CLICwyr Yn Meddwl Yn Uchelgeisiol!
Ydych chi’n cofio Cegin Eddie? Wel, mae’r hyn a ddechreuodd fel breuddwyd ac ychydig o erthyglau CLIC bellach wedi datblygu yn gaffi go iawn a sioe goginio.
Digwyddodd hyn diolch i Brosiect Think Big O2, sy'n cynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu eu syniadau i wella'r gymuned. Fe aeth Eddie a CLICwyr eraill ’u syniadau at Think Big, a chawsant gymorth i’w gweithredu. Yma, mae dau ohonynt yn rhannu eu profiadau:
Prosiect: Cegin Eddie
CLICiwr: eddie secretary, Torfaen
Helo CLICwyr!
Mae Cegin Eddie bellach yn llwyddo, ac yn ogystal ag arian, mae gennyf gaffi teidi lle gallaf goginio i bob un ohonoch hefyd!
Pam ydw i wedi cael arian? Wel, edrychais ar brosiect Think Big O2 a chyflwynais gais i gychwyn prosiect coginio, wedi'i anelu at fyfyrwyr prifysgol neu bobl ifanc sy'n gadael cartref a heb wybod yn iawn sut i goginio - heb son am goginio heb fawr o arian! Yr holl syniad sydd wrth wraidd hyn yw cynorthwyo'r bobl hyn i goginio heb wario fawr o arian. Byddaf yn defnyddio rhai o’r ryseitiau o CLIC ac yn darparu canllawiau fideo gam wrth gam hefyd!
Felly cadwch olwg amdanom ni a dilynwch ni yn Facebook neu Twitter.
chithau bellach yn gwybod am fy mhrosiect a rhai o’r pethau a fydd yn digwydd, beth am ddod draw i flasu ychydig o’r bwyd rhagorol hwn yn fy nghaffi! Rwy'n gweithio yn Dragon Bands, stiwdio recordio gymunedol yn nhref Pont-y-p?l, ar Ystd Ddiwydiannol Gogledd Pont-y-p?l. Mae angen teithio tipyn i gyrraedd yno, ond rwy'n eich sicrhau, mae'r bwyd yn wych a byddaf yn paratoi popeth yn ffres wrth i chi ei archebu!
***
Prosiect: Dewch O Hyd I’ch Hyder
CLICiwr: Tansi, Caerdydd
A ydych erioed wedi dymuno gwneud rhywbeth i gynorthwyo a gwella’r gymuned? Os ydych chi, dylech ystyried prosiect Think Big O2.
Beth yw hynny, medde chi?
Wel, mae prosiect Think Big O2 yn brosiect ariannu a drefnir gan O2 i bobl ifanc fel chi, i gynorthwyo i wella’r gymuned yn eich ymyl chi a'i gwneud yn lle gwell. Mae’n swnio’n wych, tydi? Mae'r camau’n syml, meddyliwch am brosiect y buasech yn hoffi ei redeg - gallai fod yn unrhyw beth a fyddai'n llesol i’r gymuned a hefyd yn eich cynorthwyo chi - yna mewngofnodwch yn www.o2thinkbig.co.uk a dilynwch y camau a welwch yno. Mae’n ganllaw cam wrth gam, syml a hawdd i’w ddilyn!
Rwyf wedi gwneud hyn ac wedi dilyn yr holl brosesau fy hun. I wneud beth, medde chi? Wel, penderfynais feddwl am brosiect i gynorthwyo i ddatblygu hunan-barch a hyder pobl. Bydd y prosiect yn galluogi pobl ifanc 11-25 (sef chi) i datblygu eu hunan-barch a’u hyder fel y gallant ar hynny yn y dyfodol. Cefais £300 i fy nghynorthwyo i ddatblygu’r prosiect, ac fe allech chithau gael arian hefyd!
Felly beth yn union fuasai fy mhrosiect yn wneud?
Wel, bydd fy mhrosiect yn trefnu sesiynau i bawb ohonoch i’ch cynorthwyo i fagu eich hunanhyder. Rwy’n bwriadu gwneud hyn trwy gynnal sesiynau ysgrifennu ble gallwch chi oll weithio naill ai mewn gr?p neu’n unigol, i baratoi rhywbeth. Gallai fod yn farddoniaeth, straeon byrion neu hyd yn oed berfformiadau drama byr. Wedi i bawb orffen a chwblhau eu gwaith, buaswn yn cynnig llwyfan i bob un ohonoch. Dyna chi: buasech oll yn cael cyfle i serennu! Buasech oll yn perfformio (cyn belled ’ch bod yn teimlo’n ddigon hyderus - a dyna'r bwriad!) o flaen cynulleidfa fyw i ddangos cymaint y byddwch wedi datblygu!
Felly beth amdani, gyfeillion? Dewch i gymryd rhan trwy...
Hoffi ein tudalen Facebook: http://www.facebook.com/FindYourConfidence
Dilynwch ni yn Twitter hefyd: @FindYourConfide
Gobeithio y cawn weld pob un ohonoch yn cymryd rhan!
***
Ydych chi wedi cymryd rhan hefyd? Os ydych chi, rhowch wybod i ni am eich prosiect yn y sylwadau isod os gwelwch yn dda!