Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Amlygu: Anorecsia & Bwlimia

Posted by archifCLICarchive from National - Published on 07/09/2010 at 13:55
0 comments » - Tagged as Culture, Education, Health, People, Topical

  • ano
  • ano
  • ano

English version

Rydym i gyd yn ymwybodol fod anhwylderau bwyta yn niweidiol, fod anorecsia a bwlimia yn gallu lladd, ond pam bod amcangyfrif o 1-3 y cant o ferched ifanc yn cael eu hystyried i fod yn dioddef o bwlimia ac 1-2 y cant pellach yn rhagweld i fod yn dioddef  o anorecsia?

Os ydym yn ymwybodol o’r peryglon, pam fod pobl yn parhau i ddioddef o’r anhwylder  meddwl hyn?

Rydym yn ddigon sydyn i bwyntio’r bys a beio’r cyfryngau, efallai yn gyfiawnadwy: rydym yn clywed yn gyson sut y dylem edrych, yn cael ein gwneud i deimlo cywilydd neu embaras parhaus am olwg.

Ond, fel y amlygir yn fy erthygl flaenorol ‘Yr Obsesiwn Corff’, gall tarddiad anhwylderau bwyta fod yn ddiffyg derbyniad personol a derbyniad gan gymdeithas. Mae hyn yn wir, heb ddylanwad o’r byd, ni fyddem yn gwybod beth mae ‘perffeithrwydd’ yn edrych fel, felly ni fyddem yn ceisio ymdrechu yn ddibwynt tuag ato.

Ond efallai fod dioddefwyr anorecsia a bwlimia y ffordd y maent nid yn unig o ganlyn dylanwad y cyfryngau a’r gymdeithas. A cyn i ni fedru helpu’r rhai sydd yn teimlo eu bod yn boddi mewn ton llanw o newynu hunan gorfodol, mae’n rhaid i ni ddeall pam eu bod yn teimlo’r angen i wneud hyn iddyn nhw eu hunain.

Ond fel y mae gyda phob anhwylder meddwl, maent yn gymhleth, gyda nifer o ffactorau yn cyfrannu tuag at y canlyniad o’r cyflwr dinistriol. Wrth gwrs fod y cyfryngau yn cael effaith arnynt, ond dim ond tanwydd i’r tn cynddeiriog o anhwylder bwyta ydy hyn.

Un o’r prif resymau i nifer o ddioddefwyr anorecsia a bwlimia ydy’r teimlad fod angen cosbi eu hunain. Efallai eu bod yn teimlo’n hyll, neu’n teimlo  nad ydynt yn ddigon da, yn siom. Felly maent yn cosbi eu hunain drwy beidio bwyta, neu fwyta gormod ac yna’n teimlo’n euog ac yn gorfodi eu hunain i fod yn sl.

Neu, i rai, efallai mai’r angen am reolaeth ydyw. Pan mae eu bywydau yn disgyn o’u cwmpas trwy deuluoedd yn gwahanu neu berthnasoedd yn cwympo, maent yn sylweddoli er nad oes rheolaeth ganddynt ar bethau, gall cael rheolaeth ar eu bwyta. Pan mae pwysau gorlethus arnynt i wneud rhywbeth mae rhywun arall eisiau iddynt ei wneud, maent yn sylweddoli nad oes neb yn gallu gorfodi iddynt fwyta. Dim ond y nhw sydd efo’r grym dros hynny.

Mae’r llywodraeth angen gwneud rhywbeth am hyn, maent angen cefnogi elusennau sydd yn helpu’r rhai sydd yn brwydro gydag anhwylderau bwyta, ac nid yn ddiawydd. Mae’r genhedlaeth hon angen gwybod y gall cael cefnogaeth, fod cymorth ar gael. Mae pawb angen adnabod yr arwyddion o anhwylder bwyta, fel y gallent helpu eraill.

Rwyf yn ysgrifennu’r erthygl hwn gyda thipyn o frys, ac rwyf yn ei ysgrifennu i roi cysur i’r rhai sydd yn dioddef neu adnabod rhywun sydd yn dioddef o anhwylder bwyta. Mae cymorth ar gael mewn nifer ffurf wahanol, o’r rhyngrwyd a llinellau cymorth, i lyfrau a thaflenni, mae yna bobl sydd eisiau helpu’r rhai gydag anhwylderau bwyta, gall hyd yn oed siarad gyda ffrind dy helpu.

Os wyt ti’n dioddef o anhwylder bwyta neu yn adnabod rhywun sydd yn, cysyllta gyda Meic, sefydliad sydd wedi’i sefydlu i gynnig cymorth i bobl ifanc o dan 25 oed sydd yn profi problemau ac angen siarad gyda rhywun. Gall alw nhw ar 08088023456, neges testun ar 84001, negeseua sydyn (IM) ar eu gwefan www.meiccymru.org neu hyd yn oed e-bostio nhw ar help@meiccymru.org. Cofia nad wyt ti ar dy ben dy hun.

Linciau Perthnasol:

Gwybodaeth >> Iechyd >> Anhwylderau Bwyta

Sefydliadau >> beat: BEATing disorders

Sefydliadau >> theSprout Direct

Newyddion y BBC: Girl guides yn galw am labelu lluniau sydd wedi’u haltro.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.