Cael Mewn I'r Diwydiant Cerddoriaeth
English version
Wedi bod eisiau gyrfa mewn cerddoriaeth ond ddim yn sicr os mai canu oedd y peth gorau i ti neu fod dy sgiliau gitr ddim digon da?
Wel mae cannoedd o swyddi yn y diwydiant cerddoriaeth heblaw am gael i fyny ar y llwyfan.
Meddylia am ffrog cig Lady Gaga, Mae rhywun wedi dylunio'r ffrog yna. Cwpl o bobl mae'n debyg. Rhywun, yn debyg rhyw gynorthwyydd personol, wedi gorfod cael y cig ar gyfer y ffrog. Mae rhywun wedi torri buwch i fyny i'w gael (dwi'n gobeithio mai cigydd ac nid rhywun o'r diwydiant cerddoriaeth. Roedd rhywun arall yn gorfod darganfod oergell fel nad oedd yn drewi gormod cyn y seremoni. Roedd llawer o ffotograffwyr wedi tynnu lluniau o Lady Gaga yn ei ffrog cig eidion a mwy o bobl yn ymglymedig mewn lledaenu’r ddelwedd eiconig o Lady Gaga yn ei gwisg cig o gwmpas y byd. Mae'n debyg fod cwpl o swyddogion Cysylltiadau Cyhoeddus o'i chwmni recordiau wedi gorfod tawelu grwpiau llysieuwyr yn ogystal ag esbonio'r peth i ohebwyr cerddoriaeth ddryslyd.
Beth dwi'n ceisio'i ddweud ydy fod llawer o bobl yn y cefndir yn gwneud i bethau ddigwydd yn y diwydiant cerddoriaeth. Pam fy mod yn dweud hyn wrthyt? Wel, gad i mi gyflwyni icould. Maen nhw'n gweithio gyda Blackberry i gynnig awgrymiadau, hyfforddiant, cyngor a, i rai lwcus, cyfleoedd i gychwyn ti yn y diwydiant.
Ar hyn o bryd ar y wefan mae ganddynt y cyfle i gyd-deithio gyda'r ffotograffwyr cerddoriaeth Amit a Naroop (ffefrynnau Tinie Tempah, Jay Sean a Tinchy Stryder) ar eu sesiwn selebs nesaf. Ar y wefan hefyd mae yna gyfle i gael Blackberry newydd ac yn fuan bydd cyfle i fynd tu l i lenni'r clwb nos boblogaidd yn Ibiza, Amnesia. Bydd mwy o gyfleoedd yn mynd yn fyw dros yr haf.
Felly edrycha ar icould i weld y cyfweliadau, adroddiadau a fideos gan bob math o bobl sydd yn rhan o'r diwydiant cerddoriaeth, gan gynnwys coreograffydd Jessie J, llywydd label Coldplay a chyhoeddwr Tinie Tempah a darganfod rhywbeth sydd yn gweddu ti.
Newyddion Categorau Cerddoriaeth
Gwybodaeth Cyflogaeth a Hyfforddiant Fy Mreuddwyd