Brwydr Y Bandiau 2010
Ym mis Tachwedd llynedd, cynhaliwyd Brwydr Y Bandiau (BYB) CLIC cyntaf yn Institiwt Glyn Ebwy. Ar nos Wener oer a gwlyb gwelwyd pum grŵp yn y rownd derfynol yn chwarae setiau gwych o flaen torf o bobl ifanc llawn egni wrth eu boddau cherddoriaeth.
Dim ond un band oedd yn gallu bod yn fuddugol, a phedwar bachgen o Benarth oedd yn cael eu hadnabod fel Code One aeth a’r pecyn buddugol o wythnos o amser stiwdio yn gweithio gyda chynhyrchydd record lwyddiannus Paul Durrant, yn ogystal sesiwn tynnu lluniau proffesiynol, gwefan eu hunain wedi’i phersonoli iddynt a rhediad o CD’s demo.
Mewn steil roc a rl go iawn, gwahanwyd Code One ychydig wedyn, sydd yn golygu fod perchnogaeth y goron CLIC, i rai o fandiau neu artistiaid heb ei arwyddo gorau Cymru, ar agor.
Rydym yn falch o gyhoeddi felly fod BYB CLIC 2010 yn cymryd lle yn Stadiwm y Mileniwm ar ddydd Sadwrn 18 Medi fel rhan o ddigwyddiad sgiliau a gyrfa fwyaf Cymru gan Sgiliau Cymru. Bydd disgwyl 20,000 o bobl ifanc yno dros y tri diwrnod, sydd yn golygu bydd cyfran dda ohonynt yno am BYB ar y dydd Sadwrn.
Bydd y 5 grŵp terfynol yn cymryd y llwyfan yn y Presidents Lounge ac yn cael eu beirniadu gan banel o arbenigwyr y diwydiant. Bydd yr enillwyr wedyn yn chwarae set 20 munud ar y prif lwyfan lawr ar gae’r stadiwm o flaen y rhai sydd yn mynychu’r digwyddiad. Yn ogystal ’r teitl o Bencampwyr BYB CLIC, bydd y band buddugol yn ennill rhestr o wobrwyon sydd yn tyfu wrth i’r dyddiad ddod yn agosach, gan gynnwys:
- Wythnos o amser stiwdio gyda chynhyrchydd sefydledig
- Recordio a thorri demo ar ffurf CD a MP3.
- Dosbarthiad digidol i 100+ o allfeydd yn fyd-eang (gan gynnwys iTunes), drwy garedigrwydd EmuBands
- Saethu fideo cerddoriaeth proffesiynol gyda Seraphim Pictures
- Sesiwn tynnu lluniau proffesiynol gyda ALX MLS Photographic
- Gwefan proffesiynol gan Burning Red studio
- Slotiau gig mewn digwyddiadau Cymru-eang CLIC yn ystod y flwyddyn.
- Datganiad i’r wag i fynd allan gyda’r demo
- Proffil artist gyda lluniau yn y CLICzine sydd yn cael ei ddosbarthu i bob ysgol, coleg, prifysgol a darpariaeth ieuenctid yng Nghymru
Mae cofrestru yn hawdd. Rhaid gyrru e-bost gyda linc i dy/eich tudalen MySpace i botb@cliconline.co.uk ac fe wnawn ni’r gweddill. Mae’r dyddiad cau i gofrestru ar ddydd Gwener 30 Gorffennaf. Cofia gynnwys cyfeiriad e-bost i ni ymateb os nad yw’r un peth a’r un rwyt ti’n gyrru dy linc MySpace arno. Bydd pleidleisio yn cymryd lle ar-lein o ddydd Llun 2 i ddydd Mawrth 21 Awst. Bydd y rhai buddugol yn derbyn costau teithio.
DELWEDD U2: Chelsea Steve