Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Bywyd Ar Draffordd Y Glas

Posted by archifCLICarchive from National - Published on 02/11/2011 at 13:53
0 comments » - Tagged as Culture, Education, People, Work & Training

  • fast

English version

Mae glasfyfyriwr yn derm sydd yn disgrifio rhywun sydd yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf mewn prifysgol neu goleg.

Dyw bod yn glasfyfyriwr ddim i gyd i'w wneud gyda nosweithiau allan, ddim mynd i ddarlithoedd a gwario dy fenthyciad myfyriwr i gyd yn syth, i ddweud y gwir mae dy flwyddyn fel glasfyfyriwr yn gallu bod yn un ai da neu ddrwg, ond yn bennaf mae'n beth wyt ti yn ei wneud ohono!

I rai pobl bydd hon y profiad mwyaf gwych o'u bywydau, yr holl ryddid ar unwaith, y benthyciad myfyriwr gwych, cyfarfod llawer o bobl newydd, byw ar ben dy hun, mae popeth yn symud yn sydyn ac yn gallu bod yn llawer o hwyl. Ond i eraill gallai fod yn hunllef. Gallet ti ddod yn hiraethus am gartref, yn methu dy deulu a ffrindiau, yn poeni am arian, dan straen gyda dy astudiaethau, ddim yn hoffi dy gwrs; mae posibiliadau diddiwedd am sut gall pethau fynd o'u lle, ond nid yw popeth yn dywyll!

Un o'r pethau fwyaf pwysig gall fyfyriwr wneud ydy cyllido. Dyma ganllaw gwych i ymestyn benthyciad myfyriwr gyda chyngor am y cyfrifau banc myfyrwyr gorau, cardiau disgownt, cyflenwyr egni a hyd yn oed pa liniadur yw'r gorau. Gyda phumdeg o bwyntiau sydd wedi'u meddwl allan yn wych nid all mynd o'i le. Mae'n gyffrous pan ddaw'r holl arian i mewn i dy gyfrif i gyd, ond ceisia dy orau i beidio gwario'r holl arian. Dwi'n si?r fod nifer o bobl wedi bod yn euog o hynny, ond gall y rhandal nesaf o'r benthyciad fod yn bell i ffwrdd a ti ddim eisiau bod heb arian!

Mae yna bobl i yno i helpu, bod hyn yn bobl ti'n byw gyda nhw, neu bobl yn y brifysgol; y cam cyntaf ydy siarad gyda rhywun, efallai bydd yn rhoi dy ofnau mewn persbectif ac yn gwneud yn sicr dy fod yn cael popeth gallet allan o fy mywyd yn y brifysgol.

Efallai bod nifer ohonoch dipyn o flynyddoedd i ffwrdd o ddewis eich prifysgol, efallai bod eraill yn barod i adael cartref flwyddyn nesaf a dechrau eu siwrne fel glasfyfyriwr. Ble bynnag wyt ti, cofia fod popeth ti'n ei wneud yn ddewis i ti. Os nad wyt ti eisiau mynd allan i bartio bob nos, yna paid poeni os ydy pawb arall yn gwneud, gall pwysedd cyfoed fod yn beth anodd i ymdopi gydag ef, yn enwedig pan ti'n ceisio creu argraff ar ffrindiau newydd.

Mae nifer o bethau i gysidro pan ti'n cyrraedd y brifysgol am y tro cyntaf, ar l wythnos y glas a chael dros ffliw'r glas hynny yw! Y prif beth ydy i gadw ar ben dy drefniadaeth, gosod amser i'r neilltu i ysgrifennu rhestr neu gadw dyddiadur lle gallet nodi pethau i lawr am aseiniadau neu gyfarfodydd. Cymera ran mewn cymaint posib; ymuna clybiau, grwpiau a mynd i ddigwyddiadau. Dyma ble fyddi di'n cyfarfod y bobl gall helpu ti yn y dyfodol, ble byddet yn ennill llawer o brofiad ac yn cyfarfod pobl fydd efallai yn dod yn ffrindiau drwy oes.

Dwi'n si?r nad fi yw'r unig un fydd yn dweud wrthyt ti mai profiad ydy'r un peth gall fod y gwahaniaeth rhwng cael y swydd yna ti eisiau neu beidio. Ta waeth pa yrfa ti eisiau mynd iddo ar l prifysgol, gwna'n si?r dy fod di'n cael profiad, ceisia rhwydweithio gyda'r bobl iawn. Os wyt ti'n gwneud profiad gwaith bydd pobl yn cofio ti. Gall fod yn beth ofnus, ond mae pawb wedi cychwyn yn rhywle, cofia hynny. Mae digon o gyfleoedd, ond weithiau mae'n rhaid ceisio ychydig bach yn fwy caled i ddarganfod rhywbeth. Mae Go Wales yn wefan gwych wedi'i ddylunio i fyfyrwyr a phobl raddedig. Maent yn ei wneud yn bosib i fyfyrwyr a'r graddedig i ennill profiad amhrisiadwy trwy brofiad a lleoliadau gwaith.

Felly beth bynnag wyt ti eisiau allan o fywyd paid byth gadael i rywun ddweud nad alli di ei wneud. Cer allan yna, ceisia dy orau, a gwna prifysgol yn rhywbeth i gofio, yn lle un pen mawr hir!

Gwybodaeth – Addysg -  Addysg Uwch

Gwybodaeth – Addysg – Addysg l 16 – Profiad Gwaith
DELWEDD: Chequered Passed gan a shadow of my future self

Erthyglau Perthnasol:
Gwaith Budr
Sut I Oroesi'r Chweched
Dim Ond Un Mae'n Cymryd: 5pm - 9pm
Top 10 Tips For Work Experience
How To Survive Your Freshers Year

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.