Cychwyn Rhywbeth Anhygoel
Menter Gymdeithasol. Mae'n un o'r ymadroddion yna sydd yn cael ei luchio o gwmpas fel "ymgynghoriad cyhoeddus" ac "adnewyddiad trefol" Ond beth mae Menter Gymdeithasol yn ei feddwl o ddifrif ac yn fwy pwysig, pan ddylet ti boeni? Gad i ni ei dorri i lawr
- Mae Menter Gymdeithasol yn masnachu, yn gwerthu nwyddau a/neu wasanaethau.
- Mae Menter Gymdeithasol efo bwriad cymdeithasol a/neu amgylcheddol sydd yn wraidd popeth.
- Mae incwm/elw yn cael ei ail-fuddsoddi i fasnach gymdeithasol neu amgylcheddol pellach.
Felly, yn y bn, mae Menter Gymdeithasol fel elusen ond mae'n cael ei redeg fel busnes sydd yn golygu elw (potensial) a dyma'r rhan "pam ddylet ti boeni". Ond dim elw i ti neu'r cyfranddalwyr yn unig, ond elw i bawb. Efallai byddai manteision yn well gair; mae Menter Gymdeithasol yn manteisio pawb, ti, y bobl ti'n gweithio gyda nhw a'r gymuned ar y cyfan.
Efallai dy fod eisiau agor caffi yn dy glwb ieuenctid, neu hyd yn oed rhedeg y clwb ieuenctid. Efallai ti eisiau dechrau cylchgrawn i bobl ifanc yn dy gymdogaeth, sefydlu stiwdio recordio neu glwb nos? Efallai ti eisiau dechrau cwmni i ariannu creu parc sglefrio, tm criced neu gwmni theatr?
Os oes l o ddyngarwch, allgaredd neu ddaioni cyffredinol o'i gwmpas ac nad yw'r elw yn cael ei sgimio ar gyfer y cyfranddalwyr, ond yn cael ei ail-fuddsoddi i'r cwmni neu yn cael ei ddefnyddio am bethau sydd yn manteisio'r gymuned, yna mae hynny yn Fenter Gymdeithasol.
Efallai dy fod yn meddwl rhywbeth fel "Dim elw? Hy! Pam ddylwn i drafferthu?" Wel, nid yw dim elw yn golygu dim arian. Rydym yn siarad am fusnes yma. Felly gallet barhau i dynnu cyflog, gneud gwaith dy hun a gorffen bob dydd gyda'r syniad dy fod yn gwneud pethau'n well. Dychmyga sut bydda'n edrych ar dy CV neu gais am swydd dy fod wedi cychwyn rhywbeth dy hun.
Rydym yn credu fod Menter Gymdeithasol yn beth da, yn enwedig gyda'r ffordd mae pethau yn mynd ar hyn o bryd, ac eisiau mwy o bobl ifanc wybod amdano, felly rydym yn rhoi llyfryn bach gyda'i gilydd ond rydym angen dy gymorth. Os gallet lenwi'r holiadur hwn, yr holiadur bach iawn yma, yr holiadur pum munud ar y mwya’, yna byddet yn gwneud ffafr fawr i ni, ti, y sefydliadau, pobl ifanc Cymru, pawb i ddweud y gwir.
Mae angen ymateb i'r holiadur cyn dydd Gwener 11 Tachwedd.
Os oes unrhyw gwestiwn yna cysylltwch gyda John Reany (john@cwvys.org.uk)
Gwybodaeth – Cyflogaeth a Hyfforddiant
Newyddion – Categorau – Cyflogaeth a Hyfforddiant