Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Barddoni A Chyllyll Poced

Posted by Pasternak from Vale Of Glamorgan - Published on 10/11/2010 at 09:54
0 comments » - Tagged as Creative Writing, Health, People

  • knife

English version

“Mae’n rhaid ei bod hi’n llafurus cael dy feddwl di.”
- Yr unig berson erioed i ddisgrifio fi yn gywir.

Pan ddarganfuwyd cariad Elliot Smith ef yn sefyll yn eu tŷ gyda chyllell cegin yn ei frest, yn gwneud dim ymgais i achub ei hun ac yn gadael dim esboniad dim ond nodyn Post-It yn erfyn ar Dduw i faddau iddo, roedd pobl yn sydyn o’i chyhuddo o’i lofruddio.

Roedd y ddau wedi cael ffrae, roedd hi wedi gadael yr ystafell, roedd o wedi ymrwymo mewn hara-kiri nid oedd hyn yn ymweld fel esboniad tebygol nag rhesymol am blymio cyllell i dy frest. Ddwywaith. Roedd cynhyrchwr recordiau wedi ‘cadarnhau’r’ drwgdybiaeth hyn drwy ddweud fod Smith wedi cysylltu gydag ef dim ond wythnos ynghynt, yn gofyn iddo gymysgu ei albwm newydd. Roedd yn ymddangos yn afresymegol (na, anghredadwy) fod rhywun oedd yn gwneud planiau oedd efo dyheadau, bwriad a rheswm da i fyw yn gallu lladd ei hun.

Dyma sut mae’r rhan fwyaf o bobl yn gweld tristwch: maen nhw’n ei resymoli, a drwy wneud hyn yn dangos eu bod yn estron iddo. Maen nhw’n edrych ar hunan laddiad fel ei fod yn rhyw ddigwyddiad sydd wedi rhoi mewn pensel i fyny ar y wal wrth ochr y cyfarfod PTA nesaf tynged sydd yn cael ei gadw yn llwyr ar gyfer methdalwyr, wedi ysgaru ac yn gaeth i gyffuriau. Ni fedra deall y syniad y byddai person gyda bywyd perffaith hapus yn gallu, ar unrhyw funud, ollwng popeth a chau eu llygaid am byth. Fe fyddent bob tro yn chwilio am ystyr a byth ar deimladau; byth yn derbyn efallai fod y marw wedi actio ar gymhelliad, neu wedi blino.

Maen nhw'n meddwl am beth roedd y bobl yma yn teimlo, ond ddim yn ei deimlo. Ydy: maen nhw’n gwybod am dorcalon, achwyniad, siomedigaeth a cholled mae pawb yn ond dyw’r bobl sydd yn gofyn y cwestiynau hyn ddim wedi dawnsio gydag iselder; ddim wedi cael eu dinistrio a’u creithio ganddo ac wedi dod allan ar yr ochr arall calon yn curo’n drwm a llygaid yn lletach nag erioed o’r blaen. Ddim hyd yn oed yn gyfarwydd gyda’r cysyniad. Dydy’r rhan fwyaf ddim.

Dydy’r rhan fwyaf ddim yn gwybod sut beth ydyw bod mewn rheolaeth o dy fywyd un munud, yn ymdopi'r gorau gallet drwy ba bynnag ffordd bosib (sigarts, geiriau, pobl, pilsen) ac yna, yn aml am ddim rheswm mwy nag sylwad coll, syniad neu deimlad diflanedig, yn teimlo’r cydbwysedd emosiynol y tu fewn i ti yn troi; yr acsis o dy feddwl, ac yn sydyn ti’n gweld dy hun yn syllu i mewn i ddim ond dy wallgofrwydd dy hun. I wybod sut beth ydyw i gael dau ochr o dy feddwl, yn gwrthryfela ac yn y diwedd yn rhoi i mewn i’r un anghywir. Byddai’n rhaid i ti fod yn wallgof i ddeall y peth.

