Cefnogi CLIC Ac Ennill £50!
Mae'n si?r yr ydych wedi sylwi erbyn hyn ar y blychau naid sy'n ymddangos pan yr ydych yn agor unrhyw un o safleoedd CLIC, yn gofyn 'Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hwn. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.'
Fel CLICwyr ardderchog, gobeithio yr ydych wedi clicio 'Cwblhau Arolwg' ac wedi ateb yr holiadur byr yn gysylltiedig phopeth CLIC.
Sut bynnag, os ydych wedi clicio'r blwch 'Dim Diolch' yna darllenwch ymlaen i weld sut y gallai cymryd yr arolwg ein helpu ni, ac oherwydd hynny yn eich helpu chi.
Mae'r arolwg hwn yn crynhoi'r casgliad pwysicaf o ddata yr ydych wedi gofyn ohonoch chi hyd yn hyn. Bydd y canlyniadau yn mynd tuag at werthuso cam nesaf y prosiect, yn enwedig beth sy'n gweithio orau a beth sydd angen ei wella. Heb eich cymorth chi ni allwn wthio CLIC ymlaen a'u gwella fel gwasanaeth i chi, pobl ifanc Cymru.
Felly, os nad ydych wedi'n barod, cymerwch ychydig funudau o'ch amser gwerthfawr i gwblhau'r arolwg. Os ydych wedi gwneud hyn yn barod, diolch yn fawr iawn i chi!
Www, ac fel ysgogiad ychwanegol byddwn ni’n rhoi pumdeg punt i un ohonoch chi am gwblhau’r arolwg, felly mae’n rhaid ei fod yn werth tro. Bydd pawb sy’n llenwi'r holiadur hwn yn cael ei rhoi mewn raffl fawr ar y 18fed o Orffennaf 2012 gyda'r siawns i ennill taleb gwerth £50 a allwch wario mewn dros 20,000 o siopau fel Argos, Boots, House Of Fraser, Debenhams, HMV, River Island, New Look, JJB Sports, a bwytau atyniadau a mwy.