Canlyniadau Arholiad: Paid Chynhyrfu
English version
Mae miloedd o bobl dros y wlad yn cael canlyniadau lefel A heddiw. Mae’n amser cyffroes ond nerfus iawn.
I rai ohonoch, byddwch yn cael y canlyniadau rydych eisiau a heno byddwch yn dathlu ac yn edrych ymlaen at y cam nesaf yn eich bywyd.
I eraill, gall fod yn stori hollol wahanol. Efallai nad ydych wedi cael y graddau yr ydych ei angen a byddwch yn teimlo’n eithaf siomedig. Ond, beth mae hyn yn ei feddwl? Ydy hyn yn golygu eich bod wedi ffaelu ac na fyddwch yn cyrraedd lle rydych mewn bywyd?
Rydym wedi bod yn siarad gyda Meic a roddodd cyngor gwych i ni.
Yn gyntaf, paid chynhyrfu!
-Nid yw’n ddiwedd y byd. Mae yna lawer o bobl lwyddiannus sydd ddim wedi cael y canlyniadau roeddent eisiau chwaith.
-Meddylia yn ofalus beth wyt ti wirioneddol eisiau ei wneud.
-Ceisia ei weld fel trobwynt sydd wedi dy orfodi i edrych ar bosibiliadau eraill. Gall hwn fod yn drobwynt cyffroes a phositif.
Yn ail, cysyllta dy ddewisiadau
-Cysyllta ’r brifysgol neu goleg rwyt wedi ymgeisio amdano i weld os gwnnt nhw dderbyn ti, neu helpu ti trwy siarad drwy dy opsiynau gwahanol.
-Chwilia am gyrsiau eraill sydd yn parhau i fod efo llefydd. Mae’r rhestr gloywi ar y wefan UCAS neu ar gael ym mhapur newydd The Independent.
Ceisia chwilio’r BBC am gymorth hefyd.
Yn drydedd, cysyllta prifysgolion a cholegau a siarad!
-Galwa o gwmpas a cheisia gael lle ar gwrs arall.
-Siarada am y peth efo dy deulu, ffrindiau, athrawon a dy gynghorydd gyrfa. Siarada phobl sydd yn adnabod ti, gan fod dewis y coleg neu brifysgol iawn yn bwysig.
Yn bedwerydd, ystyria opsiynau eraill
-Blwyddyn bwlch
-Ail-eistedd
-Cyflogaeth
Ac yn olaf, bydda'n bositif
-Mae’n swnio fel y newyddion gwaethaf yn y byd ar y funud, ond mewn ychydig flynyddoedd mae’n siŵr y byddet yn falch o’r canlyniadau ti wedi’i gael heddiw. Gall y canlyniadau hyn, hyd yn oed os nad ydynt yn union beth oeddet eisiau, newid dy fywyd am y gorau. Bydd y graddau hyn yn dy orfodi i wneud penderfyniad a dy yrru mewn cyfeiriad hollol wahanol o bosib. Yn fwy tebygol na ddim, bydd hyn y peth gorau i ti!
Cysylltiadau a gwybodaeth ddefnyddiol:
Llinell Gymorth Canlyniadau Arholiad (defnyddio hwn gyntaf bob tro) Criw o gynghorwyr gyrfa fydd yn rhoi cefnogaeth ar gyfer TGAU, Lefel A a hyd yn oed blwyddyn bwlch.
- 0808 100 8000
Bydd UCAS yn cynnig cymorth ar geisiadau unigol:
- Llinell gymorth 0871 468 0468, ar agor Llun Gwen 8:30yb 6yh
- Llinell Gymorth Anawsterau Clyw am ymateb drwy destun: 1800 10871 468
Mae The Student Room yn cynnig cyngor a chefnogaeth: www.thestudentroom.co.uk
Gyrfa Cymru: www.gyrfacymru.com
Rhifau sirol Gyrfa Cymru:
- Caerdydd a’r Fro: 0800 100 900
- Gwent: 0800 028 9212
- Morgannwg Ganol a Phowys: 0800 183 0283
- Gogledd Ddwyrain: 0800 919 520
- Gogledd Orllewin: 0800 389 9603
- Gorllewin: 0800 100 900
Cyllid
DELWEDD:Wallflower83
Gefais di’r canlyniadau roeddet eisiau? Gad sylwadau isod.