Arian: Beth Wyt Ti'n Feddwl O'n Gwybodaeth?
Fel sydd wedi'i gyhoeddi cynt, rydym yn adolygu'r adran wybodaeth CLICarlein ac yn cychwyn gydag arian.
Mae Arian yn gwneud i'r byd droi meddai Liza Minelli (Money Makes The World Go Round) ond yna mae'r pethau gorau mewn bywyd am ddim meddai Luther Vandross (The Best Things In Life Are Free), ond nid ydym yn gofyn am eu cyngor nhw, rydym yn gofyn ichi, annwyl ddarllenwyr CLICarlein yn ogystal â'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol a sefydliadau eraill i edrych ar ein hadran arian a rhannu eich barn.
Gall ddarganfod ein hadran arian yma http://www.cliconline.co.uk/cym/gwybodaeth/arian/. Mae'n cael ei dorri i lawr i wyth isadran o…
- Cyllidebu
- Arian Poced
- Arian Wrth Ddysgu
- Arian Tra'n Gweithio
- Budd-daliadau
- Banciau a Chymdeithasau Adeiladau
- Dyled
- Yswiriant
Diweddariad #4
Cyfarfûm gyda'r bobl hyfryd yng Ngwasanaeth Cynghori Ariannol yn ddiweddar, ac rydym wedi bod yn mynd drwy ychydig o'u stwff nhw a pheth o'n stwff ni ac mae gennym gwpl o gwestiynau i bawb sydd yn hwylio ar long CLIC.
Ydy'r term arian poced yn dal i gael ei ddefnyddio? Mae gennym ni adran gyfan arno ond rydym eisiau gwybod os wyt ti yn dal i'w alw'n hynny?
Ydym ni angen adran ar yswiriant ffôn? Nid oes un ar hyn o bryd yn ein hadran yswiriant... meddyliau?
Dyma gyfrifiannell arbed arian. Ydy hwn yn helpu i gyfrifo sut i arbed arian. Fyddet ti yn hoffi gweld pethau fel hyn yn yr adran arian? www.moneyadviceservice.org.uk/cy/tools/cyfrifiannell-torrin-ol
Beth am gyfrifiannell ymestyn arian, sydd yn ymestyn dy arian ymhellach? https://www.moneyadviceservice.org.uk/cy/tools/cyfrifiannell-estynnydd-arian
Gad i ni wybod os oes gen ti unrhyw ddiweddariadau neu os wyt ti'n meddwl fod y wybodaeth yn iawn.
Mae croeso i ti adael sylwad yma neu ar yr adrannau eu hunain neu ar y Grŵp Golygyddol Cenedlaethol CLIC, hyd yn oed os mai dim ond dweud "mae'n iawn" yn sydyn wyt ti. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw adborth.
Ar y We – Gwybodaeth Diogelwch
MeicCymru.org
Adran Gwybodaeth
Erthygl Berthnasol: Beth Wyt Ti'n Feddwl O'n Gwybodaeth?
DELWEDD: austinevan trwy Compfight cc







