Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Amser Siarad?

Posted by Anwenkyatic from Cardiff - Published on 07/02/2014 at 13:15
0 comments » - Tagged as Creative Writing, Health, People, Topical

  • siarad
  • ttt

English Version // Yn Saesneg

Nid yw'n ddiwrnod Time To Talk bellach. Dim ond dydd Gwener ydy hi. Efallai fod hi'n rhyw fath o wyliau cenedlaethol mewn rhyw wlad bell na fyddaf byth yn ymweld ag ef, neu efallai'n ben-blwydd ar rywun enwog, ond ar y cyfan, mae'n ddiwrnod arferol. A dyna pam mai heddiw dwi'n gwneud hyn. Gallwn i wedi gwneud hyn ddoe, pan roedd pawb yn gwrando, ond wnes i ddim. Fe esboniaf pam wedyn.

Fel soniais ddoe, mae ymwybyddiaeth iechyd meddwl yn achos sydd wedi bod yn bwysig iawn i fi am flynyddoedd nawr. Ond, beth wnes i ddim siarad amdano  yn iawn oedd pam. Soniais i ddim am y manylion am pam bod y pwnc iechyd meddwl wedi cael effaith mor gryf arnaf. Fe gyfeiriais tuag at bryder, a siarad yn fyr am wellhad, ond ni ddywedais am beth roeddwn i'n gwella. Mae'n eironi blinedig am fy nghymeriad: dwi bob tro yn gwbl barod i gyfaddef fy mod i'n un o’r 25%, ond dwi'n ofni esbonio sut.

Wel. Dyma sut.

Gall dadlau fod hyn wedi cychwyn pan oeddwn i'n 13. Dwi ddim yn gwybod yn iawn; nid oes gen i lawer o gof o amser cyn hynny, ac mae blynyddoedd fy salwch yn cael ei gynrychioli fel niwl aneglur yn fy meddwl. Gallaf gofio amlinelliadau amwys o ddigwyddiadau a'r argraff o sut roeddwn yn teimlo, ond dim ond hynny. Mae'n fecanwaith hunanamddiffyn, dyma ddywedodd fy therapydd cyntaf wrtha i. Dyw'r ymennydd ddim yn cofio beth mae'n meddwl bydd yn achosi poen wedyn, ac roedd fy ymennydd yn gwybod bydda'n boenus meddwl am y blynyddoedd yno wedyn. Felly, mae wedi dileu nhw. Efallai nad ydynt wedi digwydd, heblaw am y ffaith eu bod wedi ysgrifennu yn fy ngwaed a synapsau. Fedra i ddim cofio nhw, ond dwi dal yn gallu teimlo nhw.

Pan oeddwn i'n 13. Mae hynny yn amcangyfrif gweddus, oherwydd dyna pryd gynyddodd y bwlio tu hwnt i unrhyw debygrwydd o reolaeth. Dwi wedi bod yn fyr a gydag agwedd ac yn llawer rhy amleiriog, ac yn yr ysgol gynradd roedd hynny wedi bod yn beth da. Roeddwn i'n wahanol, ac roedd hynny'n iawn. Ond yn yr ysgol uwchradd daeth hyn yn albatros o gwmpas fy ngwddf. Roedd fy ymwybyddiaeth o fytholeg Roegaidd yn boen, nid yn fantais. Fy nghariad o farddoniaeth yn faich ac nid yn ddawn. Ers wythnos gyntaf yn yr ysgol uwchradd, roeddwn i'n sefyll allan. Roeddwn yn alltud. Waeth i mi sefyll ar ben pedestal a gwaeddi am y peth ddim. Nid oedd posib ei guddio. Gyda fy acen fonheddig anfwriadol a fy nhuedd i ddefnyddio geiriau oedd yn fwy cyfoethog yn ei sill na'i ddealltwriaeth, gallwn i ddim cogio bod yn normal. Ac roedd pobl yn gwybod hynny. Am flynyddoedd, roeddent yn galw enwau arnaf. Cefais fy maglu yn y coridorau. Roedd pobl yn disgwyl yng ngiatiau'r ysgol gyda'u ffrindiau dim ond i ddilyn fi hanner ffordd i lawr y stryd i'm mhoenydio. Roedd athrawon yn galw hyn yn 'brofocio'. Roeddwn i'n gwybod yn well.

