Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Bwlio: Edrycha Arno O’u Hochr Nhw

Posted by archifCLICarchive from National - Published on 01/11/2010 at 21:17
0 comments » - Tagged as People

  • bwlio

English version

Pan mae pobl yn bwlio ti, beth wyt ti’n gwneud i ymladd yn l? Gweiddi? Dweud wrth rywun?

Dydy rhai pobl ddim efo rhieni fel ni. Dydy bwlod ddim bob tro efo rhywun i siarad efo, felly maent yn cadw popeth i mewn ac yn pigo ar eraill. Felly edrycha arno o safbwynt nhw maen nhw angen ffrind da i siarad gyda nhw ac i ddweud beth sydd yn eu poeni ac i gael help iddynt.

Fel fi, pan dwi’n gwylltio gormod dwi’n torri pethau. Os dydy ei rhieni nhw ddim yn gallu helpu nhw i stopio gwylltio dychmyga sut beth allai fod. Os dwi ddim yn fwli a dwi’n torri pethau, dychmyga beth gall nhw wneud efo ychydig o ddig. Felly ceisia weld pethau o safbwynt nhw.

Pan maen nhw’n edrych ar dy esgidiau ac yn dweud eu bod nhw’n hyll, efallai beth roeddent yn feddwl dweud oedd ‘o ble gefais di nhw?’ Efallai bod nhw’n dweud rhywbeth cas am eu bod eisiau edrych yn galed o flaen eu ffrindiau. Ond cofio fod rhai ohonynt ddim yn gallu siarad efo’i rhieni neu yn genfigennus.

Os wyt ti’n cael dy fwlio neu hyd yn oed os wyt ti’n bwlio rhywun dy hun mae yna lawer o sefydliadau allan yna i helpu. Edrycha ar dudalennau gwybodaeth theSprout yma.

Is hoffet siarad gyda rhywun, gall siarad Meic neu gysylltu gyda Caerdydd Yn Erbyn Bwlio.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.