Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Amlygu Darlunydd: Snoo

Posted by National Editor from National - Published on 22/07/2013 at 12:22
0 comments » - Tagged as Art, Yn Gymraeg

English version // Yn Saesneg

Nid i'r rhai sy'n ysgrifennu yn unig mae CLICarlein. Yn y gyfres reolaidd hon rydym yn dathlu talentau gweledol CLICwyr creadigol: arlunwyr, ffotograffwyr, dylunwyr digidol a mwy.

Efallai dy fod di'n ymwybodol o'r tab galeriCLIC ar frig y dudalen hon – ond oeddet ti'n gwybod bod modd i ti gyflwyno dy luniau, gwaith celf a dyluniadau iddo drwy e-bostio gallery@cliconline.co.uk? Mae'r galeri yn agored hefyd i holl waith celf, gan gynnwys cartwnau, paentiadau, creadigaethau Photoshop a lluniau.

Ein hail ddarlunydd sy'n cael ei amlygu ydy Snoo o Young Newport, sydd yn esbonio beth sy'n ei hysbrydoli a chynnig cyngor i eraill:

"Beth dwi'n ei garu am arlunio ydy'r greadigaeth a'r rhyddid mae'n caniatáu. Dwi'n caru dangos meddyliau a theimladau drwy baentiad neu ddwdl, am ei bod, gan amlaf, yn haws i lunio rhywbeth na cheisio esbonio.

"Dwi'n bwriadu dod yn arlunydd proffesiynol, er ei fod wedi cychwyn fel hobi yn unig. Byddwn yn hoffi cael i mewn i gelf cysyniadau yn benodol os gallaf, oherwydd er ei fod yn broses hir o geisio gwahanol syniadau nes i ti gael beth mae'r cwsmer eisiau ar gyfer ffilm neu gêm, mae'r gelf sy'n cael ei gynhyrchu yn ysbrydoledig i'w weld a hoffwn fy ngwaith ysbrydoli artistiaid newydd yn y pen draw.

"Y peth dwi'n hoffi'i lunio orau ydy'r siâp dynol. Pan nad fyddaf yn sicr beth teimlaf fel llunio, dwi'n darganfod mod i'n gallu llunio ffigwr yn eithaf hawdd a'i wneud yn unigryw bob tro. Dwi'n cynghori unrhyw un sydd yn teimlo diffyg ysbrydoliaeth i dynnu llun o beth bynnag sydd o'u blaen ar y funud honno. Mae eistedd mewn siop coffi ac yn gwneud lluniau o'r amryw bobl sy'n pasio heibio, yn archebu diod neu'n eistedd i lawr yn ffordd hwyl a sydyn i wella. Nid oes rhaid iddo fod yn arbennig o dda, dim ond sgets sydyn ydyw, ond dwi'n meddwl ei fod yn helpu.

"Fy artist gorau ydy Feng Zhu. Mae ei gelf cysyniadau digidol, sydd fel arfer yn cael ei greu mewn ychydig oriau, yn ffynhonnell barhaol o ysbrydoliaeth i mi ac yn aml yn fy ngadael yn fud. Mae'r lefel o fanylder mae'n gallu cynnwys i mewn i ddelwedd yn wallgof a dwi wir yn gobeithio gallu cyrraedd rhywbeth sy'n agos at ei lefel ef o waith un dydd. Er dwi'n teimlo'n fwy cyffyrddus yn defnyddio paent a phensiliau, mae ei waith yn ysbrydoli fi i ymestyn allan o'm man cyffyrddus a gweithio gyda Photoshop a meddalwedd digidol arall.

"Mae cael fy amlygu yn y Galeri CLICarlein yn ganmoliaeth fawr a dwi'n werthfawrogol iawn am y cyfle i ddangos fy ngwaith i fwy o bobl. Gobeithio bydd yn ysbrydoli eraill i gyfrannu at y galeri a gall holl artistiaid CLIC helpu ei gilydd fwy, efallai yn gwneud gwaith ar y cyd hefyd. Diolch CLIC!"

Edrycha ar rhai o waith Snoo uchod. Gallai dy waith di ddangos yma cyn hir. Cyflwyno dy stwff i gallery@cliconline.co.uk.

CIicia yma i weld rhai o'r artistiaid amlygwyd cynt.

Gwybodaeth - Ffotograffiaeth a Delweddau Digidol

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.