n dod ar draws camlythreniad neu wall gramadeg ti ddim yn meddwl ddwywaith am y peth mae’n siŵr ac yn parhau gyda phethau sy’n bwysig, ond i mi mae’r gwall yna fel amhariad ar wyneb angel. Mae’n ymosod ar fy synhwyrau fel ewinedd ar fwrdd du. Oherwydd hyn, mae darllen yn weithgaredd sy’n cymryd ymdrech fawr: Dwi’n gyson yn ymestyn am feiro i roi cylch o amgylch rhyw wall, yn amlygu ef fel bod y peron nesaf sydd yn darllen y llyfr yn ei weld yn yr un ffordd ag yr ydw i. Bras, coch ac yn ffyrnig iawn.

Mae dipyn o flynyddoedd wedi pasio ers i mi ei ddarllen, ond gallaf dal ddweud wrthyt ti nad oedd Robert Langdon yn gyferbyniol i’r gred boblogaidd yn cerdded o gwmpas Paris yn chwilio am y greal sanctaidd wedi ei ysgarmes efo Teabing. Mewn gwirionedd roedd o’n cerdded o gwmpas Paris ‘ooking for the Holy Grail’. Cer i weld i ti dy hun, argraffiad Corgi, 2004. Ar frig tudalen 589. Ac er nad oedd mor ddrwg a gwylio’r ffilm, i mi difethwyd diwedd y llyfr gyda delwedd o Robert Langdon wedi plygu drosodd ac yn neidio i lawr y ‘Champs-lyses’ fel tsimpansî. Ac er y niferoedd o ‘ffeithiau’ difyrrus sydd yn cael eu cynnwys yn y nofel, dyna ydy’r un rhan o’r llyfr fydd yn aros yn fy nghof am byth.

Ac fel mae Milan Kundera, ar dudalen 49 o The Undbearable Lightness of Being (argraffiad Faber, 1984) yn ceisio cyfleu’r hunllef o ddyn yn neidio o flaen trên. Yn anffodus, mae’n cychwyn y frawddeg gan ddweud: “Early in the novel that Tereza clutched under her am when she went to visit Tomas” Ar ôl hynny treuliais weddill y bennod yn hollol anghofus i dynged y dyn anffodus o dan y trên, gan mai’r unig beth oeddwn i yn gallu meddwl amdano oedd: sut wyt ti’n cario llyfr o dan ‘am’?

Dyma le mae’r broblem ti’n gweld: dwi ddim yn gallu gweld y stori oherwydd y gwallau. Dwi’n poeni mwy am atalnod mewn lle anghywir nad ydw i am y plot cyfan. Ti ddim angen boi sydd yn gallu dweud wrthyt ti os edrychi di ar dudalen 28 o American Psycho (argraffiad Picador, 1991), yn y 5ed llinell o’r gwaelod, fod Brett Easton Ellis wedi ysgrifennu ‘women’ pan roedd wedi meddwl ysgrifennu ‘woman’; fod Richard John Evans yn anghofio’r ‘s’ wrth ysgrifennu ‘Nietzsche’ (Entertainment, tud.89. Seren, 2000) neu y byddai Eat, Shoots & Leaves wedi elwa o gael atalnod lawn yn y 6ed frawddeg o’r gwaelod yn y cyflwyniad ar dudalen 13.

Gofynna imi am beth oedd y llyfr diwethaf darllenais a ni allaf ddweud wrthyt ti. Dwi yn aml yn gweld fy hun yn derbyn beirniadaeth darllenwyr brwd ffroenuchel, yn fy nghondemnio am beidio rhyfeddu yn y syndod diamser o’r canon; yn fy nghyhuddo o fod yn un o’r rhai sy’n meddwl bod llenyddiaeth yn grefft marw neu “ddim efo amser i ddarllen” neu unrhyw lol arall mae rhai sydd ddim yn darllen yn ffrydio arnat pan ti’n holi am yr absenoldeb o silff lyfrau go iawn. Ond y gwir yw dwi’n troi tudalennau ac yn crychu llyfrau gyda dialedd. Dwi mwy neu lai yn byw mewn siopau llyfrau, ac yn casglu cymaint fel bod haenau i’m silffoedd. Carwn i petawn i yn ddim mwy na darllenydd brwdfrydig. Ond dwi ddim yn darllen llyfrau yn y ffordd mae’r mwyafrif. Pan fyddaf yn agor llyfr, dwi ddim yn gweld cynnwys: dwi’n gweld geiriau.

