Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Canllaw CLIC Ar Rentu

Posted by Dan (Sub-Editor) from Cardiff - Published on 23/08/2010 at 15:09
0 comments » - Tagged as Education, People, Topical, Work & Training

  • tolet

English Version

Pa un ai wyt ti’n byw gartre ac eisiau cael mor bell oddi wrtho phosib, neu mewn neuaddau preswyl ac wedi derbyn o’r diwedd fod yr ystafell fach yna ddim ddigon mawr i dy stwff di i gyd, ti bron yn bendant o fod yn cysidro rhentu tŷ gyda grŵp o bobl.

Mae symud o neuaddau i dy yn gam mawr ymlaen mewn bywyd myfyriwr. Yn ogystal bod yn rhatach ac yn caniatu mwy o fynediad at siopau, mae’r gallu i wneud llanast mewn nifer o ystafelloedd cyn gorfod clirio yn brofiad. Bydd symud o gartref ddim yn rhatach maen tebyg na byw gyda dy deulu, ond mae o’n llawer fwy o hwyl. Ond gall hefyd fod yn rhywbeth sydd yn peri poen i ti cyn i ti ei wneud, a dyma pan fod CLIC yma i gynnig y canllaw defnyddiol yma i rannu llety. Mae’r canllaw yma wedi ei ysgrifennu yn bennaf i fyfyrwyr, ond gall y wybodaeth ynddo fod yn ddefnyddiol i’r rhai sydd yn gweithio yn hytrach na astudio hefyd.

Lleoliad, Lleoliad

Un o’r pethau cyntaf ti angen penderfynu ydy ble wyt ti’n meddwl byw, a faint wyt ti’n bwriadu (ac yn gallu fforddio) gwario. Fel rheol, ni ddylai gwario mwy na £50 yr wythnos ar rent os nad wyt ti’n siŵr y gallet ei fforddio. Paid chael dy demtio i gael tŷ 5 munud i ffwrdd o dy ddarlith neu fan ymlacio gorau: Mae rhent a Threth Cyngor (i rai sydd ddim yn fyfyrwyr) yn cynyddu’n gryn os wyt ti’n byw mewn ‘man poeth’ fel canol dref. Yn hytrach bydd dewis i fyw tua 10 munud o gerdded tu allan i ganol y dref yn gallu arbed llawer o arian i ti, ac yn aml mae’r tai y tu allan i ganol y dref yn fwy.

Noder weithiau fod y landlord/asiantaeth yn delio gyda’r gwasanaethau cyhoeddus (nwy, trydan, dwr) a dy fod di yn talu rhent uwch fel nad wyt ti’n gorfod poeni am y biliau eraill, ond paid byth tybio mai dyma yw’r achos am fod y rhent yn uwch nag oeddet yn disgwyl.

Medi yntau Gorffennaf?

Mae cytundeb safonol yn parhau o fis Medi i Fehefin, ond mae opsiwn o rentu dros yr haf (weithiau yn hanner pris) yn aml ar gael ar orchymyn, felly os wyt ti’n sownd am rywle i aros dros y gwyliau mae hynny yn gallu bod yn opsiwn rhad. Mae’r rhan fwyaf o lefydd efo tl blaendal gorfodol sydd yn gadael i ti adael dy bethau yn y tŷ dros yr haf. Gwna’n siŵr fod unrhyw beth gwerthfawr yn yswiriedig os wyt ti!

Asiant Gosod yn erbyn Landlord Preifat

Wrth rentu tŷ, mae’r dewis gen ti i fynd drwy asiant gosod neu yn syth at landlord preifat. Mae’r ddau efo’i fanteision a’i anfanteision. Mae asiant yn debygol o fod ychydig yn ddrytaf, ond mae unrhyw gost ychwanegol yn cael ei gyfiawnhau gan y gwasanaeth: maen nhw’n gwneud y dasg o fynd i weld a rhentu tŷ yn syml iawn, ac yn gallu delio gydag unrhyw broblem yn fwy cyflym nag unigolyn. Dylai bob asiantaeth gael rhif argyfwng sydd ar gael 24/7 (gwna’n siŵr dy fod yn gofyn amdano yn benodol os nad ydynt yn ei roi i ti). Mae landlord yn fwy o gambl gan ei fod yn dibynnu ar yr unigolyn: gallet gael un fydd yn hapus i brynu popty newydd i ti os ydy un chi yn ddiffygiol, neu gallet gael Scrooge. Ond ar y cyfan, mae landlordiaid yr un mor ddibynadwy weithiau hyd yn oed fwy nag asiantaethau.

