Balchder O CLIC
English version
Nid yn aml fydda i’n ysgrifennu erthyglau i CLIC, dwi’n brysur yn gweithio’n ddiflinedig tu l i’r llenni neu ar yr achlysur pan fydda i, dwi fel arfer yn hyrwyddo’r penwythnos preswyl Gr?p Golygyddol Cenedlaethol neu gystadlaethau, gwasanaethau a mentrau.
Ond mae heddiw yn wahanol. Dwi newydd ddod yn l o’r Gynhadledd Gwybodaeth CLIC cyntaf erioed ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru yn Institiwt Glyn Ebwy, lle'r oedd tua 150 o bobl ifanc a phobl broffesiynol o sefydliadau yno.
Felly pam ydw i’n teimlo’r angen i ysgrifennu’r erthygl hwn wedi cyrraedd adref? Dwi ddim wedi bod adre ers pnawn dydd Sadwrn, wedi treulio’r penwythnos yn gweithio gydag aelodau o’n Gr?p Golygyddol Cenedlaethol mewn penwythnos preswyl i baratoi am y gynhadledd heddiw. Rhoi fy nhraed i fynnu, ymlacio a gadael gwaith tan fory ydw i fod. Fe ddylwn i, ond dwi ddim. Yn lle dal i fyny ar fy nghwsg, dwi’n cysidro’r geiriau cywir i ddangos sut ydw i’n teimlo.
Efallai mai’r balchder mawr dwi’n teimlo am CLIC fel prosiect ac i’r staff tm CLIC oedd yn gweithio mor frwdfrydig i sicrhau fod heddiw yn llwyddiant sydd yn stopio fi nawr.
Efallai mai’r wybodaeth fod pwrpas y gynhadledd i godi ymwybyddiaeth o’r rhwydwaith CLIC o wefannau ymysg pobl ifanc wedi’i gyflawni, gyda nifer o’n Golygyddion Lleol yn bresennol ynghyd phobl broffesiynol o dros Gymru.
Gall fod oherwydd y sefydliadau ddaeth draw, gymerodd rhan a chyfrannodd i’r digwyddiad ac am y cynrychiolwyr o’r Adran Plant, Teuluoedd a Phobl Ifanc Llywodraeth Cynulliad Cymru oedd yno i gynnig eu cefnogaeth gyfredol.
Efallai mai’r ffaith fod yr AC Huw Lewis, Dirprwy Weinidog Plant, wedi mynychu bore ma’ ac wedi rhoi araith ddiddorol yn cefnogi CLIC a phopeth rydym yn ei wneud, yn pwysleisio pwysigrwydd CLIC fel y prif brosiect sy'n arwain ar Wybodaeth a Chyngor ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Efallai mai Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, yn amlygu yn ei araith ddifyrrus yr ymglymiad roedd o wedi’i gael gydag un o’n Grwpiau Golygyddol lleol ar gyfer WICID yn Rhondda Cynon Taf, ei ddealltwriaeth o CLIC a’r gefnogaeth mae’n ei roi. Gall fod y ffaith ei fod o’n adnabod CLIC fel nid yn unig adnodd gwybodaeth werthfawr i bobl ifanc ond fel platfform cyfryngau ieuenctid unigryw sydd yn gadael i lais bobl ifanc yng Nghymru gael ei glywed, yn lleol ac yn Genedlaethol, yn aros gyda ni trwy’r pnawn yn siarad gyda phobl ifanc.
Mae hyn i gyd yn fy ngwneud yn falch.ond nid hynny ydyw.
Y balchder gorlethus dwi’n ei deimlo ar y funud hon ydy am yr ymdrech tm amlwg roedd pedwar aelod o’n Gr?p Golygyddol Cenedlaethol wedi’i roi i mewn i fod yn gyflwynwyr i ni heddiw.
Jess a Ben o Gyngor Ieuenctid Castell-Nedd Port Talbot, Ant o Gr?p Golygyddol Fflintyr Ifanc a Paul o’r Gr?p Golygyddol newydd sbon i Ynys Mn, Defaid, yn darparu ni gyda diwrnod andros o ddifyrrus, egniol, diddorol ac addysgiadol. Yn rhoi eu hamser rhydd y penwythnos hwn i baratoi a chynllunio eu cyflwyniadau ac areithiau, fe ddalion ati gyda’n hamserlen lawn a chreu syniadau creadigol a gwreiddiol i wneud y gynhadledd apelio i bobl ifanc.
Ia, dyna pam dwi’n teimlo fod rhaid i mi ysgrifennu’r erthygl hwn pam ddylwn i fod yn ymlacio, oherwydd heb sr ein sioe a gweddill y bobl ifanc o’n Gr?p Golygyddol Cenedlaethol fu’n cynllunio ac yn siapio’r gynhadledd, ni fyddai wedi digwydd a ni fyddai wedi digwydd mor dda.
Yn Mai 2010 yn ein penwythnos preswyl yn Bae Caerdydd gosodwyd amcanion y gynhadledd gan 20 o bobl ifanc o dros Gymru, pwy ddylai fynychu a chael eu gwadd, ble dylai gael ei gynnal, fformat y dydd a’r mathau o weithdai ddylai gael eu cynnig.
Yn Awst 2010 mewn penwythnos preswyl yn Sir Benfro, datblygodd 14 o bobl ifanc y syniadau am weithdai a gweithgareddau ymhellach, gyda gr?p bach yn camu ymlaen fel gwirfoddolwyr i fod yn gyflwynwyr ar y dydd. O flaen gweddill y gr?p roedd rhaid iddynt ddangos eu sgiliau cyflwyno a rhoi eu hachos ymlaen am pam mai nhw ddylai fod y rhai i gynrychioli CLIC.