Er gwaethaf yr uchod, dwi’n gwybod y gallwn i oddef y baich hwn a pharhau i fyw bywyd arferol, oherwydd y cymaint ydw i yn cwyno am wallau mewn llyfrau ac arwyddion siop, mae cywiro nhw yn gallu cael ei ffeilio o dan ‘hobi trist’ yn hytrach na ‘obsesiwn difrodol i fywyd’. Ond y broblem ydy nid dyna ddiwedd y stori, gan fod y degawd hwn wedi dod a dau beth i’r amlwg sydd gyda'i gilydd wedi sicrhau na fydda i byth, byth yn cysgu’n dawel: y rhyngrwyd a negeseuon testun.

Gwelais y geiriau gorau yn fy nghenhedlaeth yn cael ei ddinistrio gan ffônau symudol - camsillafu, cwtogi, noeth. Mae ein hiaith erioed wedi cael ei anghysonder sydd yn goroesi oherwydd nid yw’n werth yr egni i gael gwared ohonynt: dyna pam fod ‘could care less’ a ‘couldn’t care less’ yn golygu’r un peth, ac mae ‘flammable’ a ‘inflammable’ efo’r un diffiniad, ond dydy’r gair ‘unflammable’ erioed wedi cael ei greu. Poen bach ydy'r rhain, er eu presenoldeb yn y byd, rwyf dal yn gallu cysgu yn y nos. Pan ddaeth negeseuon testun i’r amlwg roeddwn yn meddwl byddwn yn gallu ymdopi mewn ffordd debyg - ychydig o rifau yn lle geiriau llai, cwtogi yma ac acw - ond yn lle hyn, fe ddigwyddodd rhywbeth anrhagweledig ofnadwy: ffad newydd o anafu geiriau yn bwrpasol, heb drugaredd nag chydwybod, sydd yr un mor boenus i mi a’r llafariad sydd yn cael eu lladd. Mae geiriau fel ‘your’ a ‘you’re’ wedi dod yn gyfystyr (ac yn aml yn cael eu cwtogi i ‘UR’), mae negatif dwbl, neu hyd yn oed triphlyg, yn gyffredin (U DON’T NEVER KNO NUFFIN, M8) ac os wyt ti’n ddigon lwcus i weld collnod, mae’n debyg fod hwn yn y lle anghywir (yn cael ei ddefnyddio’n gyffredinol i ddynodi lluosog). Dwi’n gredwr cadarn na fedra unrhyw beth achosi i ti golli ffydd mewn dynoliaeth mor gyflym â’r adran ‘sylwadau’ ar YouTube.

Dwi nawr yn siarad am Saesneg fel y petai yn y gorffennol. Fel iaith oedd yn teyrnasu yn y dyddiau godidog, cyn i dalfyriad fynd o flaen ieithyddiaeth; yr oes hynafol pan roedd cwestiynau yn gorffen gyda marc cwestiwn, roedd ‘4m’ yn cael ei sillafu ’from’ a chollnod yn fwy na ffordd i greu wyneb hapus. Yn ystod y nos dwi’n darganfod fy hun yn baglu i mewn i’r tywyllwch, yn sgrechian: “Plîs, meddylia am y geiriau! A wnaiff rhywun feddwl am y geiriau??”

