Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Amlygu: Siôn Corn

Posted by Dan (Sub-Editor) from Cardiff - Published on 21/12/2010 at 11:28
0 comments » - Tagged as Culture, Festivals, Topical

  • Krampus
  • Krampus2

English version

Wyt ti eisiau gwybod beth mae Siôn Corn yn cadw yn ei sach? Nid anrhegion; mae’n cadw'r rheini yng nghefn y car llusg. Na, mae’r sach siâp plentyn yna ar ei gefn efo pwrpas llawer fwy sinistr...

Rhybudd: Os wyt ti’n hapus yn dy gred fod Siôn Corn yn ddyn llawen fyddai byth yn brifo neb, paid darllen ymhellach. Mae’r darn hwn yn dangos cefndir tywyll Sant Niclas, ac efallai bydd yn gwneud i ti ailfeddwl dy obeithion bod yr hen Santa yn dod i mewn i dy lofft ar Noswyl y Nadolig. Dwi wedi rhybuddio ti.

*

Fel plentyn roeddwn yn arfer gosod trapiau i Siôn Corn. Tybiaf fy mod i wedi bod yn sgeptig erioed, ac roedd llwyddo i ddal Siôn Corn (gyda phelen o linyn wedi’i glymu i geir bach oedd wedi’u gosod allan yn ofalus) yn ffordd dda iawn o brofi ei fodolaeth.

Yn anffodus mae Siôn Corn yn ddiawl craff ac roedd bob tro yn llwyddo i osgoi’r trapiau yn fedrus iawn, ac roedd hyn yn ei wneud yn fwy diddorol. Pwy oedd y dyn tew cyfrinachol yma oedd yn osgoi trapiau a larwm lleidr? Sut oedd o’n gwybod lle roeddwn i’n byw? Doedd hi ddim yn beryglus i neidio pen-ôl yn gyntaf i mewn i le tân yn ystod mis oeraf y flwyddyn?

Wrth ystyried y benbleth o Siôn Corn doedd y stori oedd wedi'i hadrodd i mi ddim yn gwneud synnwyr...

Mae’n rhaid i ti adael hosan enfawr i Siôn Corn roi anrhegion ynddo

Pam hosan enfawr? Iawn, mae’n well nag hosan maint arferol, ond mae’n dal yn wirion dros ben. Pam ddim gadael bocs neu rywbeth?

Mae Siôn Corn yn rhoi glo i blant drwg.

Fel Cymro, fe ddylai ti wybod pa mor bwysig ydy glo fel adnodd: mae’n rhoi egni a gwres, dau beth sydd yn werthfawr iawn yn y Gaeaf. Dwi'n hoffi defnyddio siarcol i arlunio  hefyd, ac mae gen i focsys ohono. Felly beth os ydw i’n oer neu eisiau arlunio rhywbeth â oes rhaid bod yn ddrwg? Mae glo yn swnio fel peth ofnadwy o anghyffredin i gael fel cosb. Os mai fi fyddai Siôn Corn byddaf yn gadael baw ci yn dy hosan.

Sut mae’n diffinio plant ‘drwg’ a ‘neis’?

Nid yw moesoldeb yn bwnc du a gwyn bob tro. Dychmyga dy fod di’n cerdded pasio trac trên ac yn gweld fod doctor (sydd yn rhoi i elusennau, yn gweithio yn yr êamser i newid cyfeiriad y trên ac achub o, ond ar y trac arall mae deg o ddynion drwg sydd wedi dianc o’r carchar. Wyt ti’n gadael i'r dynion drwg farw er mwyn achub y doctor, neu wyt ti’n gadael i’r doctor farw a gadael iddyn nhw ddianc yn ôl i gymdeithas? Mae’n benbleth moesol. Hoffwn i wybod yn union sut byddai Siôn Corn yn barnu’r canlyniadau ‘drwg’ a ‘neis’ y fath senario.

Corachod

Be ddiawl? Dwi wedi gweld y Lord of the Rings a fedrai ddim dychmygu Legolas yn eistedd mewn iglw yn gwneud teganau. Hobbits, efallai, ond yn bendant dim corachod.