*

Dwi’n cael fy ngorlethu. Dwi’n chwarae ar fy mharanoia a ddim yn gallu anghofio unrhyw beth negyddol. Bu i mi sefyll ar droed dynes pan roeddwn yn cerdded o gwmpas Techniquest a dwi dal i deimlo’n euog am y peth. Roeddwn yn wyth oed pan ddigwyddodd hyn. Fe grafais law fy modryb pan geisiodd gusanu fi fel plentyn fe ymddiheurais yn syth, ond dwi dal i golli cwsg am y peth. Os nad ydy pobl yn ymateb i fy e-byst neu’n ymddangos i fod yn osgoi fi dwi’n meddwl os ydw i wedi gwneud rhywbeth i bechu nhw. Dwi’n darllen i mewn i bopeth yn rhy ddwfn: yn pwyso’r potensial resymau yn fy mhen nes bydd fy nrwgdybiaeth yn dod yn sicrwydd ac yna rwyf yn llidio nhw'r un ffordd dwi wedi argyhoeddi i fi fy hun y maen nhw’n casu fi. Dyma ganlyniad cael dau feddwl. Dau (deu) eithaf (pegwn).

Sut y daeth i hyn?

*

Fel plentyn roedd fy nhrwyn i yn rhywle na ddylai fod yn gyson. Dwi’n cofio unwaith chwilota drwy silffoedd fy rhieni ac yn dod ar draws ffolder o ryw grŵp hunangymorth roedd mam wedi bod yn rhan ohono. Ynddo roedd arolwg personol ac roedd y rhan fwyaf ohono yn eithaf anniddorol i  mi, ond roedd un llinell yn hudol dros ben:

Enwch un gl rydych yn teimlo eich bod wedi llwyddo yn well eleni nag llynedd.

Oddi tanodd roedd un gair:

Hapusrwydd.

Roedd wedi cael ei ddyddio'r flwyddyn honno. Pam fyddai mam fi, dynes sydd yn ymweld yn analluog o unrhyw beth ond hapusrwydd, wedi ysgrifennu hyn? Roeddwn i wedi gweld hi bob dydd o fy mywyd a doedd hi ddim wedi gwenu dim llai llynedd nag yr oedd hi'r flwyddyn hon. Yn sicr, nid dyma oedd yr arwydd diffiniol o hapusrwydd? Ond roedd wedi rhoi mwy na sioc i mi: roeddwn i wedi cymryd yn ganiataol fod pawb yn hapus. Yn amlwg roedd adegau pan roedd pobl yn gwylltio neu wedi cynhyrfu, ond ar y cyfan, hapus oedd yr emosiwn rhagosod, nage? Sut gallai rhywbeth mor reddfol a chyson o bosib fod yn ‘gl’? Ni soniais erioed fy mod wedi darganfod yr arolwg, ond arhosodd y cwestiynau hyn gyda fi trwy fy mhlentyndod. Roeddent yn gwneud i mi amau pethau roeddwn i wedi cymryd yn ganiataol o’r blaen: y rhagdybiaeth fod pawb yn gynhenid hapus, fod gwen a sgwrs galonnog yn mynegi hyn, ac i fod yn hapus ydy i fod yn ‘iawn’; i fod yn normal.

Wrth i mi dyfu, roeddwn yn arsylwi emosiwn: roeddwn yn sylwi mwy ac yn cwestiynu mwy, a tra mai atebion oedd yn addas i blentyn oeddwn i’n eu cael, roeddent dal yn helpu i fynd a’m hamheuon ymhellach. Ein doctor yn ymddeol yn annisgwyl pam? Roedd ei hapusrwydd wedi rhedeg allan. Y cymydog yn gwneud ei hun farw pam? Roedd o’n drist iawn, drwy’r adeg. Erbyn fy arddegau fy marn ar hapusrwydd oedd mai rhywbeth oedd yn digwydd oedd o yn syml emosiwn; safbwynt; cyflwr meddwl sydd yn bodoli rhywle rhwng ymwybyddiaeth, gobaith ffug ac awydd boddhaol, hudol, ond ddim yn gywir na’n anghywir. Sylwais fod pobl yn ffugio ef yn aml, fel eu bod yn credu (fel yr oeddwn i) fod bod yn hapus yn gyffredin; yn rhan orfodol o fodolaeth a os nad wyt ti’n ffraeo neu’n gofidio mae’n arwydd o wendid i gael dy weld y  teimlo fel arall. Doedd y ffaith fod mam yn gwenu ac yn llenwi’r tŷ gyda chn wrth iddo olchi’r llestri ddim yn golygu ei bod yn ddieithr i dristwch.