Ym mlwyddyn 9, aeth pethau'n waeth. Roeddent yn poeri arnaf. Cefais fy ngwthio i mewn i'r ffordd. Grwpiau o wynebau nad oeddwn yn adnabod yn fy nilyn yn y coridorau, ond roeddwn i'n adnabod nhw'n dda o'r pethau roeddent yn fy ngalw. Dysgais mwy o eiriau yn y flwyddyn honno nag oeddwn erioed eisiau gwybod. Ni allaf anghofio'r geiriau yna byth. Ar un cyfnod, gwnes restr o bawb oedd yn fy mwlio yn rheolaidd, gyda'r bwriad o'i roi i athro. Roedd y rhestr yn cynnwys dros 50 o enwau ac roedd gen i ormod o gywilydd i'w ddangos. Roeddwn i wedi blino, ac roedd gen i gywilydd. Gan edrych yn ôl, prin gallaf gredu mod i erioed wedi meddwl mai fi oedd ar fai. Fy mod i'n haeddu hynny. Bod y ferch yna oedd dwy flynedd yn hŷn yn gyfiawn i geisio fy ngwthio i lawr y grisiau gan nad oeddwn i fel pawb arall. Bod yna reswm teg i'r grŵp o 15 bachgen yn y blynyddoedd uwch i ddilyn fi o gwmpas yr ysgol a gwaeddi pethau rhywiol arnaf i fel bod pawb yn gallu clywed ac yn gwybod mod i'n annymunol, a'u bod yn gwneud hyn am fy mod i'n ffrîc. Nid am eu bod nhw'n greulon ac yn ddialgar, ond am fod i'n hyll. Roeddwn i'n wahanol. Fe ddylwn i deimlo cywilydd, ac roeddwn i. A hoffwn ddweud nad barhaodd hyn yn hir iawn. Hoffwn ddweud fod athro neu oedolyn wedi cael gwybod, a bod rhywun wedi stopio hyn. Ond aeth hyn ymlaen am dair blynedd, ac erbyn i mi droi'n 16, doeddwn i ddim yn gwybod pwy oeddwn i bellach.

Dwi'n meddwl bod rhan ohonof yn gwybod nad oedd yn beth normal i esgusodi fy hun o wers er mwyn gallu cloi fy hun mewn toiled a chrio. Mae'n rhaid bod i'n gwybod nad oedd yn normal i aros mewn gwers nes i'r coridorau glirio fel y gallwn osgoi cyfarfod llygaid unrhyw un fydda'n edrych arnaf i gyda chasineb. Ond doeddwn i ddim yn normal, nac oeddwn, ac roedd pawb yn gwybod hynny, ac felly daeth y pethau yma yn rhan o'r clytwaith. Roeddent yn annormal, ond roedd fy hoffter i o farddoniaeth y 19eg ganrif a'm acne yn hefyd. Nid oedd yn normal i deimlo pwysau dros fy mrest nad oedd yno, ond nid oedd yn normal bod yn 4 troedfedd 8 chwaith, felly beth oedd y gwahaniaeth?  Beth oedd un peth arall i wahaniaethu fi? Roeddwn i'n ei ychwanegu i'r pentwr o bethau oedd yn gwneud fi'n ffrîc, ac roeddwn yn parhau, yn cydweddu hyn i mewn i'm mywyd fel staen inc ar sidan, ac yn gadael i bopeth droi'n ddu. Roeddwn yn gadael iddo ddiferu drwy ffabrig fy mywyd dyddiol, ac yn gwylio wrth iddo orchuddio popeth oedd yno. Roeddwn yn sefyll i'r neilltu wrth iddo wneud popeth yn dywyll, a phendronais pryd byddai golau i'w weld eto. Pendronais os bydda hyn yn digwydd o gwbl.

