CLIC, Meic A Holi Hana Yn Yr Eisteddfod
English version
Cafodd yr ŵyl ddiwylliannol flynyddol, yr Eisteddfod Genedlaethol, ei gynnal eleni yn yr hen safle gweithfeydd haearn Glyn Ebwy. I’r rhai ohonoch sy’n gwybod dim am yr ŵyl, digwyddiad mwyaf diwylliannol o’i fath yn Ewrop ydyw, yn digwydd mewn gwahanol leoliadau yng Nghymru bob blwyddyn. Yn ystod y dathliadau wythnos o hyd mae yna gystadlaethau talent, cyngherddau, gigs, dramu ac arddangosfeydd.
Yn ogystal ’r cystadlaethau a pherfformiadau, mae sefydliadau o bob cornel o Gymru yn ymuno at ei gilydd i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o’u gwaith.
Roedd y tm CLIC yno yn hyrwyddo’r wefan ac yn annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn amryw weithgareddau. Yn ystod yr wythnos rhannodd CLIC stondin gyda Meic y llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth genedlaethol i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Roedd y timau yn cael eu cefnogi gan hwyaden seleb, Hana o’r rhaglen blant S4C poblogaidd 'Holi Hana’. Mae’r rhaglen yn ymwneud llinell gymorth i anifeiliaid fferm sydd wedi cael ei ddarlledu mewn nifer o ieithoedd gwahanol o amgylch y byd.
Rhedodd CLIC a Meic gystadlaethau gyda rhai plant a phobl ifanc lwcus yn ennill ipod ar ddiwedd yr wythnos.
Am fwy o luniau o'r Eisteddfod ymwela a'n tudalen Flickr,