Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Arweiniad I Rentu

Posted by archifCLICarchive from National - Published on 08/08/2008 at 11:22
0 comments » - Tagged as Topical

English version

GEIRIAU: Jenny Calvert

Fel ieuenctid ym Mhrydain heddiw, rydym yn debygol o gael profiad o ryw fath o ddirnadaeth oedolyn lle rydym yn cael ein gwthio i'r ochr, ein hanwybyddu, ein trin heb unrhyw ystyriaeth na pharch.

Mae rhentu eiddo yn un ardal lle dyw hyn ddim gwahanol.

O letywyr amheus i dai ansawdd sl mae'n ymddangos, wrth sn am rentu eiddo, bod pobl ifanc yn cael eu trin yn annheg.

Fel graddedig prifysgol dydy fy mhrofiad i efo rhentu ddim wedi bod yn un hawdd.

Dwi'n credu mai dim ond y rhai sydd wedi cael profiad llawn o'i broblemau gallai roi arweiniad eithaf i'r rhai sydd yn meddwl am rentu neu sydd yn rhentu eiddo yn barod.

Dwi'n gobeithio bydd fy arweiniad 10 pwynt yn rhoi'r wybodaeth arbenigol o lygad y ffynnon o sut i gael y gorau o rentu eiddo wrth iddo wynebu i fyny i'r problemau a'r trychinebau ti'n debygol o ddod ar draws.

1. Tai Ansawdd Gwael

Mae'n ymddangos, os wyt ti'n fyfyriwr neu'n berson proffesiynol ifanc mae disgwyl i ti fodloni ar eiddo ansawdd sl, budr a pheryglus i ddweud y gwir. PAID THEIMLO PWYSAU I ARWYDDO CYN I TI FOD YN BAROD. Cymera dy amser wrth ddewis t?. Cer at asiantaethau tai ar awgrymiadau ffrindiau.

Wrth edrych o gwmpas t? mae hefyd yn ddefnyddiol i siarad gyda thrigolion presennol y t? i ddarganfod sut mae'r lletywr / asiantaeth mewn gwirionedd. Paid, o dan unrhyw amgylchiadau, gadael i'r asiantaeth wthio ti i mewn i benderfyniad brys gallet ti ddifaru wedyn.

Pethau posib gallai asiantaethau ddweud:

  • "Mae llawer o ddiddordeb wedi bod yn y t? yma. Os nad wyt ti'n gwneud penderfyniad nawr bydd yn mynd i rywun arall." – Paid poeni! Os wyt ti'n parhau i fod yn ansicr am eiddo yna paid arwyddo unrhyw beth na rhoi arian iddynt. Mae'r tebygrwydd bydd y t? yn parhau i fod ar gael mewn dyddiau neu wythnosau felly paid gwneud penderfyniad sydyn o dan bwysau'r asiantaeth.
  • "Anwybydda'r llanast, y myfyrwyr ydy o. Bydd cegin ac ystafell ymolchi newydd yn cael ei osod cyn i ti symud i mewn." Gwna'n si?r bod ti'n archwilio hyn yn iawn cyn arwyddo dim. Cytuna gyda dy asiantaeth / lletywr rhestr o bethau  sydd angen ei wneud cyn i ti symud i mewn – gwna'n si?r bod y lletywr a'r preswylwyr yn arwyddo ac yn cytuno hyn. Fel hyn ti'n gwybod beth ti fod i gael.

2. Ardal / Y Cyffiniau

Mae dewis ble ti eisiau byw yn bwysig iawn wrth ddewis ble i rentu eiddo. Os nad oes gen ti gar yna mae'n hanfodol bod yn agos at gysylltiadau trafnidiaeth dda i fynd i'r gwaith a siopau, neu'n well fyth i gael popeth ddigon agos i fedru cerdded.

Gwranda ar dy ffrindiau a dy deulu sydd efallai wedi byw yn yr un ardal a chysidra'r math o bobl ti eisiau byw o gwmpas – os wyt ti'n hoffi'r bywyd parti yna mae byw mewn ardal myfyrwyr/ifanc yn fantais i ti. Yn fwy pwysig, wrth edrych ar dai, cysidra'r cwestiwn – ydw i'n teimlo'n ddiogel yn yr ardal yma?