Mae'n beth anodd i ddisgrifio, iselder. Wyt ti'n meddwl mai bod yn drist ydyw? Bod yn drist am fisoedd a misoedd, i gyd ar yr un amser, staeniau dagrau ar y glustog ac yn bloeddio gyda galar allan o'i le. Ond nid dyna ydyw. Mae hynny'n rhy concrid. Mae iselder yn haniaethol. Mae'n wactod. Mae'n storm sydd yn cychwyn fel glaw mân ac yn ehangu i mewn i gorwynt nes bod popeth wedi'i olchi i ffwrdd, a ti'n cael dy adael fel agendor mawr. Nid oes dim ar ôl. Mae iselder yn syllu ar waliau am oriau, yn ceisio mwstro'n flinedig yr ewyllys i deimlo rhywbeth, unrhyw beth – mae iselder yn ddim byd. Mae'n gymaint o lwyd ag yr ydyw yn ddu, ac mae'n gafn. Dyna'r ffordd gorau gallaf ei ddisgrifio. Mae'n tynnu ti'n ddarnau ac yn dy roi'n ôl at ei gilydd gyda dim ar y tu mewn, ac mae'n gwneud i ti wylio o'r ochrau. Ti ddim yn gyfranogwr actif yn dy fywyd. Ti'n wyliedydd, yn gwylio wrth i bethau ddigwydd ond yn ddwl; ti ddim yn teimlo, ti ddim yn poeni, a ti ddim yn crio. Nes byddi di, wrth gwrs, gan fod iselder hyd yn oed ddim yn gallu gwneud robot allan ohonot ti, a pan mae'n cael ei ryddhau, mae'r catharsis yn ddychrynllyd. Yn ysgytiol. Mae'n crio am wyth awr a fyr o anadl am naw; mae'n ddagrau sydd yn dod mor sydyn fel nad oes posib cyfri nhw ar fysedd y dorf sydd ddim yn poeni. Mae'n gwybod bod popeth yn anghywir, ond mai ti ydy'r peth mwyaf anghywir o bopeth. Mae'n gwybod dy fod di'n ffieidd-dra. Dy fod di'n ddi-werth, yn wag, a ti'n haeddu bod. Mae iselder yn ffrind gorau ac yn elyn gwaethaf. Mae'n geudwll ac yn fynydd. Mae'n bopeth ac yn ddim.

Mae'n anodd disgrifio'r pyliau o banig hefyd. Dwi'n siŵr bod y mwyafrif ohonoch wedi cael un, ond efallai nad oeddech chi'n ymwybodol. Mae fel trawiad y galon, ond yn dy feddwl hefyd. Mae'n wenwyn , yn gwneud i bopeth bigo nes medri di ddim anadlu a ti'n plygu drosodd, dy ben a dy galon yn powndio a ddim yn anadlu, ddim yn anadlu o gwbl nes iddo orffen. Yn ffodus, dydy pyliau o banig ddim wedi effeithio fi mewn gwirionedd; roedd y pryder teimlais yn llai siarp na phwl o banig. Nid oedd yn cymryd fy anadl ac yn gwneud i'm nghalon frifo. Yn lle hyn, roedd yn bwysau marw. Roedd yn eistedd dros fy ysgwyddau a chawell yr asennau. Roedd yn brifo, ond byth ar yr un amser. Roedd yn boen yn hytrach na chlwyf trywanu. Roedd yn friw melyn a byth yn gwaedu, ond roedd yn gyson. Roedd fy nghalon bob tro'n rasio. Roedd fy mhen bob tro'n hela meddylion – 'mae'r person yna yn edrych arnat ti am dy fod di'n hyll', 'mae'r dyn yna yn casáu ti ac mae'n gwybod bod pawb arall yn hefyd', 'os wyt ti'n mynd i lawr y coridor yna, bydd rhywun yn dod o hyd i ti ac yn rhedeg ar dy ôl', 'os wyt ti'n mynd ar y bws yna ar ben dy hun yna ti am ofyn am y ticed anghywir a bydd pawb yn chwerthin arnat ti' – roedd fy ymennydd yn fy mradychu, a doeddwn i ddim yn gwybod. Doeddwn i ddim yn gwybod bod y meddyliau yma yn afresymol. Roeddwn yn meddwl mod i efo pob rheswm rhesymol yn y byd i ofni popeth, gan fy mod i. Roeddwn i'n meddwl mai hunangadwraeth oedd yn gwneud i'm wythiennau guro a'm mhen mrifo. Feddyliais i erioed mai salwch oedd ef.