Cyngor i Ddelio ag Asiantaethau:

Wrth wneud cais/cwyn, gwna nodyn o’r diwrnod yr wyt yn gwneud a’r aelod staff ti’n siarad gyda, gan efallai gallent wadu dy fod wedi dweud wrthynt am y gawod sy’n gollwng.
Fel rheol , bydd asiantaethau yn gwneud pob dim i gadw i’r bond. Gall pethau mor bitw staen blu-tac a charpedi heb eu hwfro yn ddigon iddynt gadw o leiaf £20. Os yn bosib, sicrha dy fod yn bresennol yn ystod yr arolwg ar ddiwedd y flwyddyn, gan ei fo yn llawer haws iddynt hawlio fod y tŷ angen ei lanhau pan wyt ti 50 milltir i ffwrdd.

Cyngor am Ddelio gyda Landlordiaid:

Sicrhau dy fod yn cael o leiaf un rhif ffn. Ceisia gael rhifau ffn symudol a thŷ fel dy fod yn gallu cael gafael arnynt mewn argyfwng.
Gwna’n siŵr eu bod yn ddilys, gan fod pobl ffug yn bodoli. Ceisia gael cymaint o wybodaeth phosib am y landlord. Gofynna am rif gwaith gan ei fod yn hawdd profi ei fod yn wir a bod y landlord yn gweithio lle maent yn ddweud y maent. Ceisia gael cyfeiriad a edrycha ar y rhestr etholiadol ar www.192.com. (Neu os wyt ti’n barod i dalu £3, edrycha os ydy’r landlord yn berchen ar yr eiddo yn gyfreithiol drwy lawr lwytho  Cofrestriad Teitl yr eiddo ar www.landregisteronline.gov.uk)

Pethau i Fod yn Wyliadwrus Ohonynt

1. Bydd unrhyw un o’r asiantaethau gosod yn yr ardal yn hapus i drefnu dy fod yn cael mynd i edrych ar eiddo. Yr hwyrach yn y dydd mae'r rhain yn cael eu trefnu'r gorau, gan fod arolwg bora yn debygol o gael ei ddifetha gan fyfyrwyr anymwybodol yn ac o gwmpas y llofftydd.

2. Wrth edrych o gwmpas y tai, cymera amser i archwilio pethau yn iawn i weld os ydynt yn gweithio. Cofia weld os ydy drysau yn cau’r holl ffordd a bod drws y tŷ bach yn gweithio. Swydd yr asiant gosod ydy i wneud y tŷ edrych ddeniadol, nid realistig. Tacteg dda ydy i’r mwyafrif o’r grŵp dynnu sylw’r cynrychiolydd gwerthu gyda chwestiwn, tra mae un neu ddau ohonoch yn cael gair tawel gyda’r tenantiaid presennol, fydd yn rhoi barn fwy realistig ar yr eiddo.

3. Mae arwydd o dŷ da yn cynnwys ffan echdynnu uwchben y pentan (yn angenrheidiol i goginio brecwast wedi’i ffrio), rheiddiadur ac/neu ffenestr yn yr ystafell ymolchi (i osgoi tamp), drws ffrynt a chefn sydd yn cau’n ddiogel ac argaeledd socedi plygiau. Arwyddion o dŷ drwg ydy darnau o damp (yn enwedig yn agos at drydan), mowld a chavs yn dringo i mewn drwy ffenestr cefn. Yn ogystal nodwch y cyflwr (ac argaeledd) dodrefn a dyfeisiau: gofynna a ydy’r oergell Budweiser a’r ficrodon 1000W yna yn dod gyda’r tŷ neu yn perthyn i denant.

Cyd-letywyr

Mae’r cyd-letywyr iawn yn gallu golygu’r gwahaniaeth rhwng blwyddyn o ymlacio llwyr ac o boen clensio dannedd, felly meddylia am bwy wyt ti yn byw gyda nhw. Ystyria dy bosibiliadau: os wyt ti mewn neuaddau ar y funud, mae symud i mewn gyda’r ffrindiau ti’n byw gyda nhw nawr yn opsiwn hawdd. Ond wyt ti’n adnabod nhw ddigon da erbyn nawr i wybod beth sydd yn dy wylltio amdanynt? Ac mae’r bobl sydd ddim ond yn ffrindiau gyda’u ‘clymblaid neuaddau’ yn y brifysgol yn drist. Efallai ei fod yn amser ymganghennu? Gofynna gwestiynau i ti dy hun am beth wyt ti eisiau fwyaf o’r profiad o gyd-fyw mewn tŷ: Sawl person fydda ti’n teimlon gyffyrddus yn byw gyda nhw? Mae rhai yn dweud gorau po fwyaf, gan fod biliau a rhent yn gostwng. Ond mae’r tebygrwydd o gegin fudr yn codi, ac efallai dy fod yn teimlo ei fod yn teimlo’n llai cartrefol nag rhannu lle gyda dau neu dri pherson. Ac, yn fwyaf pwysig, gofynna: Pa fath o bobl? Os maen nhw yn ‘geeky’ yna bydd dy fand llyfan yn well; os maen nhw’n joci yna mwy o gwrw a sianeli Sky Sports fydd ar gael.