Legolas

Roeddwn i’n amheus iawn o gychwyniad y stori Siôn Corn, gan nad oedd pethau yn gwneud synnwyr i mi. Felly ymchwiiaisl i mewn i’r peth i weld os gallwn i wneud synnwyr ohono, a darganfod rhywbeth ofnus iawn. Os wyt ti’n ffan o gorachod a diwedd hapus, yna paid darllen mwy! Mae’r gwir am Siôn Corn a’i ddilynwyr am fod yn llawer tywyllach!

Cychwynnais ymchwilio'r 19 Ganrif hwyr yn yr Iseldiroedd a darllenais am ddyn o’r enw Sinterklaas, oedd yn edrych yn debyg iawn i Siôn Corn, ond roedd yn denau ac yn gwisgo fel archesgob. Roedd wedi bod o gwmpas am hir, ond dim ond yn 1845 penderfynodd ei fod angen staff, felly prynodd fachgen caethwas Affricanaidd o’r enw Peter. Sylwodd fod caethweision yn gwneud ei fywyd yn llawer haws, ac erbyn yn 1900au roedd wedi prynu clwstwr ohonynt. I gadw pethau’n hawdd rhoddodd yr un enw iddynt i gyd: Zwarte Pieten, sydd yn cyfieithu fel “Pete Ddu”.

Christmas traditions around the world

Oedd, roedd gan Siôn Corn gaethweision. Roedd hefyd yn denau ar un tro. Ond dim ond crafu’r wyneb mae hyn.

Efo diddordeb mawr yn sut y daw’r “caethweision” yn “gorachod”, ac yn amau fod rhyw sensor ofalus wedi cael ei roi ar y stori wreiddiol, edrychais yn ddyfnach i mewn i gefndir cymylog Siôn Corn.

Gwranda ar hyn: yn ôl llên Gwlad yr Iâ, roedd rhieni Siôn Corn yn fwystfilod o’r enw Gryla a Leppalud. Yn ôl yn y 13 Ganrif ganwyd 13 o blant drygionus (un o’r rhain yn debyg oedd Siôn Corn). Roedd brodyr a chwiorydd Siôn Corn yn cynnwys Hurdskellir (neu ‘Y Clepiwr Drws’), Pottasleikir (‘Y Llyfwr Potiau’), ‘Y Cipolwg Trwy'r Ffenestri’, ‘Y Cipiwr Selsig', ‘Yr Arogleuwr Drysau’ a nifer o blant gwyllt eraill. Wow.

Roedd pob un o’r 13 plentyn yn rhoi anrhegion i fechgyn a genethod da, ond dim ond ar ôl pythefnos o beri drygioni a difrod arnynt. A’r plant drwg? Roeddent yn cael eu herwgipio ac yn cael eu bwydo i rieni bwystfil Siôn Corn.

Felly roedd Siôn Corn yn droseddwr pitw oedd ar adegau yn helpu i herwgipio plant afreolus a bwydo nhw i’w rieni, oedd yn FWYSTFILOD.

Ond fedrwn ni ddim beio ef am gael plentyndod caled a rhieni od. Mae’n rhaid bod y stori yn gwella? Mae'n rhaid??

Wel, fe ddilynais ei stori i Roeg, lle'r oedd ef a’i deulu bwystfil direidus yn cael eu hadnabod fel y Kalikantzari ac yn ddrwg-enwog am ddringo i lawr simneiau pobl a phiso ar eu tân. Roedd y ddelwedd swynol o’r hen Sant Nicolas wedi diflannu o’m meddwl. Ond pan na allwn ddarganfod mwy i'r stori: amlygodd chwedlau Nadolig gwledydd eraill yr un hen straeon am ddyn ar anifail oedd yn hedfan (fel arfer yn geffyl neu bac o geirw) yn dosbarthu anrhegion. Cychwynnais feddwl fod Siôn Corn wedi datgysylltu ei hun oddi wrth ei frodyr direidus a’i rieni llofruddiog ac yn ceisio cywiro ei gamau drwy ddod a llawenydd a hapusrwydd i’r byd, a chychwynnais gynhesu tuag ato unwaith eto. Yn lle ymchwilio stori cefndir Siôn Corn canolbwyntiais ar y penbleth uchod am hosanau anferth a glo.

