Comig Syml
I gychwyn, hoffwn ddweud mai hwn ydy fy nghomig cyntaf sydd wedi cymryd sip.
Cafodd ei wneud ar fy mhrofiad gwaith mewn stiwdio dylunio graffeg o’r enw Burning Red sydd yn cynnwys tm o bobl dalentog a chreadigol iawn.
Er fy mod yn amhrofiadol mewn ysgrifennu stori weddus, rhoddwyd y syniad i mi i ysgrifennu comig gall llwytho i CLIC. Ar l ei ddarllen, dwi’n sylwi fy mod wedi gadael llawer o bethau allweddol allan gallai wedi cael eu llwytho, felly dwi’n ymddiheuro.
Dwi’n credu mai ysbrydoliaeth ydy un o’r pethau pwysicaf sydd yn ysgogi ni i rasio tuag at ein breuddwydion ac uchelgeisiau. Mae llawer o bobl wedi ysbrydoli fi i ddal ati i rasio tuag at y llinell terfyn a dwi wirioneddol yn diolch iddynt er nad ydw i wedi cyfarfod rhai ohonynt.
Er bod rhai pobl yn cwyno gan amlaf nad ydynt yn gallu creu na gwneud dim, byddwn i’n hoffi dweud o beth dwi wedi’i ddysgu nad yw talent yn golygu llwyddiant. Dim ond gwaith caled a’r penderfyniad i fod yn well sydd yn gwneud ninnau yn olynydd o’r dylanwadau sydd yn siapio ein bywydau bob dydd.
Er hyn dwi’n gobeithio byddet yn mwynhau fy strip comig, ac er bod gennym oll llawer i ddysgu, dwi’n credu ein bod i gyd yn gallu dod yn beth rydym wirioneddol eisiau bod.
Tudalen Gwybodaeth Llenyddiaeth CLIC
1 Comment – Post a comment
CLICtania
Commented 67 months ago - 22nd October 2010 - 15:33pm