Mae yna ormod o bethau yn fy mhen. Nid yw’n dod allan a dwi’n ffrwydro. Helpa fi.

Paid meddwl mod i yn cyhuddo’r mwyafrif o bobl o guddio beth maen nhw wirioneddol yn ei deimlo ar bwrpas. Arsylwi sut rydym wedi cael ein magu i ymddwyn fel hyn a go brin yn cwestiynu’r peth ydw i. Mae pobl efo pethau gwell i wneud nag meddwl gormod am eu hemosiynau dydd i ddydd. Dydy pobl ddim yn cael pamffled pam maent yn cael eu geni yn manylu sut beth ydyw i deimlo’n ecstatig, trist, cenfigennus, isel rydym yn gorfod gweithio’r pethau hyn allan ein hunain, ac yn aml rywun arall sydd yn sylwi cyn y ti o leiaf y tro cyntaf.

Dydy’r person sydd wedi treulio’r awr ddiwethaf gyda hen diwn yn sownd yn eu pen ac yn meddwl am eu mam-gu ymadawedig ddim yn derbyn telegram yn syth yn dweud ‘TI YN TEIMLO’N ISEL', maen nhw’n parhau gyda’u diwrnod nes i gydweithiwr ofyn a ydynt yn teimlo’n iawn yn dweud eu bod yn edrych ychydig yn isel ac mae’r person, gydag argyhoeddiad llawn, yn ateb eu bod nhw’n iawn ac yn gwneud pwynt o wenu i brofi hyn. Nid tan hwyrach y noson honno, pan maen nhw'n meddwl yn l am y dydd, maen nhw’n sylweddoli eu bod yn teimlo’n drist. Mewn cymdeithas ble mae hapus yn iach a bob stad meddwl arall yn cael eu gweld fel salwch os ydynt yn parhau am fwy nag ychydig ddyddiau, nid yw’n syndod fod pobl ddim yn ymroddi mwy o amser yn meddwl am eu teimladau.

I mi, cychwynnodd yr holl beth pan roeddwn yn bymtheg. Roedd fy meddwl yn crwydro, yn enwedig ar dasgau roeddwn yn mwynhau’n arferol: darllen ac ysgrifennu, yn arbennig. Cyn hir roedd fy mrwdfrydedd wedi diflannu i gyd: roedd darllen ffuglen yn ymddangos yn amherthnasol i fywyd go iawn, ac nid oedd gen i unrhyw awydd i ddarllen am bobl eraill. Nid oedd unrhyw bwrpas mewn ysgrifennu, yn union fel nad oedd pwrpas mewn cymdeithasu nag gorffen gwaith cartref nag gwisgo. Nid drwy’r adeg, ond yn gylchol. Roeddwn yn cael adegau pan deimlaf fy mod yn gwylio’r byd, ond ddim ynddo. Adegau eraill roeddwn i yno i gyd, ond ddim yn gallu adnabod beth oeddwn i: roeddwn yn gwybod nad oeddwn i’n hapus, ond hefyd roeddwn yn gwybod nad oeddwn i’n drist trist ydy crio, eisiau rhywbeth sydd allan o dy afael. Os rhywbeth roeddwn i’n ddideimlad: yn teimlo fel bod cysgodion wedi disgyn dros fy ngolwg, yn cuddio popeth ond fi.

Angerdd, gweithgareddau, pwrpas, pobl am ryw reswm roedd y rhain y tu allan i’m meddwl, a'r unig beth allwn feddwl am oedd fi fy hun. Ac roeddwn i yn meddwl. Yn ddwfn.

I gychwyn roedd dieithryn yn fy meddwl. Pwy bynnag yr oedd, nid oedd yn neis ac roedd yn draenio fi.

Adnabod iselder ydy’r cam cyntaf tuag at ddelio gydag ef. Dim goresgyn, gan fod y fath beth yn amhosib, ond dysgu i weld o am beth ydyw ac i fyw gyda’r peth, dim oddi tanno. Erbyn i mi sylweddoli mai iselder oedd beth oeddwn i yn ei deimlo roeddwn i wedi bod yn ddioddefwr ohono am bron i flwyddyn: yn aros tu fewn yn gwrando ar gerddoriaeth wedi ei wneud gan bobl yr un mor gymysglyd fi, wedi colli’r gallu i ganolbwyntio ar dasg benodol ac ar l hynny unrhyw bryder am fy ngraddau. Yn lle hyn byddwn yn treulio amser yn gofyn Pam? i fy meddwl. Beth oeddwn i wedi’i wneud i haeddu hyn?