Llefydd sydd ddim yn hanfodol ond yn ddelfrydol cael o fewn pellter cerdded:

  • Lleoedd Prydau Parod – ti byth yn gwybod pryd fydda ti eisiau bwyd!
  • Swyddfa Bost – yn aml dyw pobl ddim yn sylweddoli gwerth hwn ond mae ei angen drwy'r adeg.
  • Siop drydanol neu DIY – ar gyfer yr holl bethau bach defnyddiol yna fel bylbiau golau!

3. Cyllid

Meddylia faint fedri di fforddio talu'r rhent ac faint mae dy gyd-breswylwyr yn barod i dalu a dod i fath o gytundeb. Fel canllaw cyffredinol cysidro 10% ychwanegol ar ben y rhent i dalu trethi cyngor lleol (er dyw hyn ddim yn wir i fyfyrwyr llawn amser), yna 10% ychwanegol ar gyfer nwy, trydan a d?r (efallai mwy na 10% os ydy mwy nag un person yn byw mewn eiddo).

4. Diogelwch Nwy, Trydan a Thn

Mae angen ymchwilio diogelwch nwy,  trydan a thn yn iawn o fewn eiddo ar rent. Cofia i beidio cael dy dwyllo gan addurno modern. Hyd yn oed os ydy eiddo yn edrych yn ddymunol efallai nad yw'n cyfarfod gofynion diogelwch.

Diogelwch nwy a thrydan:

  • Mae'n rhaid i letywr sicrhau fod holl offer a pheirianwaith nwy maent yn darparu yn cael eu cynnal ac mewn cyflwr da a bod gwiriadau diogelwch blynyddol yn cael ei wneud gan rywun sydd wedi'i gofrestru gyda CORGI (Cyngor ar gyfer Gosodwyr Nwy Cofrestredig)
  • Mae'n rhaid i letywr gadw cofnod o wiriadau diogelwch, ac mae'n rhaid iddynt ddarparu hwn i'r preswylwyr o fewn 28 diwrnod o bob gwiriad blynyddol.
  • Mae'n rhaid i letywr sicrhau bod y system drydanol ac unrhyw offer trydanol sydd yn cael ei ddarparu yn yr eiddo, fel popty, tegell, tostiwr, peiriant golchi a twymwr tanddwr yn ddiogel i'w defnyddio. Os ydy'r lletywr yn darparu offer newydd, fe ddylai'r rhain ddod gyda'r llyfryn cyfarwyddiadau.

Diogelwch Tn:

  • Mae'r Ddeddf Tai 2004 yn mynnu bod y lletywr yn gwneud amryw bethau am ddiogelwch tn yn gyfreithiol.
  • Mae'n rhaid bod ffordd ddigonol o ddianc.
  • Yn ddibynnol ar faint yr eiddo, efallai bydd rhaid cael larwm mwg ac offer diffodd tn.

Os ydy'r eiddo yn cael ei gysidro fel T? Lluosol Breswylwyr (ti'n rhannu t? gyda phobl eraill) mae'r lletywr, yn gyfreithiol, yn gorfod:

  • Sicrhau bod yr holl offer nwy maent yn darparu yn cael eu cynnal mewn trefn dda a bod plymiwr wedi'i gofrestru Corgi yn gwneud gwiriad diogelwch bob blwyddyn.
  • Cynnal holl osodiadau trydanol (fel gwifriad gosodedig) ac unrhyw offer trydanol maent yn darparu (fel popty, tegell) a sicrhau fod y rhain yn ddiogel i ddefnyddio
  • Sicrhau bod unrhyw ddodrefn a ffabrig maent yn darparu yn ymateb i reolaeth wrthsafol tn

Cyn i ti symud i mewn, mae'n syniad da i ofyn am y rheolaeth tn ac os oes gen ti unrhyw amheuaeth am y diogelwch yn y t? ti'n rhentu cysyllta gyda dy letywr  neu os ydy dy letywr yn dda i ddim, y cam nesaf ydy cysylltu gyda'r cyngor lleol.

5. Rhestru

Cyn i ti arwyddo'r cytundeb gosod mynna fod y lletywr neu'r asiantaeth yn cytuno rhestr gyda thi. Golygai hyn na alli di gael bai am eitemau sydd ar goll o'r t? neu oedd wedi cael eu cymryd gan breswylwyr cynt. Bydd hyn yn osgoi unrhyw ddadl dros gael dy arian ar gadw yn l.

6. Arian Ar Gadw / Bond

Cytuno gyda dy letywr/asiant mewn YSGRIFEN cyn i ti arwyddo'r cytundeb gosod beth yn union bydd yr arian ar gadw yn ymwneud ag ef.

  1. Dylai'r arian yma ddim cael ei ddefnyddio ar gyfer l traul a gwisgo sydd yn digwydd dros gyfnod o flwyddyn neu ychydig flynyddoedd. Golygai hyn dylai'r lletywr gymryd i ystyriaeth:
  2. Yr oed gwreiddiol, safon a chyflwr unrhyw eitem ar gychwyn y cyfnod preswyl
  3. Cymhareb oes bywyd defnyddiol cyffredinol gyda gwerth yr eitem
  4. Defnydd disgwyliedig rhesymol y fath eitem
  5. Y nifer a'r math o breswylwyr yn yr eiddo
  6. Hyd ddeiliadaeth y preswyliwr

Felly nid yw'r lletywr yn cael codi arian ar ei breswylwyr am y gost lawn o roi unrhyw ran o'i eiddo, neu unrhyw osodiadau: "yn l i'r cyflwr gwreiddiol ar gychwyn y cyfnod preswyl."

7. Osgoi dadleuon dros ddychwelyd arian ar gadw / bond

Dydy dadleuon dros ddychweliad arian ar gadw ddim yn brin a gallai olygu brwydr hir gyda lletywr a hyd yn oed y llys. Er bod rhai o'r pwyntiau hyn yn ymddangos yn eithafol, gall llawer o hyn gael ei osgoi drwy gyfathrebu da gyda lletywr ac asiantaeth dda.

I osgoi unrhyw ddadl y peth gorau i wneud ydy tynnu lluniau trwy'r t? ar gychwyn y cyfnod preswyl, gyda chamera sydd ddim yn ddigidol os yn bosib (gan allai ddadlau bod y rhain yn cael eu golygu). Gall y lluniau hyn brofi cyflwr y t? pan symudais di i mewn ac felly nid all codi arian arnat ti am bethau mae'r preswylwyr cynt wedi'i wneud. Sicrha fod ti'n cael derbynneb am y bond – bydd hyn yn profi fod yr arian wedi cael ei dalu ac yn profi faint sydd wedi'i dalu.

Ar ddiwedd y cyfnod preswyl bydd y lletywr neu'r asiantaeth tai yn archwilio'r eiddo – BYDDA YNA! Os nad wyt ti yno yna mae'n bosib i'r rhai sydd yn gysylltiedig i wneud pethau i fyny ac felly chymryd mwy o dy arian am bethau ti ddim wedi'i wneud.

8. Talu Biliau

Mae talu biliau yn rhan bwysig dros ben o unrhyw brofiad rhentu. Mae creu cyfrif ar y cyd efo dy gyd breswylwyr yn ffordd wych i sicrhau fod y biliau yn cael eu talu ar amser a bod pawb yn talu'r un peth. Golygai hyn fod biliau yn cael eu talu drwy ddebyd uniongyrchol ac yn golygu nad oes rhaid i un person fynd i'r swyddfa bost bob mis.

9. Dewis asiantaeth gosod tai

Bydd nifer o bobl ifanc proffesiynol / myfyrwyr yn mynd drwy asiantaeth gosod i rentu eiddo. Mae dewis yr asiantaeth gywir i ti yn bwysig iawn. Os wyt ti'n adnabod ffrindiau neu deulu sydd yn rhentu yn yr ardal yn barod neu yn byw yn gyfagos, yna siarad gyda nhw am gyngor ar ba asiantaethau yn yr ardal sydd fwyaf dibynadwy. Paid gwneud y camgymeriad o gael ffydd yn yr holl wybodaeth ddryslyd sydd yn dod o'r rhai sydd yn gweithio i'r asiantaethau gan y bydda nhw'n ceisio'u gorau i gael ti i rentu efo nhw.

Cofia ofyn sut berthynas sydd rhwng y lletywr a'r asiantaeth gosod, pwy sydd yn delio 'r problemau o fewn y t?? Ydy nhw'n tueddu i wthio unrhyw broblemau rhwng ei gilydd. Y bobl orau i ofyn am asiantaethau ydy'r rhai sydd yn byw yn y tai ti'n edrych arnynt yn barod gan mai nhw fydd fwyaf tebygol o roi'r atebion gwir i ti.

10. POB LWC YN RHENTU

Paid rhoi gorau iddi na derbyn er mwyn derbyn – mae pobl ifanc efo'r un hawliau a phawb arall!

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.