A dyna sut dysgais am Krampus.

krampus1

Cyn y corachod. Cyn y caethweision. Roedd Krampus.

Dwi’n dyfynnu:

“Mae Krampus yn ddiafol wedi’i rwymo sydd yn hebrwng y Sant Nikolo caredig ar noswyl ei ddiwrnod. Mae Nikolo yn rhoi prawf i’r plant gyda'u catecism ac ymddygiad da. Os ydynt yn pasio mae’n rhoi anrhegion iddynt. Os ydynt yn aflwyddo, mae Krampus yn cael ei adael yn rhydd i ddelio gyda’r plant drwg yma; yn waeth na lympiau o glo a thatws drwg, gallai hefyd ddefnyddio gwialen o frigau i guro nhw ac ymosod ar y plant drwg mewn ffyrdd eraill... yn rhoi blas iddynt o’r Uffern sydd i ddod.”

Yn ôl llên gwerin Awstria, mae Sant Niclas yn penderfynu os ydy plant yn ‘ddrwg’ neu’n ‘dda’ drwy ymddangos ger y drws a rhoi prawf iddynt. Ac mae’n dod a’i gythraul gydag ef rhag ofn iddynt ffaelu’r prawf.

“Roedd [Sant Niclas] yn cyhoeddi dyfarniad ar y plant, yn rhoi prawf iddynt ar eu catecism ac yn gwobrwyo’u perfformiad gydag un a’i anrheg neu gosb gan ei was, Krampus. Mewn rhai o’r traddodiadau Ruprecht byddai’r plant yn cael ei galw i’r drws i berfformio triciau, fel dawnsio neu ganu cân i greu argraff ar Siôn Corn eu bod nhw’n wir blant da. Roedd y rhai oedd yn perfformio’n wael yn cael eu curo yn drwm, a’r rhai oedd yn perfformio yn dda yn cael anrhegion. Roedd y rhai oedd yn perfformio digon drwg neu oedd wedi bod yn cyflawni camweddau trwy’r flwyddyn yn cael ei rhoi mewn sach ac yn cael ei lluchio i mewn i afon.”

Felly dyna yw pwrpas sach Siôn Corn: boddi plant! Ond beth ydy pwrpas yr hosanau? Sut maen nhw'n gysylltiedig?

“Ar noswyl Diwrnod Sant Nikolo mae plant yn cael ei rhoi i’w gwlâu ac yn cael ei rhybuddio o’r perygl. Efallai gallent osgoi ymweliad uniongyrchol drwy adael esgidiau tu allan i’r drws. Os ydynt yn cysgu’n sownd, ni fydd rhaid delio gyda’r prawf, ac ar fore Dydd Sant Nikolo byddent un a’i yn darganfod anrhegion bach yn yr esgidiau, neu wialen (ffyn i guro rhywun), lwmp o glo, neu datws drwg. Mae disgwyliad i’r rhieni ddefnyddio’r wialen ar y plant hyn sydd wedi cael ei dynodi fel bod yn ddrwg iawn.”

Felly dyna ti: roedd Siôn Corn yn berson ifanc afreolus a drwg wedi’i eni i fwystfilod llofruddiog. Nid yw’n cadw corachod; mae’n cadw caethweision. Ac os wyt ti’n dawnsio'n ddrwg bydd yn piso yn dy le tân ac yn cael ei gythraul i luchio ti mewn sach a thaflu ti mewn afon. (Ochr wrth ochr mae The Night Before Christmas yn edrych yn ddiflas iawn o gymharu...)

Felly pwy sy'n edrych ymlaen at ymweliad ganddo'r Nadolig hwn?

Ffynonellau:

David Sedaris: Six To Eight Black Men (Mae’n rhaid i ffans ysgrifennu creadigol ddarllen y darn byr, ffeithiol hwn am David Sedaris yn darganfod sut mae diwylliannau gwahanol yn dweud straeon gwahanol am Siôn Corn)

Martin S Pribble: Why Teach Kids Only Half The Story About Christmas?

Y New York Times: Have A Very Scary Christmas

Monstropedia: Krampus

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.