Yna roedd y dieithryn yn fy meddwl. Ar adegau roeddwn yn teimlo’n ddideimlad, yn od, yn wahanol.

Roedd adnabod y teimlad hwn yn golygu gallwn wynebu’r peth o’r diwedd darganfod ffordd o fod mewn rheolaeth o fy meddwl unwaith eto. Ond pan es i adennill fy mhen roedd wedi’i feddiannu yn barod. Galwa’r peth yn beth hoffet mae ‘cythraul mewnol’ yn briodol roedd un meddwl, rhywsut, wedi dod yn ddau: roedd rhywbeth newydd, yn rhoi meddyliau iselder manig ynddo, yn y lle'r oedd fy meddwl rhesymol unwaith yn sefyll ar ben ei hun. Y ddau ohonynt nawr yn ymladd dros reolaeth eu gwesteiwr: fi.

Mae’n gas gen i swnio fel fy mod i’n rhan o ryw ffilm sci-fi cawslyd a fy mod yn drugaredd i feddwl fy hun, rhywbeth mae fy nhad yn dwrdio fi am ddweud pam dwi’n ceisio esbonio fy anallu i wneud pethau dwi’n dyheu i wneud, ond dyna’r gwir. Mae pawb yn ond mae meddyliau’r rhan fwyaf o bobl yn unochrog; maen nhw ar eu hochor nhw, ac felly nid yw’n goddef meddwl amdano. Yn yr un ffordd nad ydym yn dewis meddwl na theimlo: mae o. Dwi’n anafedig o’r rhyfel yn fy meddyliau fy hun. Ni fedraf ddioddef y syniad o rywbeth yn meddwl drosof os gallwn i fyddwn i wedi ildio i’r hanner isel o fy meddwl oes yn l. Yr ofn hwn ydy pam nad ydw i erioed wedi cymryd cyffuriau gwrth-iselder er fy mod yn sicr byddai unrhyw ddoctor, os cai’r cyfle, yn hapus i ddarnodi nhw i mi (neu orfodi nhw i lawr fy nghorn gwddw) os byddent yn ymwybodol o fy meddwl. Dwi ddim eisiau rhywbeth yn gwenu i mi.

Mae fy meddwl i yn gleddyf dau fin heb handlen. Sut bynnag yr ydwyf yn ymdrin ag ef, dwi’n cael fy mrifo.

Mae’n anodd pinbwyntio’r funud digwyddodd hyn a does dim angen chwaith ond y canlyniad oedd brwydr barhaol yn fy mhen, yn ymsuddo dros dro pan mae un ochr yn ildio i’r llall yn unig, yn gollwng gafael hanner fy meddwl arnaf. Yr ildio hiraf hyd hyn ydy naw mis yn ystod yr amser hwnnw roeddwn i bron iawn yn l i’r fi gwreiddiol, ond ychydig yn fwy gwyliadwrus a gofidus yn ymwybodol fy mod yn sefyll ar ddibyn yn disgwyl daeargryn. Mae’r ofn yn amlygu ei hun mewn ffurf twll yn y rhan cysglyd o’m meddwl, yn amsugno pob emosiwn negyddol gallai ffeindio. Dwi weithiau yn meddwl mai’r ‘rhan dywyll’ o fy meddwl sydd yn bwydo ar y negyddol, oherwydd pan mae digon ohono mae’r llawr yn ysgwyd, dwi’n disgyn i mewn ac mae’r gwrthdaro yn ailddechrau.

Mae’r gwrthdaro hyn wedi gwneud fi yn analluog i feddwl yn unrhyw beth ond byrstiau dwys. Hyd heddiw dwi’n aml methu gorffen llyfr neu ddarn o ysgrifennu dwi wedi cychwyn nes i mi gael ‘cyfnod hapus’ neu bwysau dyddiad cau agos. Mae sefyll ar fy nhraed fy hun yn y sefyllfa hon yn gwneud penderfyniadau fy hun am bryd a sut i fynd o gwmpas tasgau yn amhosib oherwydd mae’r llawr crynedig o feddwl rhanedig yn rhyfela yn gwneud ymroddi dy feddyliau ar unrhyw beth mwy na goroesiad yn dasg rhy fawr i mi gyflawni. Fel arfer dwi’n treulio’r nosweithiau yn syllu yn flanc ar sgrin, yn  rhestru’r pethau byddai’n well gen i'w wneud.

