Casnewydd (Ymerodraeth State of Mind)
Iawn ta, y tebygrwydd ydy dy fod wedi gweld y fideo yma yn barod, ond roedd rhaid i ni rannu fo eto yma i’r rhai prin sydd ddim, ac er myn cael gwylio fo drosodd a throsodd eto.
Yr unig beth rydym yn ei wybod am y fideo firaol enfawr yma ydy ei fod wedi cael ei wneud gan The LOVE Commercial Production Company, yn serennu Alex Warren fel ‘Jay’ a Terema Wainwright fel ‘Alicia’, ac ei fod yn well na’r gwreiddiol, ac felly mor caethiwus ag Angry Birds.
Wyt ti’n gwybod mwy am Newport (Ymerodraeth State Of Mind)? Os wyt ti cofio adael sylwadau
Pawb efo’i gilydd: "repeat to fade, Newport, Newport, Newport..."
Mwy o wybodaeth ar gael nawr! Darllena erthygl am y fideo ar Wales Online.