Felly sut mae pobl fel fi yn byw mewn oes lle mae’r gallu i sillafu yn cael ei weld fel rhinwedd diangen ac ecsentrig yn gyffredinol? Wel ran amlaf wrth gwyno. Cwyno mor uchel fel ein bod yn un ai'n cael ein cloi i fyny neu gael ein clywed gan ysbryd gramadeg carennydd. Felly maddeua i mi am swnio fel y hen ddiawl cwerylgar ti’n weld yn paredio yn uchel ac yn ansad yng nghefn y tafarn, yn cydio’n dyn mewn peint yn un llaw wrth arwain cerddorfa anweledig yn ddig gyda’r llall (fel arfer yn rhefru am gyflwr y genedl ac yn bloeddio hanesion y gorffennol), ond a’i fi ydy’r unig un yn yr oes hon o BlackBerries, Bluetooth a band llydan sydd yn parhau i ddirdynnu’n ffyrnig ac yn teimlo’n sâl yn gorfforol pam maent yn darllen brawddeg fel: ‘OMG LOL i JUST WNT 2DA SHP N DER WOZ UR GF WIV D GUY U H8 BU DW DEY DIN DO NUFFIN LOL?’

Rhag ofn fod yna un taer o’r un meddylfryd yn darllen y testament hwn, mae’n rhaid i mi ddweud: fod gobaith, ond ymdrin ag ef yn ofalus. Am yr holl ogoneddu arafwch iaith mae’r rhyngrwyd wedi ei roi i ni, roeddwn yn obeithiol y byddai ychydig o gallineb yn parhau. Ar ôl llawer o Googlo, dyna fo: cymuned ar-lein o’r enw ‘I judge you when you use poor grammar’: clwb lle mae pobl fel fi yn uno ac yn cael pleser mawr mewn gwawdio gweddill y byd a’u gafael annigonol ar atalnodi. Dydy’r nifer o aelodau, sy’n lleihau, ddim yn ddigon i achub ein hiaith annwyl, mae’n o leiaf yn rhoi teimlad o gysur wrth i ni wylio ein syniad o apocalyps ddod yn nes. Gan ymuno heb amheuaeth, postiais fy neges gyntaf: neges wedi’i deipio yn dda ac yn swnio’n ddeallus yn manylu am fy nghyflwr drwy fy oes a chyflwr yr iaith Saesneg. Yn dychwelyd y diwrnod canlynol i weld os oedd ateb, disgwyliais gael croeso mawr i’r gymuned, ond yn hytrach gwelais fod y neges wedi cael ei ddyrannu gan y parasitiaid rhwysgfawr oedd yn  poblogi’r bwrdd negeseuon:

“Mae ‘no one is’ yn anghywir,,“ postiodd merch Ffrangeg, yn amlygu brawddeg yn fy nhrydydd paragraff, un oeddwn i yn arbennig o falch ohono.  “Mae ‘no one’ yn deillio o ‘not one’. Mae’n lluosog. Y geiriad cywir ydy ‘no one are, nid ‘no one is.”

Roeddwn eisiau rhoi slap iddi. Rhag ei chywilydd yn cywiro fi. Doedd hi ddim yn gwybod pwy oeddwn i? Dwi’n gallu darganfod gwallau sillafu yn y geiriadur, damnia hi dwi’n meddwl dwi’n gwybod sut i ddefnyddio Saesneg cywir. Roedd nifer o sylwadau eraill gyda ‘cywiriadau’ tebyg ac roeddent yn cyfiawnhau nhw gyda rheolau roeddwn i yn ystyried yn farw (“dylai ‘round’ gychwyn efo collnod, gan ei fod yn dalfyriad o ‘around’”). Yn yr un ffordd y mae pobl yn fwy goleddol i frifo fi nag dweud “Diolch am gywiro fy ngramadeg, nawr rwyf yn fwy goleuedig,” doeddwn i ddim yn gallu credu ehofndra’r 'nerd' ffwdanus! Doedd ganddyn nhw ddim byd gwell i wneud na chywiro fy ngramadeg? Roeddwn eisiau bloeddio, “Dim ond blydi collnod yw e pam yr holl ffwdan?”

Dwi’n perffeithydd rhagrithiol mewn gwlad o wallau parhaus. Cefais fy atgoffa fod iaith yn addasu, mae yn esblygu a does dim yn bod efo cofleidio hyn neu hyd yn oed helpu iddo fynd ymhellach drwy ddefnyddio ychydig o drwydded farddonol yn dy ysgrifennu. Yn llygaid yr Elit Hynafol yn ‘Judge You When You Use Poor Grammar’ doeddwn i ddim yn deilwng i ymuno; roeddwn i'r un peth a’r riffrafff anwybodus sydd yn cymysgu ‘your’ gyda ‘you’re’, hyn i gyd oherwydd y diffyg collnod afraid a’r geiriau y dewisais. Ond oedd hynny yn fy ngwneud i mor ddrwg nhw? Dwi’n colli cwsg oherwydd pethau fel hyn.