Dwi angen ffeindio dihangfa. Beth bynnag sydd yn rhaid ei wneud.

Yr unig ffordd o leddfu’r gwrthdaro yn fy mhen ydy i beidio cymryd ochor, yn hytrach i ddod yn neb o gwbl i ddatgysylltu fy hun o fy meddwl a byw mor hir phosib yn y corfforol. Yr unig ffordd i rywun sydd yn cael ei ddinistrio gan feddyliau ydy i ddod ’r corfforol i ben blaen bodolaeth, fel yr wyf yn sicr mae rhai ohonoch wedi dyfalu, trwy drosglwyddo teimlad mor angerddol mae’n llosgi’r synhwyrau ac yn gorfodi dy feddwl y ddau ochr i sylwi arno. I sylwi arnat ti. Yn y munudau byr hyn ti’n teimlo’n fyw. Ond paid bod mor ddiniwed i feddwl mai’r unig ffordd o gael y teimlad ydy trwy lafn rasel. Rho dy law o dan dwr poeth a gweld pa mor hir fedri di ddal o; cerdda yn y lon; dringo pethau sydd yn edrych yn beryg; cychwynna arferiad budr a gad iddo ladd ti: i ni, mae R.I.P. yn golygu Seibiant Mewn Poen (Respite In Pain). Mae rhai yn dewis rhyw neu ymarfer corf dwys, rhwygo cyhyrau. Mae newynu neu draflyncu yn dda, hunan-niweidio mewnol. Dwi’n casu cnau felly roeddwn yn cadw amrywiaeth o fariau snac cnau i fwyta, os oeddwn i yn bwyta o gwbl. Ond fy ffefryn oedd cychwyn stopio ysmygu (do, fe glywais di hynny yn iawn): roeddwn i yn ysmygu yn ddi-baid ac yn ddwfn, yn tagu fy ysgyfaint llosg i fyny ac yn rhoi cryniadau nicotin i fi fy hun gyda’r bwriad o gael yn llwyrddibynnol arno. Pan deimlwn gychwyniad llwyr ddibyniad, chwys oer yn cropian i fyny fy mraich, byddwn i’n rhoi gorau iddo. Cyflwr croen gŵydd (cold turkey). Roeddwn yn croesawu’r crynu, y salwch, y nosweithiau digwsg. Wrth orwedd yn y gwely, roedd y meddyliau sydd wedi treulio’r dydd yn nofio o gwmpas dy feddwl yn llifo i lawr dy gorff cyfan: yn cadw ti i fyny trwy’r nos yn crynu, gwingo, bwrw a sgrechian i mewn i dy glustog yn ddioddefwr i dy feddyliau. Roedd croeso mawr i ffurf o boen sydd hefyd yn diddymu’r angen i gysgu.

Fi ydy dioddefaint fy hun a fi fydd yn dinistrio fy hun. Ond dwi ddim yn gwybod dim gwahanol, felly dwi’n derbyn hyn ac yn delio gydag ef. Gallaf un ai gael fy ninistrio gan fy nghythreuliaid neu wynebu nhw a’u plygu i fy ewyllys. Manteisio ar y gwallgofrwydd hwn. Mae rhywbeth na all ladd fi yn fy ngwneud yn gryfach.

Mae’n dod i bwynt ble ti’n gwneud y pethau hyn yn fwy aml, dim ond er mwyn cadw gafael arna ‘ti dy hun’. Ond drwy wneud hyn, mae ‘ti dy hun’ yn cael ei fyrhau i ddim byd mwy na ffrc hunan-niweidiol, hunan-frawychus. Dwi ddim yn gwybod os oedd  yn flwyddyn neu hirach, ond fe ddois i sylwi os oeddwn i byth yn mynd i drechu hyn roedd rhaid i mi wynebu’r cythraul mewnol, nid treulio gweddill fy mywyd yn dianc oddi wrth feddwl fy hun. Roedd rhaid i mi bigo ochr. Fe gefais y cryfder; y modd i adnabod fy hun drwy’r poen. Rhoddais stop ar frifo fy hun digon i ddianc y cythreuliaid, a chychwyn ei wneud i gael y cryfder i wynebu nhw dyma pan dynnais waed am y tro cyntaf.

