Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Adolygiad: The Wanted – Taith Word Of Mouth 2014

Posted by MediaManiac from Cardiff - Published on 01/04/2014 at 15:13
0 comments » - Tagged as Comedy, Music, People

  • wanted

English version // Yn Saesneg

The Wanted – Taith Word of Mouth 2014 gyda Elyar Fox, The Vamps, a Despicable Me?

Arena Motorpoint, Caerdydd

Dydd Gwener 28ain Mawrth 2014

Dydd Gwener, roedd fy ffrind Molly a finnau yn ddigon lwcus i fynd i weld fy mand gorau, The Wanted, yn fyw mewn cyngerdd! Roedd yn anhygoel!

Cychwynnodd popeth am 6:30yh pan agorodd y drysau (ond nid oeddem yno oherwydd roeddem yn brysur yn stwffio pitsa i'n hwynebau gartref!) ond roedd yna awr nes bydda Elyar Fox yn dod i'r llwyfan i gychwyn y sioe.

Cyrhaeddom am 7:15yh gyda'n tocynnau a baner yn dweud "GLOW IN THE DARK" sef un o'r caneuon ar yr albwm newydd ac roedd gennym oleuadau o'i gwmpas ac roeddem wedi dwdlan drosto! Roeddem wedi gweithio mor galed arno. Nes (dun dun dun). Dywedodd y dyn cas wrth y drws "Bydd rhaid i ni gymryd hwnna gennych chi yn anffodus". Dyn cas iawn. Mi fetia'i ei fod yn ysbïwr cyfrinachol i El Macho a'i fod wedi gadael byd Despicable Me er mwyn difetha breuddwydion pobl ifanc. Neu efallai mai El Macho oedd o, roedd o'n edrych yn debyg (dun dun duuuun).

(Anwybydda hynna! Dim ond fy obsesiwn gyda Despicable Me sy'n siarad! Wel, o leiaf dwi ddim wedi dod a Pharrell i mewn i hyn, yna byddem wedi bod yma am sbel! "Because I'm happyyy")

Cawsom i mewn (yei)! Pan roeddem yno, aethom yn syth i'r siop (genethod ifanc ydym ni wedi'r cwbl)! Prynais grys-T y daith a'r rhaglen. Dwi dal ddim wedi tynnu'r Crys-T i ffwrdd eto! Mae mor werthfawr.

Elyar Fox

Ar ôl darganfod ein seddi ar y balconi (roeddent yn seddi eithaf da) eisteddom, a disgwyl (ac yna sgrechian)! Cychwynnodd y cyflwyniad i Do It All Over Again chwarae ac yna'n sydyn, o ochr y llwyfan daeth Elyar Afshari neu Elyar Fox! Cychwynnodd gyda Do It All Over Again, roeddem i gyd yn neidio dros y lle i'r curiad. Yna canodd ei gân newydd oedd wedi'i ysgrifennu ar y bws taith o'r enw Lovers (rydym yn gwybod fod y gân wedi'i ysgrifennu ar y bws ar ôl gweld ei fideo ar Facebook). Yna fe wnaeth fersiwn o'r sengl rhif un Rather Be gan Clean Bandit.

Ei gân nesaf oedd cân ysgrifennodd pan oedd yn 15 ac roedd yn berffaith! Smile oedd ei enw (ac fe wnaeth i mi wenu hefyd)! Y cân diwethaf ar y set oedd "There's a billion girls in the world but there's only one youuu" Billion Girls! Yn ystod ei set, roedd yn rhoi'r cyfle i bobl fynd tu ôl i'r llwyfan – dim ond iddynt ei ddilyn a'i tweetio gyda #imcardiffsbillionthgirl (dwi'n meddwl!). Roeddwn am wneud ond ffôn da i ddim sydd gen i!

The Vamps

Roedd yna egwyl fach i The Vamps baratoi (ia dyna ti, The Vamps). Maent yn cychwyn gyda'r fideo i Last Night. Yn ystod y fideo, roeddent yn ceisio dod ar y llwyfan heb i neb sylwi ond doedd hynny ddim yn llwyddiannus iawn! Roedd yr arena gyfan wedi'u gweld ac yn dechrau sgrechian! Oeddet ti'n gwybod fod Tristan (drymiwr The Vamps) yn hanner Cymraeg?! Parhawyd gyda'r gân Last Night pan ddaethant ar y llwyfan, oedd yn anhygoel. Yna canwyd eu cân newydd o'u halbwm, Girls On TV. Mae'n fachog iawn.