Dim ond ar ôl mwstro'r dewrder i ddweud wrth y prifathro am y bwlio o'r diwedd – a dim ond ar ôl i mi gael chwalfa nerfol lle doeddwn i ddim yn gallu mynd i'r ysgol – sylweddolais fod rhywbeth o'i le. Roeddwn i wedi meddwl unwaith bydda'r perygl wedi pasio, yna bydda'r teimladau o ddiffyg hunanwerth yn hefyd. Nid oedd rheswm i grio nawr, felly pam mod i'n wylo am oriau pob dydd? Pam doeddwn i ddim yn gallu cael allan o'r gwely ar benwythnosau? Pam oeddwn i'n llawn arswyd oer, ceg sych, pob tro roeddwn i'n gadael y tÅ· a gweld rhywun yn cael cipolwg arnaf i? Gallwn i wneud dim. Cyfrais gamau mewn grwpiau o 4 ac wylais ar ôl ysgol ac atal dweud yn ystod gwersi, a doeddwn i ddim yn fi. Sylweddolais fod i wedi newid. Roeddwn i wedi dod yn rhywun arall, a doeddwn i ddim yn gwybod pwy oedd hynny.

Dwi ddim am fynd i fanylder am y driniaeth. Yn y ddwy flynedd ar ôl yn yr ysgol, roedd gen i bedwar therapydd. Yn araf bach roeddwn i'n gallu ymdopi'n ddigon da i fynd i'r brifysgol – er roedd doctoriaid ac aelodau'r teulu yn dweud efallai nad oedd yn syniad da iawn – ac roeddwn i'n gwneud yn dda yn fy mlwyddyn gyntaf. Roeddwn i'n dal i grio ac roeddwn i dal yn ofn, ond codais. Es i'r darlithoedd. Gwnes fy ngwaith. Roeddwn i'n jocan. Roeddwn i'n fi. Roedd bob diwrnod yn anodd ac roeddwn i'n ymwybodol pob munud fod hyn yn anodd, ond roedd gen i'r penderfyniad i ddod allan yr ochr arall. Roeddwn yn gweithio trwy bob eiliad ac yn ymdrechu drwy bob awr, ac yn goroesi pob dydd.

Ac yna doeddwn i ddim yn iawn ddim mwy. Yn sydyn, doeddwn i ddim yn fi ddim mwy. Rhoddodd y doctor fi ar Citalopram – 10mg i gychwyn, yna 20mg, yna 30mg – ac aeth pethau'n waeth.  Cafodd cyfnod hypomanig ei gychwyn oherwydd y ddos uchel o wrthiselyddion. Eto, mae'n anodd esbonio. Mae mania yn un o'r pethau mwyaf brawychus gall person gael profiad ohono. Mae hypomania efallai hanner mor frawychus, ond yn dal yn ofnadwy. Ti'n teimlo'n rhy dda. Mae lliwiau yn rhy liwgar. Mae'r haul yn llosgi, hyd yn oed ar foreau'r gaeaf. Mae amser yn rhy sydyn. Mae popeth yn 'rhy'. Rhy uchel. Rhy ddisglair. Rhy wych. Ac mae popeth yn ddi-oed. Gwariais dros £1,000 mewn llai nag dau fis, gan fod fy nyfarniad a'm hataliad wedi mynd.