Mae’n cymryd llawer o ddewrder i dorri dy hun. Mae gen i ychydig o greithiau, bob un efo stori ei hun, ond dim ond unwaith dwi wedi torri fy hun yn iawn. Dim ond hyn oedd angen arnaf. Fy arddwrn oedd o (Yr ochr da, paid poeni).

Roedd fy nhad yn gweiddi arnaf i fynd allan o’r tŷ. Roeddwn i mor hwyr yn cael yn barod i’r eglwys fel bod mam a fy chwiorydd wedi mynd. Yn tybio fy mod wedi cael allan ohoni fe es i’n achlysurol i lawr y grisiau i wneud ychydig o frecwast ond roedd dad efo syniadau gwahanol. Ddim efo rhieni sydd fel arfer yn gweiddi na ffraeo, yn fy mhresenoldeb i beth bynnag, cefais fy nal yn ddiamddiffyn pan ymddangosodd, yn gweiddi am fy agwedd ac yn dweud wrthyf roi fy esgidiau ymlaen, gadael y tŷ a cherdded i’r eglwys. Cuddiais fy wyneb oherwydd, er nad oeddwn i erioed wedi meddwl ei fod yn bosib, roedd rhaid i mi guddio ffit o hysteria: dim dagrau ond y wyneb gwyrdroi llawn o blentyn maldodus yn cael stranc.

Wrth i mi redeg i fy ystafell i nl fy esgidiau gafaelais mewn cyllell boced, fel yng nghefn fy meddwl yr oeddwn yn gwybod beth oeddwn i’n cynllunio gwneud efo fo, ac wrth fynd allan o’r tŷ teimlais y cryfder i ymladd y cythraul. Ar y lon yna i dŷ Duw agorais y gyllell a thorri’n ddwfn. Ar y cynnig cyntaf ac ail fe gyffyrddais gnawd a thynnu’n l yn siarp, yn gadael ychydig mwy na chrafiadau gwyn ar fy nghroen, ond ar y trydydd, heb betruster nag edifeirwch anwybyddais yr ochr o fy mhen roeddwn i fod yn ochri gyda yr ochr synhwyrol oedd yn poeni a phwyso i lawr gyda chymaint o gryfder fel bod tynnu yn l wedi torri’n ddyfnach a fwy ffyrnig nag erioed o’r blaen nac ers hynny. Roedd yn llai o losgi (fel y byddai rhai yn disgrifio’r teimlad) a mwy o agoriad: i mewn i fyd newydd, dyfnder newydd o safbwynt a theimlad. Symbolaidd i ehangder gwallgofrwydd, yr unig beth gofiaf weld ydy neon llachar: porffor a choch mor ddwys nag y byddwn i erioed wedi gallu dychmygu nhw i mewn yng nghorff fy hun. Ond yno roedden nhw: yn cuddio mor ddwfn o dan haenau o groen na ddylai nhw erioed wedi cael eu gweld. Haen o gyhyr mor bell i lawr fel na fyddai unrhyw anafiadau cefais fel plentyn, na’r toriadau dwi wedi gwneud yn fwriadol ers hynny, wedi gallu amlygu. Roedd gweld hyn yn annaturiol: mae pobl yn gallu byw bywydau hir heb wybod beth mae’r rhan yna o’u corf yn edrych fel, heb wybod hyd yn oed ei fod o yna. Ond dyna le’r oeddwn i, yn syllu i mewn i’r darn o gelf swrrealaidd hwn cyn i’r gwaed ddod a’i guddio eto ac yn sydyn roeddwn i’n gwybod y dyfnder. O beth ydyw i fodoli yn unig; beth sydd yn rhedeg oddi tanom i gyd pan mae’r gwenau wedi diflannu a’r moesau wedi golchi i ffwrdd. I ddringo mor bell i mewn i ti dy hun a dod allan, yn gafael yn yr allwedd i rywbeth mor brydferth ac anfeidraidd sydd wedi bod ynddo ti ers y diwrnod cefais dy eni ond eto ti erioed wedi chwilio amdano. Mae fel troi rownd am y tro cyntaf a gweld fod gen ti adenydd.

