Cychwyn Newydd
Fe eisteddais yn crio yn y gornel, yn edrych i lawr ar fy mraich i weld y toriad roeddwn wedi’i wneud.
Roedd hi’n wanwyn 2006 a gwawr fy iselder. Fe ddechreuais gael trafferthion yn yr ysgol; roeddwn yn hunan niweidio ac yn wirioneddol cysidro lladd fy hun. Roedd gen i hunan-barch isel iawn ac yn brwydro i weld y golau ar ddiwedd y twnnel.
Fe ddaeth yr ysgol i wybod am hyn ar l i gyd ddisgybl ddweud wrth athro ar l gweld fi’n niweidio fy hun. Fel rhan o’r weithdrefn, dywedodd yr ysgol wrth fy mam am y trafferthion roeddwn yn ei gael. Penderfynodd mam a’r ysgol i gysylltu fi ag uned CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed) yng Nghaerdydd.
Fe gychwynnais weld seiciatrydd a helpodd fi i ddechrau siarad am fy mhroblemau. Cyfeiriodd yntau fi at gynghorwr oedd yn siarad gyda fi ar lefel bersonol; roedd hi’n wych a rhoddodd ddulliau i mi i ddelio gyda’r sefyllfaoedd roeddwn i ynddynt.
Fe wnaethom ymarferion chwarae rhan a ddysgodd i mi sut i ddelio gyda’r bobl anaeddfed yn fy mywyd oedd yn rhoi fi lawr trwy’r adeg. Efo’n gilydd edrychom ar y sbardunau oedd yn arwain i ‘dip’ iselder. Rhoddodd y doctoriaid fi ar gyffuriau gwrthiselydd a ddaeth a’m tymer i lefel iach. Ymhob sesiwn gyda’r cynghorwr roeddem yn gosod targedau i gwblhau cyn ein sesiwn nesaf.
Yn fis Tachwedd 2009 penderfynais ei bod yn amser i gael cychwyn newydd. Siaradais gyda mam am newid ysgol a phenderfynom edrych o gwmpas yr ysgol leol oedd yn agosach i adref a golygai gallaf wneud ffrindiau oedd yn byw yn agos i mi. Yn fis Rhagfyr symudais ysgol ac roeddwn yn gobeithio cael cychwyn newydd, ond roedd y si am yr ‘hen fi’ wedi cael ei lledu ac roedd pobl yn osgoi fi.
Yn anffodus, symudodd fy nghynghorwr i swydd arall ond cyn iddi adael fe roddodd fi mewn cysylltiad ’r cynghorydd ysgol. Ymhen ychydig o amser yn yr ysgol newydd daeth pobl i weld y ‘fi newydd’ ac anghofio am y si ac fe wnes i grŵp lyfli o ffrindiau.
Dwi nawr yng Ngholeg Chweched Dosbarth yn astudio Gofal Iechyd a Chymdeithasol a dwi’n gobeithio bod yn weithiwr ieuenctid yn y dyfodol, a gweithio gyda phobl ifanc sydd ’r un problemau, neu broblemau tebyg, i’r rhai oedd gen i. Dwi’n gobeithio rhoi rhywbeth yn l i’r proffesiwn newidiodd fy mywyd.
Ysgrifennwyd gan Charlotte
Delwedd: I’m Broken (You Can’t Fix Me)
Erthyglau Perthnasol:
Am wybodaeth bellach ar y pynciau trafodwyd yn yr erthygl hon, clicia ar y geiriau sydd wedi’u tanlinellu. Gall hefyd ymweld ’n hadrannau Gwybodaeth a Sefydliadau, sydd yno i ddarparu pobl ifanc efo gwybodaeth ddiduedd i helpu nhw pan mae ganddynt broblemau, neu eisiau atebion i’w cwestiynau.