Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Amlygu Ffotograffydd: Peter Elliot

Posted by National Editor from National - Published on 04/12/2012 at 16:16
0 comments » - Tagged as Art, Culture, People, Yn Gymraeg

English version // Yn Saesneg

Yn y gyfres reolaidd hon, byddwn yn dathlu talentau CLICwyr ifanc tu ôl i'r camera.

Efallai dy fod di'n ymwybodol o'r tab galeriCLIC ar frig y dudalen hon – ond oeddet ti'n gwybod bod modd i ti gyflwyno dy luniau, gwaith celf a dyluniadau iddo trwy e-bostio gallery@cliconline.co.uk? Mae'r galeri yn agored hefyd i holl waith celf, gan gynnwys cartwnau, paentiadau, creadigaethau Photoshop a lluniau.

Yr ail ffotograffydd sy'n cael sylw ydy Peter Elliot o WICID yn Rhondda Cynon Taf, sydd yn esbonio'i ysbrydoliaeth ac yn rhoi cyngor i eraill:

"Y peth dwi'n mwynhau mwyaf ydy tynnu lluniau a gwneud i bobl chwerthin. Dwi hefyd yn hoffi'r teimlad ti'n cael o'r tu mewn pan ti'n dal delwedd dda. Y tro cyntaf i mi dynnu llun (rydw i'n cofio) oedd pan oeddwn i tua chwech oed, o mam a dad ar falconi ein gwesty yn Ibiza, ond wedyn darganfod mai dim ond llun o'u traed oedd o, ac nid eu hwynebau.

"Cynllun fi ydy gwneud ffotograffiaeth fel proffesiwn. Dwi eisiau rhedeg stiwdio fy hun yng Nghaerdydd yn rhywle, felly mewn tua 15 mlynedd, tyrd i weld fi! Y peth gorau i dynnu lluniau ohono i mi ydy pobl a thirluniau. Ond nid pobl oriog – maen nhw'n difetha'r hwyl.

"Cyngor fi i ddarpar ffotograffwyr eraill ydy i ddal ati. Pan ti'n meddwl dy fod di wedi cael y llun perffaith, gwna'n siŵr dy fod di'n tynnu'r llun mwy nag unwaith, rhag ofn bod rhywbeth yn digwydd y tro cyntaf a ti ddim yn sylwi yn syth. Ac, fel dywedodd Mark Twain yr awdur, 'Fedri di ddim dibynnu ar dy lygaid os ydy dy ddychymyg allan o ffocws.' Sicrha dy fod di'n defnyddio dy ddychymyg wrth dynnu lluniau, a chael hwyl.

"Dwi ddim efo llun gorau dwi wedi cymryd. Efo bob llun dwi'n cymryd, dwi'n edrych ar y cadarnhaol a'r negyddol ac yna'n ceisio gwella erbyn y tro nesaf. Felly mae gofyn i mi am fy ffefryn fel gofyn pa mor hir ydy darn o linyn. Fy ffotograffydd gorau ydy Mary McCartney, a dwi wrth fy modd efo'i llun o'i thad (Paul McCartney o The Beatles) efo'i gitâr, dwi'n meddwl bod o'n wych.

"Mae fy ysbrydoliaeth yn dod o'm hathro ffotograffiaeth, Peter Williams. Nid yn unig yw'n berchennog o stiwdio ei hun yng Nghaerdydd (fel dwi eisiau), ond mae hefyd yn gyfeillgar iawn ac mae pawb yn ei adnabod ac yn mynd ato am luniau. Dwi wedi cyfarfod ffotograffydd Dinas Caerdydd drwyddo, wedi cyfarfod George Michael drwyddo, ac wedi bod ar gae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd! Mae o'n hawdd dod ymlaen gydag ef a ni fyddwn i mor  hoff o ffotograffiaeth hebddo.

"Dwi'n teimlo'n freintiedig iawn ac wedi cael fy synnu i gael fy amlygu fel ffotograffydd, gan fod yna ffotograffwyr gwych yn ymglymedig â CLICarlein. Ond hoffwn ddiolch holl staff CLICarlein a WICID, ynghyd â'm tiwtor ffotograffiaeth, Peter Williams, am helpu gyda fy ffotograffiaeth ac i wella fy sgiliau a hyder. Dwi wir yn gwerthfawrogi hyn."

Edrycha ar beth o waith Peter Elliot uchod. Gallai dy waith di gael ei ddangos yma cyn hir. Cyflwyna dy stwff i gallery@clionline.co.uk.

Gwybodaeth – Ffotograffiaeth a Delweddau Digidol

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.