Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Cwymp Lewis Hamilton o frig Fformiwla1

Posted by archifCLICarchive from National - Published on 30/06/2009 at 15:38
0 comments »

Blwyddyn ddiwethaf bu Lewis Hamilton ar frig y byd Fformiwla 1 wrth iddo ennill Pencampwriaeth y Byd ac arwain ei d?m McClaren at ail yn y Bencampwriaeth Adeiladwyr. Ond ers dechrau'r tymor hwn mae ei berfformiadau wedi disgyn i lefel isel iawn i gymharu ? blwyddyn ddiwethaf. Er bod nifer o bobl wedi synnu ar ei gwymp o fewn ei gamp, gwelaf ambell reswm clir ynglŷn ?’i broblemau a chredaf ei fod yn annheg iawn i’r bobl sydd heb wybod yr holl ffeithiau gosod yr holl fai ar ei ysgwyddau.
Ar ?l ennill clod mawr yn ystod ei dymor diwethaf a phawb yn siarad am ei botensial fel y Michael Schumacher nesaf mae’n siŵr bod ei fethiannau yn y tymor yma wedi dod fel sioc fawr iddo. Yn sicr mae hi wedi dod fel sioc i’w gefnogwyr i weld ei arwr yn ymladd dros safle 16eg yn y rasau diweddar. Mae hefyd problemau wedi codi bant o’r trac ble bu Hamilton ei gyhuddo o ddweud celwydd. Bu pobl yn dechrau meddwl ei fod yn troi’n berson maldodus ?’i arian ac enwogrwydd. Serch hynny mae’n rhaid ei bod hi wedi body n amserau anodd i’r gyrrwr gyda’r holl wasgedd o amddiffyn ei bencampwriaeth ac yn methu yn ysblennydd ar y pryd. Bu’n amlwg yn anodd iddo ymdopi. Bu’r pwysau gan y wasg yn ?l ym Mhrydain yn naturiol o anferthol ac wrth i berfformiadau Hamilton waethygu bu mwy a mwy o’r wasg yn neidio i’w drywanu yn y cefn. Roedd y rhain yn amserau anodd yn amlwg.
Ond, bu rheswm mawr yn chwarae ar berfformiadau Lewis Hamilton. Gan fod ei d?m wedi canolbwyntio cymaint ar ddatblygu ei gar at y funud olaf tymor diwethaf pan enillodd y bencampwriaeth doedd ganddyn nhw braidd dim cynllun ganddyn nhw ar gyfer y gar tymor nesaf (tymor hwn). Hefyd, bu nifer o newidiadau yn y rheolau'r tymor yma ac wrth gwrs bu’r diffyg cynllunio ei bwysleisio gan y newid yn y rheolau. Felly er bod nhw wedi ymgeisio i ddatblygu'r car mor gynted ag sy’n bosib ond mae’r newidiadau yn syml ddim wedi gweithio ac felly maent wedi ffindio bod ei gar yn ddarn o sbwriel i’w yrru. Mae rhai yn dweud bu’r car yn beryglus yn nwylo unrhyw un ond am Lewis Hamilton a meant hefyd yn pwysleisio ei fod yn gyrru efallai hyd yn oed yn well na flwyddyn ddiwethaf er bod y canlyniadau ddim yn adlewyrchu hyn. Bu Ferrari yn dioddef yr un problemau ond roeddent wedi medru ei wella ei gar at safon derbyniol yn llawer cyflymach na wnaeth McClaren.
Felly, er bod canlyniadau Hamilton y tymor yma ddim wedi bod yn gystal ? thymor diwethaf ond mae sawl rheswm mawr wedi cyfrannu at hyn ac mae llawer yn dweud ei fod o dal yn gyrru fel Pencampwyr y Byd.
Gan Cian Wade

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.