AR-OLWG - Y Cychwyniad!
English version
Fel mae’r rhai ohonoch oedd yn y Preswyl Cynllunio yn fis Mai yn gwybod, mae CLIC yn cychwyn Arolygiaeth Gwybodaeth Ieuenctid!
Felly beth ydy Arolygiaeth Gwybodaeth Ieuenctid?
Y syniad yw gwneud yn siŵr fod y wybodaeth ti’n ei gael ar-lein, yn y siop wybodaeth leol ac o nifer o lefydd eraill, yn gyfoes, yn gywir ac o ddefnydd. Rydym wedi recriwtio grŵp o Arolygwyr Ieuenctid rhwng 11 a 25 oed i wneud hynny.
Cawsom ein Preswyl dros nos AR-OLWG/I-SPECT cyntaf yn Nantyr ar ddydd Gwener 30 a dydd Sadwrn 31 Gorffennaf. Dyma le cawsom yr enw AR-OLWG/I-SPECT. Yn y preswyl cawsom efelychiadau canu tafarn gwych (mewn ffashiwn Shooting Stars); gweithdai a chynllunio sut oeddem yn mynd i symud ymlaen efo pethau; taith gerdded dros draphont dŵr yn Llangollen a llwyth o fwyd! Diolch pawb am y gwaith caled y penwythnos hwnnw.
Rydym yn mynd i roi pecyn hyfforddiant at ei gilydd i’n Harolygwyr Ieuenctid; ymweld ag a marcio Gwasanaethau Gwybodaeth i bobl ifanc ar sut maent yn gweithio; rhoi cyfle i bobl ifanc dros Gymru i gymryd rhan mewn datblygiad cenedlaethol fydd yn dda i dy CV a dysgu, yn ogystal bod yn gymdeithasol a hwyl! Mae llawer o fuddion eraill mewn bod yn rhan i ddarganfod mwy rho gyfle arni.
Bydd preswyl arall tuag at ddiwedd y flwyddyn felly byddaf yn gadael i ti wybod y diweddaraf.
Os hoffet wybod mwy neu bod yn ran ohono, e-bostia Claire@cliconline.org.uk
Delwedd: Arpingstone