Asthma Yng Nghymru
Mae Asthma UK Cymru wedi lansio adroddiad ar gyfer Diwrnod Byd Asthma (5ed Mai) sydd yn dangos darlun eithaf llwm o fywyd ysgol i’r 59,000 o blant efo asthma yng Nghymru.
Mae’r adroddiad, o’r enw Methu Allan, wedi’i selio ar drafodion gyda phlant a phobl ifanc o Gymru ac ar draws Prydain. Mae’n dangos sut mae’r rhagdybiaeth a diffyg dealltwriaeth am asthma yn gyffredinol ymysg athrawon yn achosi i blant efo asthma i ‘fethu allan’ neu gael eu gwahardd o brofiadau plentyndod arferol.
Mae asthma yn effeithio un ymhob naw plentyn yng Nghymru, sydd yn golygu fod gennym un o’r cyfraddau uchaf o asthma plentyndod yn y byd. Ar gyfartaledd, mae bron i 5 blentyn y dydd yn mynd i’r ysbyty o ganlyn y cyflwr, ond yn bryderus mae dros draean o blant a’u rhieni yn anhyderus yn athrawon dosbarth yn meddwl na fyddent yn gwybod beth i wneud os byddent yn cael ymosodiad asthma.
Dywedodd dros hanner y plant siaradom efo fod eu hasthma nhw’n golygu eu bod yn cael problemau ymuno mewn gwersi ac yn mynd ar dripiau ysgol a dywedodd bron i drichwarter eu bod yn cael problemau yn ymuno yn y gwersi Addysg Gorfforol. Yn ofidus, dywedodd 40% o blant fod asthma yn eu stopio rhag cael hwyl. Pryder cyson oedd bod athrawon ddim yn deall y cyflwr ac fel canlyniad roedd plant yn cael eu gosod mewn ‘swigen amddiffynnol’, yn cael eu gwahardd o gymryd rhan mewn gweithgareddau penodol, neu i’r gwrthwyneb roeddent yn cael eu gwrthod gan athrawon gyda diffyg gwybodaeth o fod yn ‘deimladwy’ neu’n ‘gor-ymateb’.
Mae Jessica Hayes, o Cowbridge yng Nghymru, yn 15, dywedai: “Ni fyddai athrawon yn gwybod beth i’w wneud os byddai rhywun yn cael ymosodiad asthma yn yr ysgol, nid ydym i weld yn deall y cyflwr. Maen nhw hyd yn oed wedi dweud wrthyf am beidio cymryd rhan yn nhimau chwaraeon yr ysgol o’r blaen gan fy mod i ffwrdd lot ac nid ydym eisiau rhywun ar y tm sydd yn mynd i fethu gemau a sesiynau hyfforddi.”
Mae’n anodd pinbwyntio’r rhesymau tu l i ddiffyg ymwybyddiaeth athrawon mewn sut i ddelio gydag asthma yn y dosbarth, ond rydym yn credu bod angen brys am arweiniad i athrawon gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar sut i gefnogi plant gydag asthma. Yn bresennol nid oes system mewn lle i archwilio os ydy ysgolion efo polisau asthma ac, os oes, ydy nhw’n cael eu gweithredu yn effeithlon. Mae diffyg nyrsys ysgol sydd ar gael i roi cymorth i athrawon i weithredu’r polisau a’u hyfforddi ar sut i’w defnyddio yn ychwanegu i’r broblem.
Nes bydd athrawon yn gyda’r grym i deimlo’n gwbl hyderus mewn delio gydag asthma yn y dosbarth, mae plant gydag asthma mewn perygl o fethu allan ar eu plentyndod drwy gael eu gwahardd o Addysg Gorfforol a thripiau ysgol, cael eu rhwystro o chwarae gyda ffrindiau neu yn yr achosion gwaethaf, yn cael tripiau dianghenraid, drud ac ofnus i adran damwain ac argyfwng yr ysbyty.