Byddai’n gelwydd dweud fod y profiad hwn wedi gwneud gwahaniaeth. Ond fe wnaeth i mi sylwi nad wyf, o gymharu gyda’r Elit Hynafol, mor ddrwg â hynna felly dwi’n teimlo’n llai euog am farnu pobl nawr.

Ciliais i’r tafarn, yn benderfynol o yfed fy hun i mewn i angof heddychol. Dwi’n trio fy ngorau i fyw bywyd arferol er y cystudd hwn. Ond er bod alcoholig yn gallu osgoi'r bar a chyn ysmygwyr yn gallu cadw’n glir o’r adran ysmygu, dydy perffeithydd ddim yn gallu osgoi gwallau. Roedd hi’n noson cwis, a’r cwestiynau yn cael eu pasio o fwrdd i fwrdd. Roedd nifer o wallau ynddo wrth gwrs ond y peth arhosodd yn fy nghof oedd y neges o anogaeth roedd meistr y cwis wedi’i roi ar frig y dudalen:

“Pob lwc bechgyn a genethod. Gobeithio gwnaiff y bwrdd gorau ennill, a’r gweddill i feddwi, LOL!”

O, LOL. Y fagl anesgusodol o’r aneglur. Pa bryd ymlusgais di allan o dy gors ac i mewn i Saesneg ysgrifenedig? Ceisiais fy ngorau i gladdu fy wyneb i mewn i fy niod. LOL ydy’r crynhoad o’r ymosodiad 'srd tstn', a’r rheswm dwi ddim yn ateb dy e-byst. Yn wreiddiol yn acronym o ‘laughs out loud’, mae ei ystyr yn sydyn yn esblygu i mewn i rywbeth mwy agos at ‘does gen i ddim byd i ddweud’. Mae LOL yn llawer mwy na gair, ac ar yr un amser, yn llawer llai. Berf ac adferf, wedi cymysgu i greu rhoch. Distawrwydd lletchwith, mwmian, neu nodio bach o’r pen. Mae’n atalnod llawn ac yn hwyl fawr, ac os wyt ti’n ei ddefnyddio wrth siarad fe ddisbaddai di tra ti’n sefyll yno.

Os wyt ti hyd yn oed ychydig yn gyfarwydd gyda moesau ar-lein, ti’n gwybod ni all osgoi'r gair (a dwi’n defnyddio’r term yn ysgafn). Yn ei gyd-destun gwreiddiol yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o ddangos hiwmor mewn sefyllfa briodol dim ond gair ydyw, er hynny un diddorol iawn: pan ti’n dangos mwynhad, pam fydda ti’n disgrifio dy weithred fel hyn? Prin fydda ti, os byth, yn neidio i’r rôl o adroddwr trydydd person ac yn mewnosod ‘ymestyn braich chwith’ mewn e-bost. Byddai ‘sylwi ar y cosi yn cychwyn ar ei gefn’ yn adlewyrchiad personol hollol wallgof i roi mewn neges ar-lein, ond mae ‘chwerthin yn uchel’ yn cael ei dderbyn heb feddwl dwywaith. Oes rhywun arall yn gweld hyn yn od? Neu’n boenus?

Codais fy mhen a sylwais fod y cwis wedi cychwyn hebddo i. Doeddwn i ddim yn teimlo fel chwarae rhagor beth bynnag. Syllais ar y meistr cwis. Trwy’r tarth meddw gwelais fwydlen ymhellach i lawr y bwrdd, a chipio golwg ar yr adran cig:

HARD DAY AT WORK? GET A ROAST DINNER DOWN YOU’RE NECK

Rhedais allan o’r tafarn yn sgrechian: “Nid yw’n gwneud synnwyr! Mae’n rhaid mai ‘throat’ maen nhw’n ei feddwl, os nad ydynt eisiau i ti ddriblo?!

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.