Welcome to The Sprout! Please sign up or login

BYB Y Bandiau Terfynol

Posted by National Editor from National - Published on 05/09/2010 at 20:05
0 comments » - Tagged as Culture, Music, Work & Training

English version

Gydag ychydig dros wythnos i fynd nes Brwydr Y Bandiau CLIC 2010, mae’n falch gennym gyhoeddi’r pum band terfynol fydd yn cystadlu am y teitl a’r rhestr gwobrau gwych sydd yn dod gyda fo.

Bydd y frwydr yn cymryd lle ar ddydd Sadwrn 18 Medi o 11yb 2yp yn Lolfa’r Llywydd yn Stadiwm y Mileniwm.

Beirniaid y digwyddiad ydy Becci Scotcher-Jones (Oxjam), Gregory Barton (GRAB Promotions), Scott Lee-Andrews (Exit International / Midasuno) a Darran Smith (Funeral For A Friend).

Mae bandiau llawes ar gyfer y digwyddiad am ddim, ac yn gallu cael eu cadw drwy e-bostio ryan@cliconline.co.uk. Mae’n rhaid casglu nhw yn y stadiwm erbyn 10:30yb ar y dydd.

Bydd y band llwyddiannus yn cael ei gyhoeddi am 2:15yp, yna fe fyddem yn chwarae ar y prif lwyfan i lawr ar lawr y stadiwm o 3:30-4yp i gloi Sgiliau Cymru, y digwyddiad gyrfa tri diwrnod sydd yn digwydd yno.

Edrycha ar y fideo yma o enillwyr BYB CLIC llynedd yn Institiwt Glyn Ebwy.

Felly, ymlaen at y bandiau terfynol

The Calling Card
www.MySpace.com/wearethecallingcard
Aelodau: Benj (24), Scott (22), Simon (23), Kyle (21), Lewys (21)
Offerynnau: Llais, 2 x gitr, bas, drymiau, sampler
Eich Sŵn: Rydym yn cael ein dylanwadu gan nifer o fandiau fel Kids In Glass Houses, Biffy Clyro a Glassjaw.

The Hostages
www.myspace.com/killthehostages
Aelodau: Tom (21), Jimi (21), Matt (20), Dean (20)
Offerynnau: 2 x gitr, bas, drymiau, 3 x llais
Eich Sŵn: Roc indi yn cael ei yrru gan gitrs gyda churiad trwm, geiriau yn drwm gyda hanesion ffrindiau, perthnasau ac ‘au’s’ da eraill. Ynghyd ag ysbrydoliaeth gan Kasabian, rydym ni The Hostages bron efo swn yr Arctic Monkeys, ond heb yr acen.

Indie Go-modem
www.MySpace.com/indieg0modem
Aelodau: Dan (17, llais), Carwyn (16, llais, gitr), Rhys (17, prif gitr), Cai (16, drymiau, llais cefndir), Huw (17, allweddellau, llais cefndir), Lewys Mann (16, Bas)
Eich Sŵn: Cymysgedd o pop, indi a roc gydag ysbrydoliaeth gan artistiaid fel The Killers, Stereophonics a the Kooks.

Riot City Saints
www.MySpace.com/riotcitysaints
Aelodau: Jon (21), Tom (22), Richard (22), Scott (22), Ryan (18)
Offerynnau: llais, drymiau, prif gitr, gitr bas, gitr rhythm
Eich Sŵn: Roc caled / blues / deheuol

Solace Awaits
www.MySpace.com/solaceawaits
Aelodau: Bee (17, llais), Matt (18, llais), Andrew (17, gitr), Luke (16, bas), Dan (16 gitrs), Lewis (16, drymiau)
Eich Sŵn: RHYWBETH GWAHANOL. Ia, dyna chi. A ‘da ni wedi ddweud o mewn llythrennau bras! ‘Da ni yn chwech ffrind oedd eisiau gwneud rhwybeth gwahanol yn y sn cerddoriaeth. Rhywbeth gwahanol i’r sgrechian / pync pop / ‘wannabes’ Enter Shikari yma! Mae steil ni yn dod o nifer o wahanol fandiau poblogaidd sydd yn ysbrydoli ni, i gyd wedi ffiwsio gyda’i gilydd. Mae hyn yn rhoi beth rydym ni yn ei feddwl sy’n swn anhebyg i unrhyw fand arall o gwmpas. Ein ‘genres’ ydy roc / amgen / metal. Gobeithio byddwch yn mwynhau!

Am wybodaeth pellach galwa 07515 566518 neu e-bostia ryan@cliconline.co.uk

Gobeithio gweld ti i lawr yn y blaen!

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.