I gefnogi ysgolion i edrych ar l plant gydag asthma yn well, rydym yn gofyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru i:
- Cefnogi gweithrediad a monitor llawn o’r safonau i wasanaethau arbenigol plant. Bydd gofyn am adnoddau digonol i sicrhau fod y safonau sydd wedi’i gosod yn y Prosiect Gwasanaethau Arbenigol Plant a Phobl Ifanc yn cael eu gweithredu yn llwyddiannus a bod anghydraddoldeb yn y gofal mae plant a phobl ifanc gydag asthma yn ei dderbyn yng Nghymru yn cael ei gyfeirio at.
- Darparu mynediad i nyrs ysgol ymhob ysgol. Mae’r datblygiad o wasanaeth nyrs teulu yng Nghymru yn cael ei gau ar gyfer ymgynghoriad ar ddiwedd Ionawr ac un o’r prif argymelliadau oedd bod pob ysgol uwchradd yng Nghymru gyda nyrs ysgol.
- Yn ychwanegol, rydym yn gofyn i ysgolion i weithredu’r argymhellion ym Mynediad i Addysg a Chymorth i Ddisgyblion gydag Anghenion Meddygol.
Mae’r adroddiad hwn, sydd yn cael ei lansio gan Lywodraeth y Cynulliad cyn hir, yn bwriadu sicrhau mynediad lawn i addysg i blant gyda chyflyrau meddygol. Rydym yn gofyn i ysgolion sicrhau fod ganddynt bolisi asthma mewn lle a bod staff yr ysgol i gyd, gan gynnwys athrawon a staff cefnogol, yn gyfarwydd gydag ef a’u cyfrifioldebau yn ei weithredu. I gynorthwyo bydd Asthma UK Cymru yn rhedeg sesiynau Yn Effro i Asthma sydd yn hyfforddi gofalwyr blynyddoedd cynnar ac athrawon mewn dealltwriaeth sylfaenol o asthma, y driniaeth ac ymwybyddiaeth o beth i wneud os ydy plentyn yn eu gofal yn cael ymosodiad asthma.
Dywedai John Mathias, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Asthma UK Cymru: “Mae’r rhagdybiaeth sydd yn arwain rhai athrawon i wahardd plant gydag asthma rhag cymryd rhan yn Addysg Gorfforol a gweithgareddau ysgol arall, yn dangos yr un diffyg gwybodaeth ac adnoddau byddai’n gwneud i’r athrawon yno yn analluog i helpu os byddai plentyn yn eu dosbarth yn cael ymosodiad asthma.
“Nid oes angen lapio plant mewn gwln cotwm ond mae’n ddyletswydd ar bob ysgol i sicrhau fod athrawon efo’r wybodaeth a’r adnoddau i amddiffyn a chefnogi’r plant yn eu gofal. Byddai hyn yn sicrhau fod 59,000 o blant gydag asthma yng Nghymru ddim yn ‘methu allan’ ar eu plentyndod.”
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dangos cefnogaeth i’r materion sydd wedi’u hamlygu yn yr adroddiad Methu Allan ac am ymgyrch codi arian newydd Asthma UK o’r enw ‘Putting Asthma In The Limelight’, sydd yn codi arian i helpu pobl gydag asthma. I ddangos eu cefnogaeth mae Jeff Cuthbert, Aelod Seneddol Caerffili a Chadeirydd y Grŵp Byw’n Iach, yn noddi Asthma UK Cymru i oleuo’r Senedd i fyny yn leim gwyrdd ar noson Diwrnod y Byd Asthma. Bydd aelodau’r Senedd hefyd yn gwisgo rubanau leim gwyrdd i ddangos eu cefnogaeth.
Os wyt ti eisiau helpu casglu arian i gefnogi plant gydag asthma gall gefnogi wythnos casglu arian cyntaf Asthma UK ‘Putting Asthma in the Limelight’, sydd yn rhedeg o 10 Mai, drwy roddi ar-lein.
Edrycha ar y cyfeirlyfr iechyd am wybodaeth ar asthma tra ti wrthi