Welcome to The Sprout! Please sign up or login

CLIC Yn Mynd Yn Symudol

Posted by Dan (Sub-Editor) from Cardiff - Published on 14/10/2013 at 11:57
0 comments » - Tagged as Technology

  • mob

English version // Yn Saesneg

"Bydda hwn wedi bod yn ddefnyddiol iawn pan oeddwn i yn sownd i fyny coeden yn cael fy mhigo gan Tracker Jackers" – Katniss Everdeen ar CLICsymudol

Beth ydy'r peth mwyaf  anghyfleus am gael blaidd-ddyn yn rhedeg ar dy ôl di? [mae hyn yn wir hefyd am zombies]

Efallai bod y posibilrwydd o rwygo braich neu goes oddi ar dy gorff a'i fwyta yn ymddangos rhywle ar y rhestr. Mae'n debyg bod cael dy frathu a dy droi yn anghenfil yno hefyd. Ond dwi'n meddwl mai'r peth mwyaf anghyfleus ydy ei bod hi'n anodd iawn cael mynediad i gyfrifiadur gyda chysylltiad digon da i fynd ar y we.

Mae cael gafael ar wybodaeth yn bwysig pan rwyt ti yn rhywle anghyfarwydd: pan fydd darllen am lladdwr-gŵn, cymorth cyntaf neu ganllawiau goroesi zombies yn gallu golygu'r gwahaniaeth rhwng darganfod lle diogel i dreulio'r noson a dod yn snac i'r angenfilod.

Yn ffodus mae CLICarlein wedi'i wneud yn hawdd cael mynediad i, a rhannu, gwybodaeth ar y gweill. Bydd llwytho CLICarlein.co.uk ar dy ffôn yn mynd â thi i fersiwn cyfeillgar i ffonau symudol heb dynnu dim o'r nodweddion allweddol: fedri di dal ysgrifennu erthyglau a sylwadau, cyflwyno lluniau yn syth o dy ffôn, a chael mynediad i'r holl erthyglau, cyngor a gwybodaeth sydd ar gael ar y prif wefan.

Cystadleuaeth

I ddathlu'r lansiad o'r wefan CLICsymudol rydym yn cynnal cystadleuaeth i ennill bag nwyddau llawn o bethau gwych.

Mae ymgeisio yn hawdd: defnyddia dy ffôn symudol i gyflwyno rhywbeth. Gallai fod yn unrhyw beth rwyt ti eisiau, ond ychwanega'r geiriau "cyflwynwyd trwy CLICsymundol" rhywle yn y cyflwyniad i sicrhau ei fod yn cael ei gofrestru am y gystadleuaeth.

Dyma ychydig o awgrymiadau ar gyfer pethau gallet ti gyflwyno:

  • Gad sylwad ar erthygl (os wyt ti'n sownd am rywbeth i ysgrifennu, gad sylwad ar yr erthygl yma yn rhoi adborth am y wefan symudol newydd. Wyt ti'n ei hoffi? Oes yna unrhyw beth hoffet ti weld yn newid? Rydym eisiau dy adborth!)
  • Cymera luniau gyda dy ffôn a'u hatodi i erthygl (gall hefyd atodi fideo, ond bydd angen ei roi ar YouTube ac ychwanegu'r ddolen wrth gyflwyno'r erthygl)
  • Cyflwyno digwyddiad
  • Mae'n Noson Calan Gaeaf yn fuan. Ysgrifenna stori arswyd! Gallet ti hyd yn oed gymryd lluniau arswydus gyda dy ffôn ac ychwanegu nhw.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar Dachwedd 11eg.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.