Yna daeth eu sengl gyntaf Can We Dance, oedd yn anhygoel. I orffen yr hanner awr anhygoel, chwaraewyd un o'u caneuon newydd "Cecilia, you're breaking my heart. You're shaking my confidence baby". Ddim yn gwybod beth yw ei enw? Wel, fe ddylet ti. Cecilia! Yn ystod y set cawsom flas pum eiliad yr un o'u halbwm cyntaf sydd yn dod allan mis nesaf dwi'n meddwl. Dwi ddim yn siŵr, ond dwi'n gwybod ei fod yn dod!

Iawn, nawr bod y perfformwyr agoriadol wedi gorffen, dwi'n meddwl ein bod yn gwybod beth sydd i ddod nesaf. Drymiau plîs… The Wanted!

The Wanted

Cychwynnodd gyda'r sengl Comic Relief 2011 Gold Forever, oedd yn llwyddiant mawr gyda'r dorf! Yna cân o'u halbwm newydd Word Of Mouth, sef themâu ein baner cyn i El Macho ei gymryd! Lleidr breuddwydion pobl ifanc!! Ti wedi dyfalu! "You glow in the daaark…I can see you" Glow in the Dark! Roedd y gân nesaf hefyd o'r albwm newydd a'i enw oedd In The Middle. Hefyd yn llwyddiant efo'r dorf (gad i ni wynebu'r peth, mae popeth yn llwyddiant efo'r dorf!). Dwi'n eithaf sicr dy fod wedi clywed am gân o'r enw Lightning? Na? Wel ta! Y gân yna oedd nesaf! A wow! Roedd yn anhygoel!

Cyn i mi fynd ymlaen, mae pawb yn gwybod pwy ydy The Wanted ydy? Wel, y bechgyn: Max, Siva, Jay, Nathan, Tom. Y cariadon: Nareesha (Siva) (maent wedi dyweddïo nawr), Kelsey (Tom) (sori, ond dwi wrth fy modd efo Tomsey, maen nhw'n anhygoel o berffaith!), Nina (Max). Y cyn-gariadon: Ariana (Nathan) (ILYSM Ariana!), Dionne (Nathan), Michelle (Max) (Mae yna gryn dipyn o cyn-gariadon hefyd felly dwi am ei adael ar hynny!). Rheolwr: Scooter Braun, Nano. Gard Diogelwch: Big Kev. Mae pawb efo aelodau teulu ond nid oes digon o amser am hynny!

Iawn, nawr bod hynny wedi'i wneud, gad i ni fynd yn ôl at y sioe! Nawr, ble oeddwn i wedi cyrraedd? O ia, Lightning! Y gân nesaf ydy ffefryn Nathan (neu fel mae Keith Lemon yn ei ddweud: Nat-Han): Running Out Of Reasons. Roedd dwylo pawb yn yr awyr yn chwifio i'r chwith a'r dde! Wedyn roedd pawb efo'i offeryn i chwarae cân dwi'n ei garu ac un wnaeth Jay a Siva ysgrifennu, 'Demons In My Head' (dwi ddim yn seico, dyna'r geiriau!). Roedd y gân nesaf yn gwestiwn ond anghofiwyd y marc cwestiwn! Drwg, drwg! Could This Be Love oedd o.

Yna  dangoswyd i'r arena sut i roi sioe anhygoel ymlaen drwy ychwanegu tân! Yn llythrennol! Roedd Warzone wir yn seren y sioe (efallai am fod Jay a Siva yn gwneud y tango!). Ar ôl y gân yma oedd y tro cyntaf iddynt fynd oddi ar y llwyfan i newid gwisg. Fel na fyddem wedi diflasu yn ystod y newidiadau gwisg, roedd fideos bach atgofion wedi cael eu creu. Ac fe wnes i ffilmio'r rhain hefyd yn amlwg (dwi wedi ffilmio'r cyngerdd cyfan i ddweud y gwir!). Pan ddaethant yn ôl i mewn yn eu dillad newydd, fe wnaethant gymysgedd o'u caneuon gorau o'r albwm cyntaf. Roedd hwn yn amlwg yn un o'r adegau mwyaf anhygoel! Yna perfformiwyd un o'm nghaneuon gorau o'r albwm newydd. Ac nid dim ond ei chwarae oedden nhw, ond yn gwneud fersiwn acwstig oedd yn berffaith. Mae Everybody Knows yn sôn am ferch oedd yn mynd allan efo bachgen a… dwi ddim yn gwybod ble dwi'n mynd efo hyn! Symud ymlaen!