Wrth i mi gerdded ar hyd y palmant teimlais dim ond nerth a champ. Gallwn i wynebu’r byd nawr. Treuliais y gwasanaeth yn gwenu fel dyn gwyllt, yn sefyll, yn canu’n uchel ac yn gwybod, yn annhebyg i’r bobl hyn, gallwn i fod yn unrhyw beth. Gallwn i neidio o bigdwr, gwasgu dur llosg i mewn i’m nghroen noeth, disgyn yn sgrechian, yn cyfogi, yn gwaedu i mewn i’r pulpud, gyrru’r bobl hyn yn eu bywydau diogel bach o foreau coffi a’u diweddiad llyfr stori yn cilio, yr offeiriad yn trochi fi gyda dŵr swyn ac yn gweddo am fy enaid. Nid oeddwn i ofn marw, a gallwn i wneud o yn chwerthin. Yna oedd rhyddid. Mae bod yn fyw yn peidio bod ofn y dewis arall. Roeddwn yn gwybod ar yr adeg honno nad oeddwn i’n sefydlog; roeddwn i’n wallgof, ond dim ond gydag angerdd am fywyd nad oeddwn i wedi’i adnabod o’r blaen. Roedd iselder yn ffrind grymus ac roeddwn i wedi gadael ei gynddaredd yn rhydd. Byddwn i ddim yn ymladd yn ei erbyn ddim mwy; fe gai fi.

Gad i ni dorri’r peth i lawr: tn, Jack Daniel’s, cyllyll poced a barddoniaeth. Pedwar peth sydd byth yn bell o’r gafael, ond bob tro yn cael eu cuddio. Pedwar peth sydd yn gwneud dy fam di boeni (efallai dyna pam). Anadlu, tagu, dal o i’r fflam (y cyllell, nid y sigart). Dur ar groen. Llosgi. Rhoi pwysau. Ail-wneud.

Welodd o erioed rhwymyn, er os wyt ti’n rhyfeddu pam fod rhai pobl ifanc yn gwisgo llawes hir yn yr haf, dyna dy ateb. Arferwn i ddweud wrthaf fy hun mai ffordd o atgoffa dy hun fod popeth ti’n wneud efo canlyniad ydyw, nawr dwi’n gwisgo fo fel bathodyn o falchder. Roeddwn wedi agor y gwagle, ac fel yr oedd yn tyfu roedd yr adlais yn uwch. Tyfais fy ngwallt a phrynu siaced lleder. Roeddwn yn gweld iselder fel anrheg dywyll: bendith. Sylwais nad oedd y fath beth a gwellhad i feddwl isel, ond ei fod yn cynnig safbwynt gwahanol ar y byd. Dewis arall i hapusrwydd. Nid fel melltith sydd yn rheoli fy mywyd, ond fel rhan o fy mywyd rhywbeth sydd, wrth gael ei gofleidio, yn caniatu’r nerth a’r mewnwelediad i mi i wneud beth na all eraill. Darllenais eto. Ysgrifennais yn gyson. Roeddwn yn mynd allan, yn cymdeithasu, a pan ddaw'r iselder roeddwn i’n ei gofleidio.

***

Dwi wedi darganfod ffordd i aros yn gall. Dwi’n dweud celwydd wrthyf i fy hun.  Dweud celwydd fod yr iselder wedi ennill ac mae’r gwrthdaro drosodd. Dweud celwydd fy mod i’n rymus, fod gadael i emosiwn negyddol rhedeg yn wyllt yn gwneud fi’n artist, yn beatnik, yn gyfan unwaith eto. Fy mod i’n gallu gwneud pethau na all eraill oherwydd o. Mae ffantasi fel hyn yn helpu i mi anghofio bydd fy meddwl mewn cythrwfl nes y dydd i mi farw.

Dwi’n gwneud pethau na all eraill.
Dwi’n deffro pob bora yn wynebu’r penbleth o ba hosan i roi ar ba droed yn credu fod y dewis anghywir yn gwneud i’r diwrnod fynd yn ddrwg. Dwi’n brwsio fy nannedd yn obsesiynol, yn achosi deintgig enciliol, a dal y bws gyda llai na munud i sbario gan na fedraf i reoli amser na chyrraedd nod heb synnwyr o frys sydd yn disodli unrhyw feddyliau dibwynt sydd yn fy mhen i. Pam dwi’n cyrraedd pen y daith dwi’n poeni am gerdded ar ochr chwith neu dde o bob postyn lamp dwi’n pasio.

