CCUHP: Y Ddadl 18-24
Efallai eich bod eisoes wedi clywed am Gytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae'n gytundeb a lofnodwyd gan nifer o lywodraethau ar draws y byd sy'n amlinellu ac yn diogelu hawliau dynol pobl sydd gan 18 oed. Nawr, mae angen eich barn i benderfynu a ddylai fod yn berthnasol i bobl sydd dros 17 mlwydd oed hefyd.
Mae hawliau dynol yn warantau sy’n diogelu unigolion a grwpiau rhag gweithredoedd sy’n effeithio ar eu rhyddid a’u hurddas dynol. Mae hawliau dynol yn bethau y mae gennych hawl iddynt dim ond trwy fod yn fyw. Maent yn:
- Gyffredinol: yr un fath i bawb
- Anwahanadwy: yr un mor bwysig
- Anaralladwy: mae gan bob bod dynol hawl iddynt ac ni ellir eu hatal
Ers mis Mai eleni, mae holl Weinidogion Llywodraeth Cymru yn gorfod ystyried CCUHP wrth wneud eu gwaith. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae CCUHP yn ymwneud hawliau'r sawl sydd dan 18 yn unig. Yng Nghymru, diffiniad y Llywodraeth o bobl ifanc yw'r sawl sy'n 11-25 oed. Mae hyn wedi codi cwestiwn: ddylai CCUHP fod yn berthnasol i bobl sydd dros 17 mlwydd oed? Ar hyn o bryd, mae pobl ifanc 18-24 mlwydd oed yn dod o dan y Ddeddf Hawliau Dynol safonol, nid CCUHP, sydd wedi'i deilwra ar gyfer pobl ifanc.
Gofynnir y cwestiwn hwn i bobl ifanc - o bob oedran - oherwydd mae eich barn yn cyfrif. O rwan hyd at 28 Rhagfyr, gofynnir i chi anfon eich safbwyntiau yngl?n pha un a ddylai CCUHP fod yn berthnasol i bob ifanc 18-24 mlwydd oed yng Nghymru.
Os ydych am gael gwrandawiad i’ch barn a chyfrannu at benderfynu dyfodol hawliau dynol yng Nghymru, yna darllenwch y dogfennau ar y dudalen ymgynghori — a fydd yn egluro’r gwahaniaeth rhwng y Ddeddf Hawliau Dynol a CCUHP – a chyflwynwch eich safbwyntiau.
** CLICIWCH YMA I FYND I DUDALEN YR YMGYNGHORIAD **
Gallwch hefyd adael sylwadau a chwestiynau ar waelod yr erthygl hon. Fel arfer, anogir trafodaeth.
Dysgwch ragor am CCUHP:
Sefydliadau >> CCUHP – Gwneud Pethau’n Iawn!
Fideo: Camau Plant
Fideo: Geiriau Iawn, Trefn Anghywir
Erthygl/Fideo: Gweinidogion Cymru yn Cael Pethau’n Iawn