Yn wreiddiol roedd wyth yn mynd i fod yn cymryd rhan, ond fel sydd aml yn digwydd, roedd rhaid i gwaith ac ysgol gymryd blaenoriaeth dros eu gweithgareddau fel aelodau gwirfoddol o’n Gr?p Golygyddol Cenedlaethol, Ant o’r Gr?p Golygyddol Fflintyr Ifanc (oes, mae gennym ni ddau Ant o Sir y Fflint!) a Alex o Gastell-nedd Port Talbot, i gyd yn bersonoliaethau disglair a welwyd eu colled. Doedd Sam o’r Gr?p Golygyddol theSprout ddim yn gallu dod i baratoi ar y penwythnos ond ymunodd gyda ni ar gyfer y gynhadledd, yn cynrychioli theSprout yn hyderus ac yn rhoi arddangosiad un-dyn gyda’r gynulleidfa yn dal ar bob un gair!
Weithiau rydym ‘ni’ tu l i’r llenni sydd yn gyfrifol am CLIC yn anghofio fod y bobl ifanc i gyd sydd yn cymryd rhan yn rhoi eu hamser rhydd i wirfoddoli, yn helpu ni i ddatblygu ein rhwydwaith o wefannau gwybodaeth ieuenctid pam gallent fod yn mynd allan gyda’u ffrindiau, yn chwarae rygbi, mynd i’r sinema, mynd i barton ayyb. Wrth gwrs beth maent yn cael yn l ydy’r cyfle i’w barn a’u syniadau cael eu cyflawni mewn prosiect Cenedlaethol, datblygu eu sgiliau, cael profiadau newydd ac ennill achrediad tuag at gymwysterau. Yn amlwg rydym yn trio rhoi ychydig o hwyl ychwanegol i mewn i bethau i’w wneud yn hyd yn oed mwy buddiol.
Y penwythnos hwn ni fu’n gwneud hynny, dim ond gwaith caled oedd yn cael ei wneud, doedd dim gweithgareddau gwifren uchel yn y coed, dim rowlio yn y mwd ar gwrs antur yn profi eu hunain, dim reid ar gwch p?er i gyffroi a chynhyrfu nhw, dim adeiladu rafftiau i brofi eu gallu i ddatrys problemau. Mae penwythnosau preswyl Cenedlaethol CLIC bob amser yn gymysgedd o waith difrifol ar arwain a datblygu CLIC efo mesur da o adloniant a gweithgareddau bwriad da o wiriondeb a hwyl fel cystadleuaeth talent. Y penwythnos hwn, daeth pedwar o bobl ifanc o Ogledd a De Orllewin Cymru sydd wedi cyfarfod o’r blaen o dan yr amgylchiadau uchod, at ei gilydd i esbonio’r rhwydwaith CLIC i bobl ifanc oedd yn anymwybodol o’i fodolaeth.
Roedd yr wyth gwreiddiol yn mynd i fod yn cyflwyno ac yn arwain ar y mwyafrif o’n gweithdai, ond gyda dim ond pedwar ar l yn y dyddiau yn arwain at y penwythnos, roedd y pwysau i gyd arnyn nhw. Felly yn lle arwain ar y rhan fwyaf o’r gweithdai am y gynhadledd, roedd rhai o’r gr?p yn cefnogi aelodau o’r tm CLIC i gyflwyno gweithdai gyda’r ffocws yn cael ei roi ar eu prif gyflwyniadau.
Wrth gwrs fe gawsom hwyl yn ystod ein amserlen didostur, yn dal i fyny efo’n gilydd ar l y penwythnos preswyl diwethaf, bron yn disgyn wrth chwerthin tra roedd Ant yn gwneud i ni ymarfer y Haka gyda chymaint o angerdd a brwdfrydedd fel bod ei wythiennau yn popio allan o’i wddf, yn gwrando yn swynol wrth i Paul chwarae’r can CLIC roedd o wedi’i gyfansoddi a’i greu dros y penwythnos, yn profi unwaith eto ei dalent cerddorol anhygoel, ac fel bob amser cawsom ein adlonni gan brofocio doniol Ben a Jess wrth iddynt ddatblygu’r prif gyflwyniad CLIC/MEIC.
Fe weithiodd pawb yn galed ac roedd y gwaith i gyd wedi bod o fudd. Fe lwyddodd y gr?p gynrychioli CLIC a’n Gr?p Golygyddol Cenedlaethol yn hyderus, yn dangos ymrwymiad rhagorol i’r prosiect. Roedd heddiw yn anterth ohonynt yn cwblhau Gwobr Rhagoriaeth Ieuenctid am y cynllunio, paratoi a chyflwyniad y Gynhadledd Gwybodaeth CLIC.
Ydw dwi’n teimlo balchder. Dwi’n byrstio gyda balchder ar y funud hon i fod yn gweithio gyda phobl ifanc mor eithriadol.
Wrth i ddiwrnod y gynhadledd ddod i ben a’r amryw grwpiau o bobl ifanc o ysgolion a sefydliadau ac ati orfod gadael, dim ond un peth i mi oedd ddim wedi ei ddweud digon...
DIOLCH
Diolch Ben, Paul, Ant a Jess am eich ymrwymiad i CLIC, eich gwaith caled a chysegriad yn eich amser eich hunain i wneud heddiw yn gymaint o lwyddiant!
Ein brawddeg o’r penwythnos Mae gyd amdanat ti ;)
Kathryn Allen
Uwch Swyddog Datblygu a Chyfranogiad
1 Comment – Post a comment
CLICtania
Commented 67 months ago - 22nd October 2010 - 15:36pm