"They'll never be a Heartbreak Story" oedd y gân nesaf o'r albwm newydd! Wow, faint ydw i wedi 'sgwennu? Mae'n rhaid dy fod di wedi clywed am faled bachgen penodol efo llinynnau ynddo? A'i enw ydy Show Me Love? Na? Wow, beth sydd yn bod efo ti? Fideo du a gwyn? Dwi'n methu credu! Nawr, mae'n rhaid dy fod di wedi clywed am y gân Heart Vacancy? Ti wedi? O'r diwedd! Fel arfer maent yn dewis pump o enethod, un i bob aelod, ac yn canu iddyn nhw, a nhw ydy'r Heart Vacancy Girls (neu Boys) wedyn, ond wnaethon nhw ddim! Dwi ddim yn gwybod pam, ond roedd y darn yna yn siomedig.

Aethant i newid eu gwisgoedd am yr ail waith a chafwyd fideo atgofion arall, ac fe griais! Cychwynnwyd eto efo Walks Like Rihanna, oedd yn llwyddiant mawr!

Roedd pawb yn un ai'n neidio neu'n dawnsio neu'r ddau! Roeddwn i'n gwneud y ddau am fy mod i'n arbennig! "You'll find us chasing the sun!" oedd nesaf ac unwaith eto roedd yn llwyddiant mawr efo'r dorf. Yna perfformiwyd I Found You gyda'u symudiadau dawnsio creadigol! Roeddwn i'n chwerthin, yn canu ac yn crio drwy'r holl beth! Gorffennwyd y cyngerdd gyda'r llwyddiant tafarn Gwyddelig We Own The Night. Yntau oedden nhw? Ar ôl bowio i'r ffans oedd yn addoli nhw a mynd oddi ar y llwyfan, daethant yn ôl i orffen gyda'r sengl gyntaf All Time Low a'r llwyddiant mawr Glad You Came! Roedd y sgrechian yn anhygoel! Roedden nhw mor uchel!

Dwi'n meddwl mai uchafbwynt y noson oedd yn ystod Show Me Love, ac roedd tua dau ran o dri o'r dorf wedi codi arwyddion anfeidredd (infinity) gyda "TWFANMILY" wedi ysgrifennu ar yr ochr. Roedd fi a Molly eisiau un! Uchafbwynt arall oedd dawnsio Jay!

Dilyna nhw ar Twitter.
@thewanted
@NathanTheWanted
@JayTheWanted
@MaxTheWanted
@TomTheWanted
@SivaTheWanted

Felly dwi eisiau gwybod beth wyt ti'n feddwl o'm herthygl? Es di? Sut oedd o? Os nad es di, oeddet ti eisiau? Wyt ti'n hoffi The Wanted? Os felly, pam? Os ddim, pam? Os wyt ti wedi bod i gyngerdd yn ddiweddar yna dweud wrtha i amdano. Wyt ti'n meddwl mai El Macho ydy'r Dyn Cas ar y Drws? Dweud wrtha i be gefais di i ginio dydd Gwener! Gad sylwad!

Cariad mawr MediaManiac xx

O.N: Wyt ti'n hoffi pethau am ddim? Cael hwyl? Bwyta bisgedi? Yna tyrd draw i gyfarfod Grŵp Golygyddol theSprout! Ar ddydd Iau diwethaf bob mis yn Llyfrgell Caerdydd yn y dref. Mae'n cael ei gynnal rhwng 16:30 a 18:00. Mae rhywun yn cael dod! Ti'n cael cyfle i fynd a phethau gartref, ac os wyt ti'n adolygu nhw, ti'n cael cadw nhw! Pa mor anhygoel ydy hynny? Anhygoel iawn! A phaid anghofio, bisgedi am ddim!

Eisiau ennill crys-T Sprout? Llenwa Arolwg Bodlonrwydd theSprout!

Gwybodaeth – Gigs, Cyngherddau, Digwyddiadau a Gwyliau

Digwyddiadau – Cyfarfod Grŵp Golygyddol Sprout: Ebrill 2014

Rhwydwaith Cerddorion Ifanc Caerdydd ar Facebook

Ar y We – Gwybodaeth Diogelwch

Erthygl – Categorïau - Cerddoriaeth

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.