Mae pawb efo gwahaniaethau, ac yn gyffredinol mae hyn yn beth da, ond mae rhai yn llawer rhy anghytn: os wyt ti’n hoffi cael noson fuan ac yn ei chael yn anodd canolbwyntio gyda bas cryf yn dirgrynu dy ystafell, yna ni fyddet yn hoffi byw o dan ‘raver’ hwyr y nos. Yn yr un modd, mae cael pobl yn dweud wrthyt droi dy gerddoriaeth i lawr am nad ydynt yn clywed  ei albwm newydd Dechrau Canu Dechrau Canmol dros dy ensemble ‘God Hates Us All’ a ‘Diabolus in Musica’, yn debygol o ganlyn mewn perthnasau annymunol gyda’r rhai wyt ti’n byw gyda nhw.

Mae byw gydag o leiaf un ‘ffrc glanhau’ yn fuddiol. Os wyt ti’n cael tŷ lle mae un neu fwy o denantiaid ‘wedi’i chadarnhau’ ar yr adeg rwyt yn mynd i edrych ar y tŷ, bydda’n barod am y posibilrwydd o fyw gyda - *dun dun duuuun* - myfyriwr aeddfed. Mae si fod y fodolaeth brin yma angen heddwch, distawrwydd a chwsg cyn hanner nos. Os wyt ti’n diweddu i fod yn byw gyda’r fath berson, bydda’n neis a cyrhaeddwch cyd-barchu gyda’ch gilydd. Paid thybio eu bod yn ‘ffigwr rhiant’ neu byddet yn siŵr o deimlo’n gyfyngedig yn beth wyt ti’n ei wneud yn dy dŷ dy hun.

Comiwnyddiaeth = Frosties am Ddim

Dysga rannu. I dy gartref fod yn llwyddiant, mae eitemau penodol yn gorfod bod yn gymunedol, neu bydd gwrthdaro yn sicr o ddigwydd. Dylai te a phapur toiled fod yn hygyrch i bob un, a phawb yn cymryd eu tro i’w prynu. Helpa’r rhai rwyt yn cyd-fyw gyda nhw: rhanna’ saws coch, stopia brynu llaeth dy hun a gwerthfawroga  nad oes gwahaniaeth rhwng cap glas a chap gwyrdd; a phaid ffrwydro os ydy rhywun yn bwyta bowlen o dy Frosties. Yn ogystal sicrhau taith ddiogel i’r Nefoedd, bydd yr agwedd yma yn dy helpu di un dydd pan fyddi di’n fyr o arian neu’n llewygu eisiau bisged.

Wrth Symud i Mewn

Cymera luniau (neu, yn ddelfrydol, ffilm) o’r tŷ cyfan ar y diwrnod rwyt yn symud i mewn, gyda ffocws penodol ar unrhyw beth llai na pherffaith am yr eiddo. Os wyt ti’n gallu profi fod y tolc yn y wal yno pan oeddet ti’n symud i mewn, yna rwyt ti’n saff os ydy’r landlord yn dy gyhuddo o’i greu. Os nad fedri di brofi’r peth, gallet golli dy fond. Gwna’n siŵr dy fod yn tynnu lluniau/ffilmio copi o bapur newydd y dydd i brofi’r dyddiad, gan fod y dyddiad ar gameru yn gallu cael eu newid yn hawdd a byddai ddim yn brawf mewn llys.
Gwna’n siŵr fod y dodrefn i gyd yno a ddim wedi torri. Edrycha i weld os yw’n lan gan nad yw’n debygol o fod yn newydd. Mae’n fuddiol i ti glirio beth bynnag sydd i lawr gefn y soffa ac o dan y gwely.
Os nad wyt ti’n cynllunio prynu trwydded teledu, gwna’n siŵr nad oes teledu yn y tŷ, neu o leiaf cael gwared ar yr erial. Efallai bod dweud “Dwi byth yn gwylio’r teledu; ar gyfer DVDs mae o” ddim yn ddigon os ydy’r bobl trwydded teledu yn curo ar dy ddrws.
Pryna detector carbon monocsid, gan fod llawer o eiddo ddim yn dod gydag un (a hyd yn oed os oes un yna ni all gael gormod). Un sy’n gwneud sŵn UCHEL. Gallai achub dy fywyd.
Torra gopi o dy allwedd. Byddi di’n siŵr o ddifaru os nad wyt ti.

