BYB Pen-y-bont Wedi'i Ganslo
Gig Pen-y-bont ar Ogwr Heno Wedi'i Ganslo
Yn anffodus, o ganlyn dau fand yn gollwng allan (oherwydd salwch a phroblemau trafnidiaeth) a trydydd band wedi gwahanu, rydym wedi cael ein gorfodi i ganslo rownd Pen-y-bont ar Ogwr heno ar gyfer ein cystadleuaeth Brwydr Y Bandiau.
Mae'r bandiau (heblaw am yr un sydd wedi gwahanu) yn parhau i gael eu barnu ar gyfer y rownd derfynol gan feirniaid Funeral For A Friend a Merthyr Rock, ond byddent yn gwrando ar mp3 o'r bandiau yn hytrach na gig byw fel byddent wedi hoffi.
Rydym yn ymddiheuro am hyn, ond eisiau sicrhau i ti fod yr holl amser ac ymdrech byddai wedi cael ei roi i gig heno bellach yn mynd tuag at wneud Rownd Derfynol Brwydr Y Bandiau dydd Iau yn brofiad hyd yn oed mwy epig, a gobeithio gwelwn ni chi gyd yno.