Comisiynydd Plant Cymru
Keith Towler yw Comisiynydd Plant Cymru. Ei waith ef yw sefyll i fyny a siarad ar ran plant a phobl ifanc. Mae ganddo dm o bobl sy’n gweithio gydag ef i sicrhau fod plant a phobl ifanc yn cael eu cadw’n ddiogel a’u bod yn gwybod eu hawliau ac yn gallu eu defnyddio.
Cyngor a chymorthMae’r gwasanaeth Cyngor a Chymorth i blant a phobl ifanc, a’r bobl sy’n poeni amdanyn nhw er mwyn bod o gymorth pan nad oes neb arall yno i helpu.
Mae’r Swyddogion Cyngor a Chymorth yn derbyn galwadau ffn, negeseuon testun, e-byst a llythyron oddi wrth blant, pobl ifanc ac oedolion sydd wedi ceisio datrys problem ond wedi methu. Dyw ein swyddogion ni ddim yn gynghorwyr ond maent yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion er mwyn datrys y broblem. Os na fedrwn ni helpu yn fe wnewn ni'n gorau i ddarganfod sefydliad sy'n medru rhoi help llaw.
Os ydych chi angen siarad efo rhywun o swyddfa'r Comisiynydd, mae'r manylion cyswllt a'r gael yma.
Ateb nol
Mae Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, eisiau gwybod beth sy’n bwysig i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae e eisiau gwybod beth rydych chi’n meddwl, fel bod e’n gallu defnyddio’ch syniadau chi mewn adroddiadau a rhannau eraill o’i waith. Bydd e hefyd yn gwneud yn siŵr bod y bobl sy’n gwneud penderfyniadau yn gwybod sut rydych chi’n teimlo.