Darllena’r Print Mn

Efallai bod dod allan o’r gawod i weld grŵp o ddieithrion yn syllu ar dy gorff yn gyffrous i rai, ond mae’n well gan nifer o bobl i gael rhybudd o flaen llaw cyn i denantiaid potensial gael eu dangos o amgylch y tŷ. Ydy dy gytundeb tenantiaeth yn dweud fod rhaid iddynt roi rhybudd i ti? Os ydy’r cytundeb yn dweud hyn ac maen nhw’n penderfynu anwybyddu hyn, maen nhw’n dirymu eu cytundeb eu hun a gall gwyno am hyn.

Edrycha ar fanylion mn dy yswiriant (mae gen ti yswiriant, oes?). Ydy dy stwff dan yswiriant tra ti adref am y Nadolig? Ydy rhywun arall yn gadael y drws ffrynt heb ei gloi, fyddai hyn yn dirymu dy gais yswiriant?

Gofynna am gopi o’r rhestr eiddo os nad wyt ti wedi cael un. Edrycha os ydy popeth ar y rhestr yn y tŷ a gad i’r landlord/asiant yn syth os nad ydyw. Mae diffyg gwneud fyn yn gallu canlyn ynddo ti’n cael dy gyhuddo o ddwyn pan rwyt ti’n symud allan, ac eto bydd perygl o golli dy fond.

Mynna gopi o’r tystysgrifau diogelwch nwy a thrydan, a sicrhau eu bod yn ddiweddar.

Ac yn olaf:

RHYBUDD: Gofalwch ‘Y Pitsiwr’

Yn fwy drwg na Noel Fielding gyda cholur gwyrdd a pholo ar ei lygaid, ‘Y Pitsiwr’ ydy’r bwystfil sydd yn ysglyfaeth ar arian y rhai ail flwyddyn ddiniwed. Mae’n bodoli mewn nifer ffurf, ond mae ei ymosodiad yr un peth bob tro. Dysga adnabod yr arwyddion arwyddocaol o ymosodiad Y Pitsiwr cyn iddi fod yn rhyw hwyr:

Pitsiwr: *Yn chwifio darn o blastig amrywiol efo rhyw lun arno o dan dy drwyn*     
“Sori i boeni chi, ond mae yna broblem gyda’ch nwy/trydan/pecyn teledu/crefydd (dileu lle’n briodol). Gai’i ofyn pwy ydy’ch cyflawnwr egni/darparwr sianeli/Duw?”

Ti: *Yn sicr fod hwn yn rhywbeth wirioneddol bwysig* “Ym Dwi’n meddwl mai Swalec/Npower/Sky Plus/Iesu Grist ydyw.”

Pitsiwr: “A wel,  da chi’n gweld-“ *Gorfodi ei hun i mewn i dy dŷ* “Gai’i ddod i mewn? Diolch. Fel y gweli di o’r siartiau hyn dwi’n symud yn rhy sydyn i ti fedru eu darllen, mae dy gyflenwr presennol/Duw yn amlwg y dewis anghywir. Os wyt ti’n aros gyda nhw ti’n sicr o golli allan ar y cynnig gwych yma/colli £10,000m y flwyddyn/llosgi am byth yn ddyfnion uffern. Ond paid poeni mae gobaith! Arwydda yma, rho dy fanylion banc i mi dyna ni, a nawr ti wedi dy achub! Dydd da i chi!”

Ti: “Be ddiawl sydd newydd ddigwydd?? A pam mod i wedi rhoi manylion banc i ddieithryn?”

Bydd gwerthwyr, ta waeth  beth maent yn pitsio, yn ceisio cymryd mantais o bobl yn byw mewn tŷ am y tro cyntaf. Os wyt ti’n synhwyro fod UNRHYW drafodaeth ti’n cael ar dy ddrws yn mynd yn y cyfeiriad hwn, CAU’R DRWS YN GLEP YN SYTH. Dyma’r unig beth i wneud. Nid oes dim arall yn gweithio, yn enwedig ceisio rhesymu efo neu ddeall nhw. Bydda’n wyliadwrus o hyd, a bydda’n barod iddo ymweld yn aml mewn amryw ddieithrwch.

Linciau perthnasol:

Tenantiaid Yn Erbyn Asiantaethau Gosod: Rhybudd

Gwybodaeth >> Tai


Delwedd: guardian.co.uk

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.