Ar Beth Wyt Ti'n Wrando?
English version
Mae wedi bod yn gryn amser ers i ni gael cysylltiad bach twt rhwng yr holl wefannau CLIC, felly beth am gychwyn un!
Ar ba gerddoriaeth wyt ti'n gwrando ar hyn o bryd?
Unrhyw albymau newydd ti wrth dy fodd efo? Oes sengl newydd ti eisiau dweud wrth bawb amdano?
Gad sylwad isod ac os wyt ti'n cynnwys linc i YouTube ayb byddwn yn mewnosod nhw fel bod pawb yn gallu'i gwylio.
Fi gyntaf felly? Gan mai fi sydd wedi cychwyn hwn ia?
Iawn, mae albwm newydd Mastodon, The Hunter, yn fy nghlustiau mewn cylch parhaol yn bresennol. Dwi wedi cynnwys y trac cyntaf o’r albwm, Black Tongue.
Felly gad i ni glywed rhai ti o, a byddwn yn cynnwys beth mae pawb yn gwrando arno yn y CLICzine, rhifyn 5, fydd allan fis Tachwedd.