Beic Neu Bws?
Sut ydych chi'n teithio o amgylch y lle?
Hoffai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gwybod eich meddyliau ar gerdded a beicio.
Os ydych yn rhywun sy'n cerdded a/neu yn beicio yn rheolaidd, hoffent wybod ynglÅ·n ag unrhyw anawsterau yr ydych yn wynebu - ac os nad ydych yn rhywun sy'n teithio yn y modd hwn, maen nhw am wybod pam.
Y rheswm am hyn yw oherwydd y cynigiodd Llywodraeth Cymru cyfraith newydd, ac maent angen eich adborth chi un ai i'w cefnogi neu beidio.
Byddai'r Bil Teithio Llesol (Cymru) yn ei gwneud yn orfodol i gynghorau lleol wella cyfleusterau a llwybrau ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Bydd angen iddynt hefyd baratoi mapiau sy'n nodi llwybrau cyfredol a'r llwybrau yn y dyfodol, a'u hyrwyddo nhw i'r cyhoedd.
Byddai hefyd yn rhaid ystyried anghenion cerddwyr a beicwyr wrth adeiladu ffyrdd newydd, neu wrth wella rhai cyfredol. Bydd hefyd angen cynllun i hyrwyddo cerdded a beicio.
Os hoffech helpu penderfynu ar gyfraith newydd i Gymru, cymerwch funud i gwblhau'r holiadur ar-lein. Bydd eich atebion a'ch cwestiynau yn cael eu darllen gyda'r Cynulliad Cenedlaethol ac mi fyddant yn helpu dylanwadu un ai y bydd y bil hwn yn cael ei chytuno neu beidio.
LLUN: Sam Javanrouh