Amlygu Darlunydd: SynysterKatie
Dydy CLICarlein ddim ar gyfer ysgrifennu yn unig. Yn y gyfres reolaidd hon, rydym yn dathlu talentau gweledol CLICwyr creadigol: arlunwyr, ffotograffwyr, dylunwyr digidol a mwy.
Efallai dy fod di'n ymwybodol o'r tab galeriCLIC ar frig y dudalen hon – ond oeddet ti'n gwybod bod modd i ti gyflwyno dy luniau, gwaith celf a dyluniadau iddo drwy e-bostio gallery@cliconline.co.uk? Mae'r galeri yn agored hefyd i holl waith celf, gan gynnwys cartwnau, paentiadau, creadigaethau Photoshop a lluniau.
Y darlunydd sy'n cael ei amlygu gyntaf ydy SynysterKatie o WICID yn Rhondda Cynon Taf, sydd yn esbonio'i hysbrydoliaeth ac yn rhoi cyngor i eraill:
"Katie dwi, dwi'n 17 oed ac yn caru unrhyw beth sy'n wahanol i'r arferol ac ychydig yn 'freaky'. Dwi'n mwynhau’r pethau sy'n od ac yn greadigol. Dwi'n gwrando ar lawer genre o gerddoriaeth, ond y gorau mae'n rhaid dweud ydy roc a metel trwm. Mae'r math yma o gerddoriaeth yn ysbrydoli fi mewn nifer ffordd.
"Dwi'n mwynhau llawer agwedd o'r pwnc. Fel creu, meddwl am syniadau a gallu mynegi dy deimladau ac emosiynau trwy dy waith celf. Ond, pan ti'n gafael mewn pensel, beiro, neu frws nid oes cyfyngiadau rheolau a ffiniau. Gall neb feirniadu ti, na dweud wrthyt fod beth ti'n ei wneud yn gywir neu'n anghywir. Dy ddehongliad di ydyw a beth ti'n teimlo'n sydd yn iawn yn bersonol. Mae'n rhydd ac yn fynegiannol. Beth arall fyddet ti eisiau?
"Mae gen i ychydig o ddarnau dwi'n falch ohonynt, ond fy "mrenin o'r holl luniau" ydy un o fy narnau Anime. Dwi wrth fy modd gyda'r darn Alien Vs Predator hefyd. Un ai rheiny, neu'r pen draig. Ond mae gen i ffefryn arall hefyd, hwyneb wedi 'morffio' i mewn i benglog, mae rhai pobl yn meddwl ei fod yn gythryblus, ond dwi'n falch iawn ohono. Cafodd ei greu gyda dyfrlliwiau, beiro a phensiliau a chreda neu beidio, Tipp-Ex! Felly cafodd ei greu gydag amrywiaeth o gyfryngau.
"Mae'n bendant yn hobi mawr i mi. Dwi'n ei garu! Byddwn i'n drist iawn os nad fyddwn i yn cario fy hobi i mewn i yrfa. Mae pawb eisiau gyrfa maent yn ei fwynhau. Dwi eisiau bod yn arlunydd tatw, a dwi'n gwybod bydd angen llawer o waith a chysegriad, gan nad yw hwn y peth hawsaf i'w wneud. Nid yw'n llwybr gyrfa neu hobi mwyaf parchus chwaith. Ar y cyfan, dwi wir yn gobeithio i gael gwneud rhywbeth sydd yn cynnwys celf!
"Yr ysbrydoliaeth fwyaf dwi erioed wedi'i gael ydy Kat Von D (arlunydd tatŵ enwog yn LA.) Hi ydy'r diffiniad o brydferthwch, ac mae ganddi dalentau arlunio a thatŵo gwych. Hi ydy fy arwr, y person dwi'n edrych tuag ato am ysbrydoliaeth. Os dwi'n teimlo'n isel dwi'n edrych tuag ati hi, a'i gorffennol. Mae beth mae hi wedi bod drwyddo i gyrraedd ble mae hi yn arswydus, ac mae'n rhoi gobaith i fi. Ond os oes rhaid i mi roi ysbrydoliaeth arall, mam a dad fydda hynny. Maen nhw yn wastad wedi bod yno, a dwi'n gwybod ei fod yn swnio fel cliché, ond maen nhw wedi bod yn gefnogol, ac eisiau'r gorau i mi. Dwi'n gwybod bod nhw eisiau i mi gael gyrfa lwyddiannus a chael yr holl gyfleoedd i gyrraedd lle dwi eisiau bod. Maent yn gwthio fi i wneud mwy, sydd yn gwylltio rhywun ar adegau, ond dwi'n gyfrinachol ddiolchgar am hyn. A dwi'n siŵr byddaf yn buddio o hyn yn y dyfodol.
"Offer crefft gorau fi ydy'r beiro. Mae'n swnio'n hurt o ddiflas ond mae'r effaith mae'n gallu cael yn brydferth. Mae pensiliau wedi'u graddio yn tyfu arnaf, ond dwi'n meddwl mai'r hen feiro fydd yn parhau i fod yn ffefryn am byth.
"Dwi'n meddwl os oes rhaid i mi roi unrhyw awgrymiadau - paid poeni beth mae eraill yn feddwl. Mae hyn yn cael ei ddweud drwy'r adeg, ond bydda'n ti dy hun. Nid oes pwrpas mewn creu rhywbeth sydd ddim yn plesio ti, neu ti ddim yn gyffyrddus yn gwneud. Paid byth dweud celwydd wrthyt ti dy hun, a phaid ceisio bod yn well nag yr wyt ti'n barod. Gweithia i dy allu a chryfderau. Dwi'n gwneud yn groes i hyn, ac mae'n tynnu fi lawr. Felly dwi'n bod yn rhagrithiol, ond os wyt ti'n gwneud rhywbeth ti ddim yn dda iawn yn gwneud, fe fydd yn gwella. Cadwa ati i ymarfer ac ymarfer, bydd y gwaith yn talu yn y pen draw. Byddi di'n gwella trwy'r adeg, yn hen neu'n ifanc.
"CREDA YNDDO TI DY HUN!"
Edrycha ar rai o waith SynysterKatie uchod. Gall dy waith di gael ei ddangos yma'n fuan. Cyflwyna dy stwff i'r gallery@cliconline.co.uk
Clicia yma i weld ffotograffwyr sydd wedi'u hamlygu yn y gorffennol.
Gwybodaeth – Ffotograffiaeth a Delweddau Digidol