Astudiaeth yr NSPCC Ar Secstio
Rhyddhaodd yr NSPCC astudiaeth newydd ar secstio a phobl ifanc.
Nod yr astudiaeth yw oedd i ennill mewnwelediad i mewn i farn a phrofiadau pobl ifanc ac i ddeall 'sut mae negeseuon tecst a lluniau amlwg rywiol yn cael ei gynhyrchu, dosbarthu a'i ddefnyddio drwy ffonau symudol a'r rhyngrwyd, a sut mae'r arferion hyn yn siapio bywydau pobl ifanc all-lein.
Bu'r 35 o gyfranogwyr yn grwpiau ffocws yr astudiaeth rhwng 12 a 14 mlwydd oed o ysgolion dinas fewnol Llundain. I fapio eu gweithgareddau ar-lein, gofynnwyd i'r cyfranogwyr ddod yn ffrindiau gyda'r tîm ymchwil.
Cynhelir cyfweliadau dilynol gyda 22 o gyfranogwyr y grŵp ffocws yn ogystal â phedwar athro a phedwar staff cymorth ysgolion.
Canlyniadau'r astudiaeth oedd:
- Mae'r bygythiad technoleg mwyaf yn dod o’r cyfoedion, nid 'perygl dieithriaid'
- Mae'r secstio yn aml yn orfodol
- Maent yn effeithio ar ferched mwyaf
- Mae technoleg yn cynyddu'r broblem trwy hwyluso gwrthrycholiad merched
- Mae "sexting" yn dangos pwysau rhywiol ehangach
- Mae hyd yn oed plant ifanc yn cael eu heffeithio
- Mae arferion secstio yn ddiwylliannol penodol
- Bydd angen fwy o gymorth ac adnoddau i wirio'r gwasgedd rhywiol sydd ar bobl ifanc
Gellir gweld mwy o wybodaeth fan hyn.
Gellir gweld crynodeb o'r adroddiad fan hyn.
LLUN: pieterouwerkerk
Erthygl Perthnasol: Peryglon 'Sextio'