Dwi’n ysgrifennu’n ddi-baid.
Fe chwiliais amdanyn nhw ddiwrnod o’r blaen. Y dyddiaduron. Mae’n rhaid bod i wedi adwthio llawer o atgofion o’r cyfnod hwnnw, roeddwn wedi arswydo i weld y tudalennau yn sownd i’w gilydd gyda gwaed.

Yn ystod gwrthdaro fy meddwl sef y rhan fwyaf o’r amser gallaf wneud nodiadau yn unig, ac yn cynllunio sut y byddwn yn ysgrifennu rhywbeth os byddwn yn cael y bendith o’r gallu i ganolbwyntio am gyfnod. Dwi ddim wedi ysgrifennu am bwysedd allanol ers yr oeddwn yn bymtheg. Dwi’n disgwyl am drefn ffilm: cerddoriaeth yn cychwyn, cymhelliant yn cicio i mewn ynghyd ’r drefn golygu cawslyd o luniau arosod ohonof i’n gweithion yn galed ac yna, wrth i’r gerddoriaeth ddod i ben, mae wedi’i wneud. Ond nid bywyd ydy hyn. Mae bywyd yn digwydd rhwng y mewnlif siarp o anadl, lle dwi’n dal fy meddyliau ddigon hir i gofio fy mod i dal yma cyn i mi gael fy sugno i lawr eto. Dwi’n parhau i fodoli gyda graddau cyffredin pan allwn i gael rhai gwych ond, yn eironig, ddim yn gallu am fod fy meddwl yn rhy llawn yn cyflawni ei stad o ragoriaeth ei hun drwy fy mreichiau dyfriog a chymhlyg rhagoriaeth. Wyt ti’n genfigennus?

Dwi’n falch fod hyn wedi digwydd. Dwi’n gryfach o ganlyn, a byddwn i byth yn newid y ffordd dwi’n edrych ar y byd nawr.

Dwi’n argyhoeddi i fi fy hun fod yr obsesiynau a’r problemau yn arfau sydd wedi cryfhau a siapio fi. Nid ydynt. Creithiau ydynt, bob un yn dod a fi yn agosach at gwympiad. Mae popeth yn gorlethu fi: fedra i ddim gwneud penderfyniadau ddim mwy. Ddim yn gallu ymdopi bwffe, siopa dillad na gyrfaoedd. Mae’r atgofion o bob teimlad drwg, euog neu baranoia dwi wedi’i brofi dal yn fy mhen. Fedra i ddim cael gwared ohonynt. Nid oes lle i ddim mwy ond fedra i ddim atal nhw rhag dod i mewn. Cyn rhy hir bydd hyn yn ormod i’m mhen gymryd. Poteli a ffrwydro. Ac yna pwy a gwŷr? Yn l y meddylwyr rhesymol, byddaf yn rhoi dyddiad i lawr mewn pensel rhywle ar l y cyfarfod PTA nesaf.

Nes i ddim ildio i’r cythraul mewnol, i’w wallgofrwydd. Fe wynebais i nhw. Fe drechais i nhw, ac fe ddois yn gryfach oherwydd hyn.

Dwi ddim wedi trechu’r cythraul; dwi wedi dod yn un.

Dwi’n ddau ddeg un nawr. Dwi wedi bod fel hyn am chwe blynedd. Beth bynnag dwi’n ei wneud, bydd hapusrwydd yn ymweld un cam ymhellach. Dwi’n gwenu er mwyn cael ymlaen. Rhyw ddydd bydd plentyn meddylgar yn gweld fi, yn sylwi ar fy marc o hapusrwydd, ac yn meddwl os ydw i’n gwybod, yn ddwfn i lawr, nad fel hyn ydw i’n teimlo go iawn mae’n debyg.

Erthyglau Perthnasol:

Cychwyn Newydd

Gwybodaeth

Gwybodaeth Iechyd Iechyd Emosiynol a Meddyliol Hunan-Niweidio

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.