Angen Cerddorion Ifanc I Ffilm!
Mae gwneuthurwyr ffilm yng Nghymru yn chwilio am gerddorion Cymraeg ifanc sydd eisiau bod yn sr.
Mae Big Pond Productions, yn gweithio gyda Marc Evans (Snow Cake) a Jon Finn (Billy Elliot) yn saethu ffilm yng Nghymru'r haf hwn. Mae’r ffilm, Hunky Dory, gyda band roc ifanc a cherddorfa ysgol ynddo ac os wyt ti’n meddwl dy fod di’n berffaith i fod yn un o’r rhain, mae clyweliadau yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd ar yr 2il, 8fed a 9fed o Fai.
Maen nhw angen pobl sydd yn edrych oedran ysgol uwchradd. Nid oes rhaid cael profiad action, er byddai’n ddelfrydol i’r band roc gael acennau De Cymru gan fydd ychydig o rolau siarad nhw.
Bydd pythefnos o recordio clywedol yn hwyr yn fis Mehefin neu Orffennaf, ac wythnos o saethu ar y set rhyw bryd yn ystod yr haf.
Os oes gen ti ddiddordeb, neu yn adnabod rhywun fyddai, gwna gais gan fod clyweliadau wythnos nesaf.
Gwybodaeth lawn, a manylion ar sut i ymgeisio, isod: