Antur Yn Antartica
Yn ddiweddar bu'r cyflwynydd teledu Ben Fogle, rhwyfwr olympaidd James Cracknell a Doctor Ed Coats yn cymryd rhan mewn ras ar draws Antartica Yn Ras Amundsen Omega 3.
Fe deithion nhw dros 495 o filltiroedd i bwynt isaf y byd. Gyda thymheredd o -50C roedd hi’n sialens enfawr. Doedd dim hawl ganddynt dynnu chot am fwy na 30 eiliad neu byddai’r oerfel yn effeithio gormod arnynt.
Roeddent yn rasio yn erbyn pobl oedd wedi bod yn sgio ers 3 mlwydd oed ac yn hollol gartrefol dan yr amodau erchyll oedd yn disgwyl amdanynt.
I baratoi am yr her yma buon nhw yn aros mewn siambr a oedd yn gallu creu amodau tebyg i’r rhai yn Antartica am 24 awr. Hefyd buon nhw mewn pwll o ddwr rhewllyd i gael y profiad o symptonau Hypothermia.
Cymrodd 12 mis i baratoi ar yr wythnos ymarfer doedd pethau ddim yn edrych yn dda deodden nhw ddim yn gallu hyd yn oed cynnau ei gwresogyddion tan a redden nhw wedi treulio dros hanner awr yn cod'r babell!
Roedd yna ddigon o resymau i beidio mynd yr ofn mwyaf wrth gwrs marwolaeth neu golli rhannau’r corf i frostbite ond roedd digon o frwdfrydedd a dyfalbarhad ganddynt i frwydro ymlaen.
Mae James a Ben gyda digon o brofiad gyda'i gilydd o rwyfo ar draws y Cefnfor Tawel a bron colli’i bywydau ar ol cwympo mewn i’r dwr rhewllyd.
Ond fe aethant ymlaen yn brwydro’r oerfel ac yn sgio am 14 awr y dydd, a chael dim ond 4 awr o gwsg y nos.
Ond yn y diwedd ar ol nifer o eiliadau peryglus a nosweithiau di-gwsg fe ddaeth y tim yn ail ac am unwaith roedd James Cracknell yn hapus gyda’r fedal arian a nid y fedal aur fel mae’n gyfarwydd gyda.
Profiad arbennig oedd hi iddynt ac un arall i'w roi yn y portffolio. Ond nid nhw oedd yr unig lwyddiant yna fe wnaeth dyn dall orffen y ras hefyd gan dorri record wrth wneud.
Mae’r grwp o bobl yn dilyn Syr Robert Scott yn haeddu llawer o edmygedd am eu llwyddiant anhygoel.






