BYB CLIC: Y Ffeinal
English version
Dydd Sadwrn bu pum band terfynol Brwydr Y Bandiau CLIC yn cystadlu o flaen cynulleidfa fach ond cynhyrfus i gael eu coroni fel yr enillwyr a derbyn gwobr anhygoel: amser recordio mewn stiwdio, saethu fideo a sesiwn tynnu lluniau proffesiynol, mp3 o’u cn yn cael ei gynhyrchu a’i ddosbarthu i nifer o gyflenwyr gan gynnwys iTunes, ymysg pethau eraill.
Fe ddigwyddodd y gig yn Lolfa’r Llywydd yn Stadiwm y Mileniwm, fel arfer yn fan gweddus a boneddigaidd mae’n debyg, ond heddiw wedi’i drawsffurfio i fr o gapiau pl fas, crysau siec a charwyr cerddoriaeth dda.
Wrth gysidro safon y gwobrau roedd yr awyrgylch yn drydanol wrth i’r siec sain fynd yn ei flaen, ac yna wrth i’r bandiau gychwyn, pob un efo ugain munud i wneud argraff ar y gynulleidfa a’r beirniaid: Becci Scotcher-Jones o Oxjam, Gregory Barton o GRAB Promotions, Scott Lee-Andrews o Exit International / Midasuno a Darran Smith o’r band Funeral For A Friend.
Dangosodd pob band pam eu bod wedi cael eu pleidleisio i’r pump terfynol: roedd pob un yn gerddorion da iawn, bob canwr efo talent, ac roedd y caneuon i gyd yn dangos gallu ysgrifennu caneuon trawiadol. Dyma doriad byr o’r bandiau terfynol:
Indie-Go Modem: Y grŵp o chwech yma oedd efo’r dasg o fynd yn gyntaf, a chreu argraff gyda’u hamrywiaeth eang o ganeuon. Un araf, un yn swnio’n roc ‘clasurol’, ac i gyd yn eithaf gweddus. Roedd Indie-Go Modem efo riff allweddellau cŵl hefyd yn rhedeg trwy’r rhan fwyaf o’u caneuon. Yn ogystal a chaneuon eu hunain cawsom y fraint o glywed fersiwn acwstig o Kids gan MGMT, oedd yn boblogaidd iawn.
Solace Awaits: Grŵp o chwech arall, llwyddodd Solace Awaits, sy’n baetio iechyd-a-diogelwch, roi ychydig o egni i bethau. Yn amlwg roeddent yn berfformwyr medrus wedi ymlacio, roeddent yn llythrennol yn cael y gynulleidfa’n rhan o bethau, wrth i’r gitarydd rocio yn agos a’r canwr gerdded o gwmpas yr ystafell. Mae’r canwyr benywaidd a gwrywaidd Bee a Matti yn gwneud eu caneuon yn wirioneddol nodedig, ac roedd riffs gitr stompiog y band yn ffantastig. Fe wnes i fwynhau’r teimlad ychydig yn gothig hefyd (dim bod y band wedi gwisgo mewn du ac yn crio), yn ogystal ’r cyflwyniad atmosfferig wedi’i recordio oedd yn arwain i mewn i un o fy nghaneuon gorau o’r dydd.
Riot City Saints: Dim ond pump o fechgyn oedd yn y band hwn, ond roeddent yn gwneud mwy o sŵn na’r ddau fand cyntaf efo'i gilydd! Roeddent yn wirioneddol yn edrych ac yn chwarae’r rhan grŵp roc caled Americanaidd roedd y canwr Jon yn dwys, ac roedd eu drymiwr Tomm yn dduw roc gwirioneddol mawr, locsyn, tatŵs, fest (a drymio gwallgof o dda). Anhygoel.
The Calling Card: Roedd y band yma yn cynnwys y canwyr a’r gitarydd yn unig, gan fod ei drymiwr wedi bwcio ei wyliau gan gredu na fyddai’r band yn cyrraedd y rownd derfynol! Dyna hyder i chi. Er hyn llwyddom i berfformio set acwstig brydferth, oedd yn gwneud i’r bandiau eraill swaeo gyda’r gynulleidfa, gwledd berffaith yn dilyn roc cyffrous y band cynt. Diolch i natur acwstig eu set roedd eu sgiliau ysgrifennu caneuon yn amlwg, ac yn galluogi’r gynulleidfa ymuno gyda’r geiriau.
The Hostages: (Yn y llun) Chwaraeodd y band terfynol i dorf flinedig, ond ni fyddet yn credu hynny. Roedd y canwr a’r gitarydd TJ yn dangos lefelau egni llynol iawn, ac o fewn eiliadau roedd y dorf yn bowndio. Ni fu terfyn ar y lefel hyn, wrth iddynt roi un cn hwyl ar l y llall, gyda riffs a chytgan gafaelgar anweddus, cerddorion tynn iawn, roedd eu mwynhad yn amlwg ac yn cael effaith ar y dorf.
Cafodd y beirniaid ddeg munud o bwysau trwm i wneud penderfyniad (yn cael ei wneud yn fwy dwys gan fod dau gamera yn ffilmio’r cwbl), ac yn y diwedd penderfynom ar The Hostages fel enillwyr y gystadleuaeth, a dwi’n meddwl mai hwn oedd y penderfyniad cywir hefyd.
I fod yn onest roeddwn yn meddwl mai Solace Awaits oedd wedi’i dwyn hi, nes i The Hostages berfformio, yna roedd y gm yn agored. Yn y pen y band olaf oedd yn dod i’r amlwg mewn termau o gael ychydig mwy o broffesiynoliaeth, ond fe fyddaf yn dilyn y ddau gyda diddordeb ac yn mwynhau eu caneuon eto, fel y gall ar eu proffiliau MySpace.
Mae hyn yn wir am y bandiau i gyd, dwi’n annog ti i edrych.
Cydnabyddiaeth i Ryan, Lo a phawb arall oedd yn cymryd rhan am y trefnu serol, ac i’r bandiau am roi sioe gofiadwy ymlaen.
DELWEDDAU: Lo Price & Vicky Roach