Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Capio Budd-daliadau

Posted by National Editor from National - Published on 07/10/2013 at 09:53
0 comments » - Tagged as People, Topical

  • cap

English version // Yn Saesneg

Mae'r gyfres yma o erthyglau yn edrych ar effaith Diwygiad Lles (Welfare Reform) ar bobl ifanc. Mae yna cymaint o wybodaeth allan yna fel ei bod hi'n amhosib cwtogi popeth i mewn i un erthygl, ond os oes gen ti gwestiynau yna siarada gyda MEIC – maent yn  disgwyl am dy alwad, neges testun neu neges sydyn trwy'r dydd, pob dydd. Os oes gen ti brofiad o'r cap budd-daliadau i rannu, yna gad sylwad isod.

Diwygiad Lles: Y Cap Budd-daliadau

Fel rhan o'r Diwygiad Lles cafodd uchafswm neu 'cap' budd-daliadau' ei gyflwyno mewn camau yn cychwyn fis Ebrill eleni. Mae'r Llywodraeth yn dweud: "Nod y polisi ydy i gyflawni effaith ymddygiadol cadarnhaol hir dymor trwy newid agweddau i les, dewisiadau bywyd cyfrifol a chymhelliant gwaith cryf."

Mae awdurdodau lleol yn dosbarthu'r cap nes i'r Credyd Cynhwysol gymryd drosodd, yn 2017. Mae'r cap budd-daliadau yn gosod cyfyngiad ar daliadau lles, fel bod y cyfanswm o fudd-daliadau sydd yn gallu cael ei dderbyn gan unrhyw unigolyn neu deulu yn cael ei gyfyngu i uchafbwynt.

"Rydym yn credu bod y cap budd-daliadau yn annheg ac yn gwthio miloedd o deuluoedd ymhellach i mewn i dlodi. Y rheswm mae'r bil budd-daliadau wedi codi ydy oherwydd codiad yn y gost o lety yn y sector rhentu preifat, ynghyd â chyflogau isel a'r diffyg tai fforddiadwy a chymdeithasol." – Shelter Cymru

Y Cap

Y cyfyngiad ar gyfanswm budd-daliadau wythnosol ydy:

  • £500 yr wythnos i gyplau / rhieni sengl
  • £350 yr wythnos i bobl sengl

Mae budd-daliadau tai yn cyfri tuag at yr uchafswm o fudd-daliadau gall cael ei dalu a bydd yn cael ei leihau i atal cyfanswm y budd-daliadau rhag mynd yn uwch na'r cyfyngiadau yma.

Pa Fudd-daliadau Sy'n Cael Ei Gynnwys Yn Y Cap?

Mae'r budd-daliadau canlynol yn gynwysedig wrth geisio gweld os ydy cyfanswm dy incwm budd-daliadau yn fwy na'r cap:

  • Lwfans Profedigaeth
  • Lwfans Gofalwyr
  • Budd-dal Plant
  • Credyd Treth Plant
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ac eithrio lle mae'n cael ei dalu gydag elfen gymorth)
  • Lwfans Gwarcheidwad
  • Budd-dal Tai
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Lwfans Mamolaeth
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Lwfans Rhieni Gweddw
  • Lwfans Mam Weddw
  • Lwfans Gwraig Weddw

Pa Fudd-daliadau Sydd Ddim Yn Cael Ei Gynnwys?

  • Tâl Profedigaeth
  • Tâl Tai Dewisol  
  • Cymorth gyda Threth Cyngor (er esiampl gan gynllun cefnogaeth dy gyngor lleol)
  • Credyd Pensiwn
  • Taliadau Gorchymyn Preswyl
  • Taliadau Cronfa Gymdeithasol (er esiampl Benthyciadau Trefnu, Taliadau Tywydd Oer, Taliadau Angladdau)
  • Benthyciad Byr Dymor tra ti'n disgwyl am dy fudd-daliadau cyntaf
  • Pensiwn Ymddeoliad y Stad
  • Taliadau Tanwydd Gaeaf
  • Taliadau unigryw gan dy awdurdod lleol i helpu mewn argyfwng
  • Budd-daliadau heb arian, er esiampl, prydau ysgol am ddim
  • Taliadau Statudol (er esiampl Tâl Salwch, Tâl Mamolaeth, Tâl Tadolaeth neu Dâl Mabwysiadu)

Cyngor i Bobl Ifanc

Mae pobl sengl mewn llawer llai o risg yn ôl y Llywodraeth, yn cynrychioli 10% o'r cyfanswm sy'n cael ei effeithio

Bydd gwaith rhan amser yn lleihau budd-daliadau ac yn isafu effaith y cap

Dim ond pobl o oedran gweithio sy'n cael ei effeithio (16+), os wyt ti o dan yr oedran yma yna byddi di'n iawn

Canolbwyntia ar eithriadau: wyt ti'n cyrraedd y meini prawf Credyd Treth Gwaith?

Ddim yn siŵr ble wyt ti'n sefyll? Defnyddia'r Cyfrifiannell Cap Budd-daliadau.

FFYNONELLAU

Shelter Cymru

Gwasanaeth Cynghori Ariannol

Youth Access

ERTHYGLAU PERTHNASOL

Trethu'r Ystafell Wely

DELWEDD: jaded one trwy Compfight cc

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.