Dwi ddim am fynd i fanylder, gan fod yna bobl sy'n parhau i deimlo'r niwed – difethais gyfeillgarwch a difrodi ffydd, a chreda di fi, dwi'n dweud sori bob dydd, nid oes yr un awr yn pasio pan dwi ddim yn meddwl amdano – ond roedd rhaid i mi fynd i'r ysbyty, ar fin gadael y brifysgol, a dyna pan wyddwn os oeddwn i am wella – ac arglwydd, roedd angen i mi wella – yna roedd rhaid cael mwy nag therapi a 30mg o rywbeth oedd yn ceisio cael cydbwysedd yng nghemeg fy ymennydd ac yn y diwedd yn ei dipio'r ffordd anghywir.

A dyna le mae pethau'n dod i ben. Dyna ble gychwynnodd y gwellhad. Bob dydd, roeddwn i'n mewnanadlu ac allanadlu ac roeddwn i'n brifo. Nid brwydr, ond rhyfel, oherwydd am bob concwest a buddugoliaeth – bob tro roeddwn i'n gadael y tÅ· ac yn chwerthin ac yn hoffi fy hun – roedd yna drechiad. Roedd yna amser bob tro pan fydda'r Fi gallwn i wedi bod yn dod yn gyferbyniad hollol i'r Fi oeddwn i nawr, ac nid allwn anwybyddu'r ffaith byddwn i bob tro'n gynnyrch pobl eraill. Roeddwn i wedi cael fy nifrodi ganddyn nhw, ac er mod i'n rhoi fy hun yn ôl at ei gilydd, doeddwn i ddim bob tro'n gwybod pa ddarnau oedd yn ffitio i mewn i'w gilydd. Byddwn i bob tro yn beth roedden nhw wedi'i wneud ohonof i, ac roeddwn i'n gofidio nhw am hyn. Roeddwn i'n casáu nhw. Dwi dal yn, ac mae gen i gywilydd o hynny. Fe ddylwn i faddau, ond mae cemeg fy ymennydd yn parhau i fod wedi'i dadwreiddio ac fel chwyn pan ddylai fod yn blaguro a blodeuo, ac ni fyddant byth yn ennill fy maddeuant. Efallai mai'r casineb yma ydy'r rheswm dwi'n dal i ysgwyd pan fyddaf yn mynd ar siwrne trên ar ben fy hun, ac efallai dyna pam dwi'n dal i deimlo yn wag pan mae'n dywyll ar y tu allan a'r tu mewn.

Ond nid yw'n dywyllwch bob tro, ar y tu allan na'r tu mewn, a dwi'n fwy rhydd bob dydd. Bob dydd, er bod fy ymennydd yn parhau i fod yn ddysgl ar gyfer beth mae eraill wedi gwneud i mi deimlo, dwi'n teimlo mwy o heddwch. Dwi'n mynd ar y bws i'r gwaith ac yn ysgrifennu ac yn gwenu a dwi bob tro'n ofn, bob tro'n ychydig yn wag, ond yn llawn o'r balchder a'r hapusrwydd sydd yn dod gyda buddugoliaethau bach. Llwyddais raddio gyda 2:1, ar ôl gorffen yr ail flwyddyn gyda chyfartaledd o 2:2 isel oherwydd fy salwch a chyfartaledd o Gyntaf yn y drydedd flwyddyn, a fi wnaeth hynny. Fi wnaeth hynny. Dechreuais weithio'n llawn amser a theithio i ymweld â ffrindiau ledled y wlad ar ben fy hun ac es i dramor ac anadlais, i mewn ac allan, pob dydd, a fi wnaeth hynny. Fi wnaeth hynny i gyd. Nid er gwaethaf yr anrhefn cemegau yn fy meddwl, ond efallai oherwydd hynny.

