Bachwch Y Meic
Bu llawer o sn yn y newyddion yn ddiweddar am Meic , gwasanaeth newydd i bobl ifanc yng Nghymru a lansiwyd ddydd Gwener.
Cafodd lawer o sylw: Roedd y Dirprwy Weinidog dros Blant, Comisiynydd Plant Cymru a rhai sr lleol i gyd yn rhan o’r lansiad.
Disgrifiodd Aled Haydn Jones, cyflwynydd sioe gynghori Radio 1 The Surgery a chynhyrchydd The Chris Moyles Breakfast Show ef fel gwasanaeth a fydd yn “sicrhau y rhoddir llais i bobl ifanc yng Nghymru i helpu i’w hymrymuso a sicrhau eu bod yn cael profiadau bywyd cadarnhaol”.
Nawr mae gwleidyddion a sr yn un peth ond yr hyn rydw i am ei glywed yw barn pobl ifanc: oherwydd mai nhw yw’r rhai a fydd yn defnyddio’r gwasanaeth hwn, eu lleisiau nhw yw’r rhai pwysicaf i gyd. Oherwydd bod hwn yn wasanaeth newydd sbon ac nad yw llawer o bobl ifanc wedi cael y cyfle i’w ddefnyddio eto, fe feddyliais i y byddwn yn rhoi cychwyn ar bethau...
Felly heddiw dyma fi yn mynd i lawr i’w swyddfeydd ym Mae Caerdydd i ddarganfod yn union beth ydy Meic, ac i wahanu’r ffeithiau oddi wrth y storau. Dangoswyd i mi sut mae’r gwasanaeth yn gweithio ac atebwyd fy nghwestiynau. Roedd yn drip gwerth chweil a dysgais lawer am y prosiect.
Rydw i wedi ysgrifennu fy nghrynodeb fy hun o beth ydy Meic isod, a beth yw ei fanteision i bobl ifanc. Gobeithio y byddwch yn meddwl ei fod yn gliriach na rhai o’r adroddiadau newyddion hirwyntog hynny sydd allan yna. Mae croeso i chi ychwanegu eich syniadau eich hun fel sylw neu ysgrifennu eich erthygl eich hun, yn arbennig os ydych wedi defnyddio’r gwasanaeth.
Felly beth ydy Meic?
Mae’n llinell gymorth gyfrinachol wedi ei dylunio ar gyfer ein cenhedlaeth ni: er y gallwch ddal i ffonio os dymunwch hynny, nid dyna’r unig ffordd o gael help a chyngor - yn bersonol rydw i’n casu gwneud galwadau ffn ac mae’n llawer gwell gen i anfon neges testun, ysgrifennu e-bost neu siarad dros Negeseuwyr y Rhyngrwyd (fel MSN neu Facebook Chat). Nid fi ydy’r unig un mae’n ymddangos a gofalodd Meic y gallwch eu cyrraedd ar unrhyw rai o’r dewisiadau hyn. Gall unrhyw un o dan 26 oed ei ddefnyddio.
Ydy e’ am ddim?
Ydy. 100%
Felly mae’n debyg i ChildLine neu’r Samariaid?
Nac ydy, ddim o gwbl. Mae’r gair Meic yn fyr am meicroffon oherwydd dyna yn y bn yw’r gwasanaeth: llwyfan i wneud i bobl eich clywed. Eu gwaith nhw yw eich gwasanaethu chi fel eich meicroffon; i sicrhau y gwrandawir ar farn pobl ifanc ac y cymerir eu barn o ddifrif. Maen nhw’n gysylltiedig Llywodraeth Cynulliad Cymru a Gwasanaeth Cenedlaethol Eiriolaeth Ieuenctid felly fe fyddan nhw’n gwneud yn siŵr bod eich barn chi yn cael ei chlywed gan y bobl a all newid pethau.
Tra gallwch siarad Meic am unrhyw beth, os yw’n broblem ddifrifol byddant yn eich cyfeirio at y bobl sy’n gallu helpu orau, a allai fod yn grŵp fel ChildLine Peidiwch bod ofn cysylltu nhw gyda phryderon difrifol, ond yn yr un modd peidiwch theimlo eich bod yn gwastraffu eu hamser os dymunwch siarad am rywbeth mwy dibwys.
Rhowch rai enghreifftiau i mi o’r hyn y gallwn siarad amdano.
Efallai y teimlwch eich bod yn cael eich trin yn annheg yn y gwaith, ond nad ydych yn dymuno cwyno rhag ofn colli eich swydd. Efallai fod pobl yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eich bywydau, a ddim yn gwrando ar eich safbwynt chi wrth wneud y penderfyniadau hynny. Mae’r rhain yn enghreifftiau clasurol o sefyllfaoedd anodd y gall pobl ifanc ddarganfod eu hunain ynddynt ac mae arnynt angen help i ddod allan ohonynt. Nid rl Meic yw rhoi cyngor neu gydymdeimlad i chi ond sicrhau bod eich safbwynt chi yn cael ei gydnabod a’i barchu.
Peidiwch bod ofn siarad am beth bynnag sydd ar eich meddwl, pa mor fawr neu mor fach bynnag yw e. Dyma rai enghreifftiau eraill o bryderon y gallai Meic helpu gyda nhw:
Os bydd cyfleuster neu wasanaeth a ddefnyddiwch yn newid neu yn stopio
Os ydych wedi eich cau allan o rywle ond nad ydych yn teimlo mai eich bai chi oedd hyn
Os teimlwch nad ydych yn mynd i unrhyw le gyda gwasanaeth neu gymorth yr ydych yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd
Pan nad ydych yn deall rhywbeth, a bod arnoch angen cyngor
Pan ydych yn bryderus neu yn poeni am rywbeth, ac nad ydych yn siŵr pwy y dylech siarad nhw (byddan nhw yn eich rhoi mewn cysylltiad gyda’r gwasanaeth iawn i chi)
A beth yw eich barn chi amdano?
Wel, mae hwn yn gwestiwn na allaf ei ateb yn deg ar fy mhen fy hun. Ond ar l siarad staff Meic mae’n rhaid i mi ddweud y gwnaed argraff fawr arnaf gan yr hyn a welais o’u gwasanaeth, ac rwy’n awyddus i glywed adroddiadau gan bobl sydd wedi ei ddefnyddio.
Rwy’n teimlo’n gyffrous wrth weld y prosiect hwn yn datblygu. Fy ngwaith i yn CLIC yw annog pobl ifanc i fynegi eu hunain drwy ddulliau creadigol, i gael beth sydd yn eu pen a’u calon allan i’w ddangos i’r byd. Yn ein ffordd ein hunain, rydym yn darparu llwyfan i bobl ifanc gael eu gweld.
Ydych chi wedi defnyddio Meic?Ydych chi’n meddwl y gwnewch chi pan fydd arnat angen cymorth neu gyngor?
Beth yw eich barn am y prosiect?Gadewch sylw isod a rhowch wybod i ni beth yw’ch barn.
Dolennau:
Gwefan Swyddogol Meic: www.meiccymru.org/
Newyddion BBC: Lansio gwasanaeth cynghori i bobl ifanc yng Nghymru
Daily Post: Llinell gymorth i bobl ifanc yw'r gyntaf yn y DU
Tudalen gwe Llywodraeth Cynulliad Cymru