Dwi ddim yn waeth oherwydd fy salwch. Dwi ddim wedi fy mhylu na'n llai, nag â chywilydd na'n annynol, a fi ydy'r 1 ymhob 4. Fi ydy'r chwarter, y 25%, a ni fyddaf byth yn anfodlon cyfaddef hynny, oherwydd bydda gwadu hynny yn gwadu pa mor anhygoel ydy fy holl gyflawniadau yn wyneb hynny. Dwi yn rhy falch o'm siwrne i ddweud celwydd am y llwybr dwi wedi bod arno.

A dyna pam dwi'n ysgrifennu hwn heddiw, a ddim ddoe. Am nad ydw i eisiau siarad amdano dim ond pan mae gofyn am hynny. Dwi ddim eisiau bod angen diwrnod arbennig un-pwrpas i'r achos i wneud i fi ddweud 'dwi'n sâl, a dwi'n gwella'. Dwi ddim eisiau disgwyl unwaith y flwyddyn i ddweud 'dyma fi'. Dwi yn fi 365 diwrnod y flwyddyn, a dwi wastad yn brwydro ac yn ennill ac yn colli. Rhai diwrnodau, fi ydy'r weithred o gasáu'r holl atomau sydd yn gwneud fi. Dwi'n ofni a dwi'n cuddio, a dwi'n flin. Ond rhai diwrnodau, fi ydy'r weithred o ofyn am baned o de a gofyn cwestiynau a gwneud i eraill chwerthin, a dwi ddim yn teimlo cywilydd nac embaras am y cyferbyniad rhwng y diwrnodau. Dwi'n ofni'r ymwybyddiaeth bod y cyferbyniad am leihau un dydd, ac yn dychwelyd i fod yn gragen wag mewn byd sy'n llawn o bethau fydd yn dychryn fi. Ond dwi hefyd yn falch o'r ymwybyddiaeth byddaf yn dychwelyd i'r byd go iawn ar ôl hynny, a dwi ddim yn teimlo cywilydd o'r un o'r ffeithiau hynny.

Ac mae'n wirion. Mae'n wirion bod postio hwn yn achosi cymaint o ofn. Wrth i mi deipio hwn, mae fy mysedd yn dechrau crynu a'm hwyneb yn dechrau poethi a dwi'n teimlo fel bod rhywun yn procio fy nhu mewn yn tynnu nhw'n ddarnau. Hyd yn oed nawr, ar ôl i hwn gael ei bostio, mae fy nghalon yn rasio a'm nwylo'n crynu, am fy mod i'n teimlo fy mod i'n datgelu cyfrinach. Dwi'n teimlo nad yw'n beth doeth i siarad am hyn. Dwi'n teimlo na ddylai bobl ddarllen y geiriau yma dwi'n ysgrifennu – fy mod i'n bod yn rhy frwnt a gonest – a dydy hynny ddim yn wir. Dwi'n bod mor onest ag rwyf angen bod. Dwi yn bod.

Felly, dyma fi. Dyma fi yn siarad.

Nodyn is-olygydd i ddarllenwyr: Os wyt ti angen help neu gyngor o gwbl ar iselder, pryder, bwlio, neu broblemau eraill, cysyllta gyda Meic ar-lein, ar y llinell gymorth ar 080880 23456, neu neges testun i 84001. Mae'r cyngor am ddim ac yn gyfrinachol.

Perthnasol:

Erthygl: #timetotalk

Erthyglau am Iselder

Erthyglau am Bryder

Erthyglau am Fwlio

Gwybodaeth – Iechyd Emosiynol a Meddyliol

Sefydliadau Iechyd Meddwl a Lles

Delwedd: time-to-change.org.uk/talkday ac ashley rose trwy Compfight cc

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.